Tawel lwybrau gweddi
Pregeth ar y Chweched Sul wedi’r Drindod
Eglwys Sant Fagan, Aberdâr; 28 Gorffennaf 2019
Genesis 18. 20–32; Salm 138; Colosiaid 2. 6–19; Sant Luc 11. 1–13
“I dawel lwybrau gweddi yn fynych arwain fi”
+ In nomine
Geiriau o’n hemyn agoriadol ni gan y bard a’r gweinidog, Elfed: “I dawel lwybrau gweddi yn fynych arwain fi”
Mae na rywbeth ingol am ein darlleniad ni o Efengyl Luc prynhawn ma. Dyma Luc yn cofnodi’r hanesyn am Iesu’n dysgu ei ddisgyblion i weddïo, ar ôl iddynt hwythau weld Iesu ei hun yn ddwfn mewn gweddi. “Arglwydd,” medden nhw wrtho, “dysg i ni weddïo, fel y dysgodd Ioan yntau i’w ddisgyblion ef.”A dyma Iesu’n eu hannog i weddïo’r geiriau hynny sy’n gyfarwydd i ni fel Gweddi’r Arglwydd. “Dad, sancteiddier dy enw.”
Mae amlwg, erbyn i Luc gofnodi’r hanesyn hwn yn ei efengyl, bod geiriau’r weddi hon yn eiriau cyfarfwydd i Gristnogion yr Eglwys Fore. Dyma eiriau oedd yn garreg filltir iddyn nhw ar hyd lwybr gweddi. A dyna’r peth ingol, y peth sy’n achosi ias i redeg lawn fy nghefn i. Bron i ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, mi oedd na gymunedau o Gristnogion cynnar, yn Dwyrain Canol ac yn ninasoedd Môr y Canoldir, yn gweddïo gan ddefnyddio’r union un eiriau sy’n gyfarwydd i ni. Mewn goruwch ysatafelloedd yn Jerwsalem, yng nghanol bwrlwm marchnadoedd Antioch, yng nghymunedau eglwysig tandaearol Rhufain, dyma’r geiriau oedd ar dafod y Cristnogion cynnar yno — y neu gobiath nhw, yng nghanol eu trallod nhw, yng nghwmni ffrindiau, neu’n gudd o glywed eu herlynwyr nhw, geiriau Gweddi’r Arglwydd oedd eu geiriau cyfarwydd hwythau hefyd.
Ac felly y bu hi, dros fôr y canrifoedd — mewn dwsinau o ieithoedd, mewn miloedd o lefydd, gan filynau o bobl — dyma eiriau o erfyn ger bron ein Tad a gafodd eu sibrwd a’u canu a’u bloeddiau a’u haddoli.
Mae’r bwlch rhwng Luc yn cofnodi’r geiriau hynny yn ei Efengyl a ninnau’n eu darllen heddiw — y bwlch rhwng Luc a’i gyd-Gristnogion ar ddiwedd y ganrif gyntaf yn defnyddio’r geiriau hynny y neu haddoliad hwy, a ninnau’n eu defnyddio wrth Fwrdd yr Allor heddiw, yn fwlch sydd wedi ei lenwi, ei droedio, gan gyd-Gristnogion ffyddlon, ansicr, hyderus, pryderus — Cristnogion fel chi a fi, sydd wedi defnyddio’r union un eiriau â chi a fi i gwrdd â Duw mewn gweddi daer.
Pan weddïwn ni Weddi’r Arglwydd yn nes ymlaen y pnawn ma, mi gerddwn ni’r un llwybr gweddi â’u llwybr hwy.
“I dawel lwybrau gweddi yn fynych arwain fi”
Dwi’n credu mai Mamgu ddysgodd i mi weddïo Gweddi’r Arglwydd. Hi a Tadcu fyddai’n mynd â’m chwaer i a mi i’r capel ar fore Sul, a drws nesa iddi hi fyddwn i’n eistedd. Hi, mae’n debyg, â’m tywysodd i ar hyd lwybr gweddi i ddechrau hefo hi.
Ac mi ydw i’n cofio hyd heddiw be fyddai’n mynd trwy’ meddwl i yn y capel wrth weddïo’r linell honno: “ac nac arwain ni brofedigaeth.” Yn y cyfieithiad cyfoes o Efengyl Luc, mae’r pwyslias yn wahanol: “a phaid â’n dwyn i brawf.” Ond mi fyddwn i’n hogyn bach yn ofni’r gair hwnnw: “profedigaeth.” “Profedigaeth,” mi wyddwn i, oedd be oedd yn digwydd pan fyddai rhywun yn marw — “colled”, “profedigaeth” oedd yr hyn y byddai pobl yn ei ddioddef ar ôl i rywun annwyl farw. Ac, wrth eistedd yn y fan honno’n y capel drws nesa i Mamgu, oedd mor annwyl i mi, yn gweddïo Gweddi’r Arglwydd, mi fyddwn i wastad, wrth weddïo’r linell honno, yn meddwl: “Paid â’mharwain i i brofedigaeth” — “paid â gadael i Mamgu a’r rhai sy’n annwyl i mi adael a marw.” Dyna oedd fy ngweddi i.
Ddeng mlynedd ar hugain y ddiweddarach, dwi’n ymwybodol mai gweddi hogyn bach, gweddi plentyn, oedd honno.“Dwi ofn rhywbeth — plis, paid gadael iddo ddigwydd. Dwi eisiau rhywbeth — plis, gad i mi ei gael o. Dwi’n caru rhywun — paid mynd â nhw i ffwrdd.”
Ond mae bywyd, treigl bywyd ac amser, bywyd hefo’i hap a damwain, bywyd hefo’i greulondebau a’i hannhegwch beunyddiol — mae bywyd yn drech na’r gweddïau rheiny. Fe ddaw’r llon a’r prudd, y dioddefaint a’r diolchgarwch, er gwaetha’r gweddïo. Ac os mai fel plentyn y byddwn ni’n gweddïo, os mai llwybr plentyn ydi llwybr ein gweddi ni, fe ymddengys Duw yn ddi-hid ac esgeulus.
Mae Paul, yn ysgrifennu at y Colosiaid, yn ein galw ar daith wahanol. “Yng Nghrist,” meddai Paul, “y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio’n gorfforol, ac yr ydych chwithau wedi eich dwyn i gyflawnder ynddo ef… Er eich bod yn feirw yn eich pechod… gwnaeth Duw chwi yn fyw gyda Christ.” Daw hyder a dewrder, ffydd a gobaith, meddai Paul, o’r wybodaeth sicr honno ein bod ni, i gyd, yn werthfawr; ein bod ni, i gyd, yn ein dyfnderoedd, yn rhannu yn natur Duw; ein bod i gyd yng nghoflaid cariad Duw yng Nghrist. Mae cymaint o bethau yn gysgod o’r hyn sydd i ddod, “ond Crist,” a ninnau’n etifeddion iddo, “biau’r sylwedd.”
Dyna lwybr gweddi aeddfed inni felly — llwybr y troediwn ni yn y sicrwydd hwnnw o gariad Duw. Ac, o’i gerdded, fe welwn ni, efallai, y bydd llai yn ein gweddiau ni am eisiau, ac angen, a meddiannu — a mwy am gymuno, am dorheulo, yng nghoflaid cariad Duw.
“I dawel lwybrau gweddi yn fynych arwain fi”
Sut da chi’n cerdded eich llwybr chi. Yn blwmp ac yn blaen, sut da chi’n gweddio. Oes gennych chi batrwm o ddweud eich gweddïau? Oes gennych chi le lle mae gweddïo yn teimlo’n gyfarwydd ac yn gyfforddus i chi. A oes gennych le lle mae’ch pryderon chi o’r neilltu, a lle y gallwch chi fod yn sicr ac yn hyderus yng nghwmni Crist?
Nid oes angen iddo fod yn lle egsotig nac yn lle moethus. Gall fod yn gadair freichiau, mainc yn yr ardd, neu’n gornel o’r ystafell wely.
Ond, os nad oes gennych chi le, os nad oes gennych chi batrwm gweddi, gadewch i mi eich annog i ddod o hyd i un yr wythnos hon, yr haf hwn. Lle y gallech dreulio ychydig funudau, bum neu ddeg munud bob dydd, yng nghwmni Duw mewn gweddi. Defnyddiwch yr amser i fod yn llonydd — i ail-ddarllen Efengyl y Sul, neu i i ddal gerbron Duw y pethau hynny sy’n pwyso arnoch chi, neu i roi diolch am yr hyn fu’n hapus, neu i wneud dim mwy na gweddïo’n araf eiriau Gweddi’r Arglwydd. Pump neu ddeg munud bob dydd i sefyll, neu eistedd, neu benlinio, neu orwedd, yn llonyddwch cwmni Duw, fel y mae pobl Dduw bob amser wedi ei wneud ar draws y canrifoedd, yn nerth a gras a llawenydd y Crist atgyfodedig.
Pan weli fy amynedd,
O Arglwydd, yn byrhau;
pan weli fod fy mhryder
dros ddynion yn lleihau;
rhag im, er maint fy mreintiau,
dristáu dy Ysbryd di,
ar dawel lwybrau gweddi
O cadw, cadw fi.