Yn gwawrio eto ac yn darfod byth
Pregeth yn y Cymun Bendigaid ar Gân ar y Chweched Sul wedi’r Drindod 2023 yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor • Trefn y gwasanaeth
“I’r dŵr dwfn.” “Paid ag ofni.” “O hyn allan.”
Rhyw 4,000 o flynyddoedd yn ôl, fe fu farw un ar Ynys Môn.
Tybed os mai dyn pwreus oedd o? Tybed os mai dynes oedd hi, a hithau’n adnabyddus ei haddfwynder? Neu dybed a fu’r gaeaf’n arbennig o arw y flwyddyn honno, ac i’r farwolaeth ygwanwyn hwnnw fod yn ystygwad i’r carn. Beth bynnag fo’r rheswm, a phwy bynnag yr ymadawedig, fe wnaeth y tylwyth rywbeth nad oeddent wedi’i wneud o’r blaen bryd hynny. Dyma gludo’r corff o’r pentref — y casgliad hwnnw o gytiau crynion syml a oedd yn gysgod iddyn nhw — a’i gario dros gefn gwlad Môn i hengor bychan, cylch o feini hirion. Wyddon ni ddim a wydden nhw mai eu cyndadau nhw, yn eu tro, gododd y cylch hwnnw rhyw fil o flynyddoedd ynghynt; neu efallai mai rhan naturiol o’r dirwedd oedden nhw’n eu tyb nhw; neu dybed a deimlent nhw rhyw ddigeledd yn y cylch. Ond, doed a ddêl, o fewn yr hengor hwnnw dyma osod y corff; a chyrff eraill ar ei ôl. Trwy ganol y cylch o feini hirion dyma godi meini hirion eraill eu hunain gyda linteli ar eu pen, gan ffurfio cyntedd orchuddiedig syth a chul; a thros y gyntedd honno dyma godi twmpath, carnedd o bridd. Bu iddyn nhw osod y cerrig mewnol i ffurfio’r gyntedd honno â’r fath ofal nes, pob Alban Hefin, a hithau’n ddydd hwyaf y flwyddyn, i’r haul godi dros fynyddoedd Eryri y tu hwnt i’r Fenai, a thywynnu ei belydrau’n unionsyth trwy gerrig y porth a chanol y garnedd. Ac felly, am 4,000 o flynyddoedd, ac eto dair wythnos yn ôl, mae’r haul wedi codi ar Alban Hefin, a rhyw fwriad cyfrin wedi ei wireddu ym Mryn Celli Ddu.
Os gwir y gred i bentref Llanddaniel Fab, y drws nesa i Fryn Celli Ddu, ddwyn ei enw am i fab Deiniol, sylfaenydd fan hyn, ymgartrefu yno a chodi yno ei fangor ei hun ym mlynyddoedd cynnar y seithfed ganrif, yna’r bore o’r blaen, wrth i Iestyn a minnau bererndota o Landdaniel i Fangor, dilyn wnaethom ni yn ôl troed y mab hwnnw’n dychwelyd i fangor ei dad. Pererindota wnaethom ni hefo’r bwriad maes o law o lansio llwybr pererinion newydd o Landdaniel i Fangor. A dechrau’r daith wnaethom ni yng nghrombil maen gladdu Bryn Celli Ddu.
Mae croeso i chi weld y daith honno, o heneb Oes y Cerrig, ar hyd y Fenai, i wareidd-dra Athen y Gogledd, fel taith o ofergoeliaeth neolithig i oleuni Cristnogol cliriach y fangre hon. Ond, wrth i mi sefyll yno ym Mryn Celli Ddu, ar gychwyn ein pererindod ni fore Gwener, mi deimlwn i fwy o gyswllt na phellter rhyngddo i a’r rhai hynny, bedair mileniwm yn ôl, fu yno’n adeiladu… fu yno’n gorwedd. Y bryn bach hwnnw o ddaear las, mor gartrefol yn ei filltir sgwar, ond yn rhyw fath o fendith ddirgel, yn rhyw fath o ledrithio’r lle, hefyd; y cyntedd hwnnw o feini gleision lle y bu i angau a goleuni unwaith gwrdd â’i gilydd mewn hedd; y lle syml hwnnw yng nghanol llonyddwch Môn, yn feichiog ag addewid y wawr, addewid bywyd newydd, addewid dechrau newydd.
Mae yna bregeth famma, medda fi, a’n nhraed i’n wlyb yn y gwair.
“I’r dŵr dwfn.” “Paid ag ofni.” “O hyn allan.” Dyna ichi naw gair, mewn tri ymadrodd, ar wefusau Iesu, sy’n fy nharo i yn Efengyl heddiw.
“I’r dŵr dwfn” y mae Iesu’n anfon ei ddisgyblion digalon i fwrw eu rhwydi. Maent wedi bod yn pysgota trwy’r nos, ac nid pysgota addfwyn o fwrw gwiail ac aros yn amyneddgar ydi eu pysgota nhw, ond llusgo clamp o rwyd drom, a dal ynddi’r noson honno ddim byd o gwbl. Ond wrth ddynion blinedig, anobeithio, digalon, meddai Iesu, “Ewch allan i’r dŵr dwfn, a gollyngwch eich rhwydau am ddalfa.” Dylai gwrando ar Grist, dilyn Crist, ceisio Crist, ein gorchwyl gydol-oes ni, fod yn fenter o brofi gwefr y dyfnder hwnnw oddi tanom ni; y disgwyliad eiddgar o hofran dros wyneb y dyfnder fel ar foment y Creu; o ragweld yn obeithiol y bydd Duw yn darparu o’r dyfroedd dyfnion hynny ddigonedd i lethu pob gofid ac anobaith am berwyl a phwrpas bywyd. “I’r dŵr dwfn.”
“Paid ag ofni,” meddai wrth Pedr. Yn wyneb gallu arwydus Duw, y cariad llethol, helaeth hwnnw, y daioni perffaith hwnnw sy’n dileu pob gofid ac sy’n llawn pob ystyr — yn wyneb Duw hwnnw sy’n medru llenwi’r ddau gwch nes eu bod ar suddo — yn wyneb yr arswyd hwnnw, mae Pedr yn syrthio wrth liniau Iesu gan ddweud, “Dos ymaith oddi wrthyf, oherwydd dyn pechadurus wyf fi.” Tydw i fyth mor ymwybodol o’m diffygion fy hun, o’m mriwiau fy hun, o’m pechod fy hun, â phan fydda’i’n sefyll wyneb yn wyneb â’r hyn sy’n brydferth; tydw i byth yn wylo drosof fy hun fwy na phan y câ’i ’nghofleidio gan yr hyn sydd y tu hwnt i bob mesur yn hael a charedig. Mae’n un o baradocsau cred ein bod ni, o’n dwyn ni i bresenoldeb Gwirionedd a Chariad perffaith, yn aml yn ymateb, nid yn llawen, ond yn llawn pryder am ein cywilydd a’n heuogrwydd ein hunain. Ac wrth y gofid hwnnw, mae Iesu’n llefaru’r geiriau hynny sydd ar wefusau Duw gydol y Beibl — y geiriau a glywir gan Abraham a Hagar, gan Joseff a Moses, gan Paul a’r Philipiaid a Ioan y Difinydd, gan weddw Elias, gan y bugeiliaid ar y bryn, a Mair yn y Chyfarchiad: “Paid ag ofni.” “Paid ag ofni. Canys byddaf gyda thi, ac a’th fendithiaf.” (Genesis 26:24) “Nac ofnwch. Canys wele, yr wyf fi yn mynegi i chwi newyddion da o lawenydd mawr.” (Luc 2:10) “Paid ag ofni. Canys ti a gefaist ffafr gyda Duw.” (Luc 1:30) “Nac ofnwch; myfi yw’r cyntaf a’r diwethaf.” (Datguddiad 1:17) “Paid ag ofni. gwaredais di: gelwais di erbyn dy enw; eiddof fi ydwyt.” (Eseia 43:1) Gwrando ar Grist, dilyn Crist, ceisio Crist — menter ydi hynny o adnabod ein maddeuant; o dderbyn ein bod ni, beth bynnag fo’n cywilydd cudd ni, wedi ein derbyn gan galon Duw; o brofi ein bod ni wedi’n rhyddhau o bob euogrwydd. “Paid ag ofni.”
“O hyn allan.” “O hyn allan dal dynion y byddi di,” meddai Iesu wrth Pedr. O hyn allan, o’r rwan hyn, meddai Iesu wrth Pedr, dyma ddechrau cyfnod newydd o wrando, o ddilyn, o geisio. O hyn allan, does na’m angen poeni am y gorffennol, y beichiau da chi wedi’u cario, am yr ofnau sydd wedi’ch cipio chi, hyd yn oed y pechu da chi wedi’i wneud. O hyn allan, dyma ddechrau newydd. Mae “O hyn allan” yn un o hoff ymadroddion Efengyl Luc — “O hyn allan”, “O’r rwan hyn”, “O hyn ymlaen, heb droi’n ôl” — dyma i chi ymadrodd sy’n llawn gobaith, yn llawn addewid mawr ei angen. Oblegid, wrth i ni, fel Pedr, wrando ar Grist, a dilyn Crist, a cheisio Crist, methu wnawn ni, dro ar ôl tro; methu a baglu, galaru a cholli — dyna fydd ein hanes ni. Ond yng nghanol pob methu, yng nghanol pob profedigaeth, fe glywn ni Dduw yn dweud “O hyn allan.” Y wawr honno, y dydd newydd hwnnw; yr addewid a’r gobaith cyson a gawn ni yng Nghrist, bod na wastad fywyd, bod na wastad du hwnt, y daw haul ar fryn, a golau unionsyth, a dechrau newydd.
“I’r dŵr dwfn.” “Paid ag ofni.” “O hyn allan.”
Mae ein cyfres o bregethau yn edrych y tymor hwn ar genhadaeth yr Eglwys, ac ar alwad pob un ohonom, i drydau’n cred, i drawsblannu’n cred, i dendio’n gilydd, i drawsnewid ein byd, i drysori’r greadigaeth. Weithiau gallwn glywed y galwadau hynny yn ofidus. Mae modd i fywyd Cristnogol gael ei yrru’n ormodol gan ddyletswydd a rhyw barchedig ofn yn wyneb disgwyliadau pobl eraill; ac y mae modd i ddysgeidiaeth yr Eglwys, i’n pregethu ni, fod naill ai mor ddof rhan ofn iddo fo’n herio ni, neu’n rhy gyfyng rhag i ni feddwl drosom ni’n hunain.
Yn y cwch hwnnw hefo Iesu — meddyliwch amdano fel rhyw Fryn Celli Ddu â’i ben i waered — mae Iesu yn ein dysgu ni, nid sut i basio arholiad, nid sut i fod yn bobl barchus, yn bobl dda hyd yn oed, ond sut i weld y golau. “Dos allan i’r dŵr dwfn,” mae o’n ein dysgu ni, oherwydd yn y dyfnder hwnnw y cei di ystyr. “Paid ag ofni,” mae o’n ein dysgu ni; mi wyt ti mor annwyl imi, y cyfan ohonot ti. “O hyn allan,” mae o’n ein dysgu ni, o rwan, a rwan, a rwan drachefn, y mae bywyd yn dechrau, ac yn dechrau, ac yn dechrau eto; a Ffydd, a Gobaith, a Chariad, yn gwawrio eto ac yn darfod byth.