“Cyn i Philip dy alw di, pan oeddit tan y ffigysbren, mi a’th welais di.”

Pryd fu’r tro diwethaf i chi gyfarfod hefo Duw — a beth ddywedodd o wrthych chi?

Pregeth ar Ail Sul yr Ystwyll

5 min readFeb 22, 2018

--

Cadeirlan Bangor, 14 Ionawr 2018

1 Samuel 3:1–10, Salm 139:1–6,13–18, Dartguddiad 5:1–10; Sant Ioan 1:43–51

Dyma ni yng nghanol tymor yr Ystwyll. Mi ydyn ni’n dal i fyw yng ngoleuni genedigaeth Crist, ond mae’n sylw ni wedi symud bellach o’r syndod a’r mawl digymell wrth y preseb sy’n nodweddu digwyddiadau’r Nadolig.

Ein canolbwynt, ein maes llafur ni yn ystod tymor yr Ystwyll hwn ydi sut mae cyfarfod Duw — sut mae adnabod, cydnabod, cyfarch, cwrdd, clywed, cofleidio, ymateb i Dduw ym mherson Crist yn ein mysg ni.

Mae’n darlleniadau beiblaidd ni y tymor hwn yn llawn pobl sy’n cyfarfod â Duw yng Nghrist.

Dyna wyrth y doethion — ar ei gliniau yn y gwellt, yn gallu adnabod, cydnabod, cyfarch Duw ym mherson Crist yn y baban yn y preseb o’u blaenau.

Dyna nodwedd llu’r nef yn ein darlleniad ni o Ddatguddiad Ioan y bore ma — gallu cydnabod, cyfarch a chwrdd â Duw yn Oen yr arberth sy’n ymddangos ger gorsedd nef.

Dyna rinwedd Samuel ac Eli yn ein darlleniad cyntaf ni’r bore ma — gallu clywed, cofleidio ac ymateb i Dduw yn y llais sy’n galw yn y nos.

Dyna’r fendith a roddir i Nathanael yn ein darlleniad ni o Efengyl Ioan y bore ma — gallu cyfarfod Duw ym mherson Crist ar lwybrau Galileia.

Pryd fu’r tro diwethaf i chi gyfarfod hefo Duw — a beth ddywedodd o wrthych chi?

Weithiau mi fyddai’n meddwl ei bod hi’n hawdd iddyn nhw –

yn hawdd i’r doethion gyfarfod Crist, obegid mi oedd na homar o seren i’w tywys nhw;

yn hawdd i lu’r nef yn y darlun a gawn ni yn Natguddiad Ioan i adnabod Crist mewn Oen ag iddo saith corn a saith llygad ac, yn siwr i chi, fellt a tharannau ar ei ymddangosiad;

yn hawdd i Samuel ac Eli glywed Duw, oblegid mi oedd y llais yn eglur yn nhawelwch y nos yng ngynteddau’r Deml;

yn hawdd i Nathanael gofleidio Duw yng Nghrist o’i flaen am i Dduw, mewn cig a gwaed, ei gydnabod o gyntaf.

Weithiau mi fyddai’n meddwl ei bod hi’n hawdd iddyn nhw gyfarfod hefo Duw yng Nghrist, ac yn gymaint anoddach i ni. Dwn i ddim amdanoch chi, ond mi fedra’i gyfrif ar un llaw yr adegau hynny pan dwi’n grediniol mod i wedi bod yn ddigymell ym mhresenoldeb pwrpasol Duw — munudau, eiliadau pan y gwyddwn i mai dyma ydi gogoniant — nad oes na ddim pwysiach, dim byd perffeithiach na hyn.

Munudau, eiliadau prin ydi rheiny. Ran amlaf, da ni’n byw ymhell o’r gogoniant. Ran amlaf, mae hi’n unicach na hynny. A does na ddim cywilydd mewn cydnabod hynny.

Ond un o wirioneddau’r bererindod Gristnogol ydi mai agosatrwydd at Dduw ydi dymuniad Duw ar ein cyfer ni.

A chwestiwn yr Ystwyll i ni felly ydi: sut mae dod yn nes bresenoldeb Duw yng Nghrist, yn ein dyddiadu ni, yn ein bywydau beunyddiol ni?

Sut mae modd i ni rannu ryw ychydig yng ngogoniant y doethion wrth y preseb;

sut mae modd i ni rannu yn sicrwydd Samuel ac Eli;

sut mae modd i ni rannu yng ngorfoledd llu’n nef yn Natguddiad Ioan;

sut mae modd i ni gwrdd a Christ hefo’r agosatrwydd trawsffurfiol yna sy’n nodweddu profiad Nathanael yn Efengyl Ioan?

Y newyddion drwg ydi nad ydi hi’n hawdd — mae o’n waith anodd, sy’n mynu amser ac amynedd ac ymroddiad. Y newydd da ydi bod bywyd yr Eglwys ac esiampl ein cyd-Gristnogion ni — yn awr a thrwy’r oesau — yn cynnig llu o ffyrdd o agosáu at bresenoldeb Duw yng Nghrist. Mae na lu o ffyrdd oherwydd nad oes na un ffordd sy’n gweithio i bawb — llwybr personol ydi’r llwybr hwnnw a ddaw â ni’n agos at bresenoldeb Duw yng Nghrist yn ein dyddiau ni, yn ein bywydau beunyddiol ni ein hunain.

I rai ohonom ni, fe ddown ni’n agos at Dduw yn nhawelwch ein dychymyg ni. Darllenwch un o emynau Ann Griffiths rywbryd ac fe gamwch chi mewn i ddychymyg merch ifanc sy’n llawn o’r angerdd a ddaw o fod yn agos as berson Iesu Grist.

I eraill ohonom ni, fe ddown ni’n agos at Dduw wrth ddarllen y Beibl. Dyna hanfod y traddodiad Ignatiaidd ym mywyd yr Eglwys — myfyrio ar eiriau’r Ysgrythur, a chanfod ynddyn nhw bresenoldeb Duw

Fe ddaw eraill ohonom ni’n agos at Dduw yng nghanol y greadigaeth. “O olwg hagrwch cynnydd / Ar wyneb trist y gwaith,” yng ngeiriau R. Williams Parry, fe ddaw sawl un ohonom ni i bresenoldeb Duw yng nghanol mawredd byd natur sy’n datgan gogoniant y Creawdwr.

I eraill ohonom ni, fe ddown ni’n agos at Dduw mewn mawl a chân, neu wrth fwrdd yr allor ac yn sacramentau’r Eglwys. Fe ganwn ni yn emyn yr offrwm heddiw am “rodd” “y bara cun / Sy’n porthi angen enaid dyn.” Yn y canu, yn y diolchgarwch, yn bwyta a’r yfed, mae na wahoddiad i agosáu at bresenoldeb trawsffurfiol Duw.

I eraill ohonom ni, fe ddown ni’n agos at Dduw wrth wrth wasanaethu eraill. “Mae Iesu’n cuddio ym mhob un ohonyn nhw,” meddai’r Santes Fab Teresa wrth ddisgrifio’i phrofiad hi o weithio hefo’r tlotaf ar strydoedd Calcutta.

Mi dybia’i y daw sawl un ohonom ni yn agos at Dduw yn ein gwendid ni — mewn methiant, mewn unigedd, mewn galar, mewn tristwch. Yn aml, yr unig gysur yn wyneb ing a phoen ydi’r cysur a ddaw o ganiatáu i’n hunain deimlo presenoldeb ein Duw clywfedig ni gerllaw. Yng ngeiriau emyn mawr cyn Esgob Llandaf, Timothy Rees: “a phan dyr calonnau dynion / o dan feichiau blinder byw / dônt o hyd i’r unfath boenau / yn nyfnderoedd calon Duw.”

Pryd fu’r tro diwethaf i chi gyfarfod hefo Duw — a beth ddywedodd o wrthych chi?

Yn nhawelwch y dychymyg, wrth ddarllen y Beibl, yng nghanol ei greadigaeth, mewn mawl a chân, wrth fwrdd yr allor, wrth wasanaethu eraill, yn ein gwendid ni — boed i ni fod yn barod i gyfarfod hefo Duw yn y flwyddyn sydd on blaenau ni; boed i ni neilltuo’r amser a’r amynedd a’r ymroddiad i wneud hynny.

Oblegid, dim ond bryd hynny y cawn ninnau glywed addewid Iesu i Nicodemus; dim ond bryd hynny y cawn ni weld pethau mwy na hyn, y cawn weld y nef wedi agor, ac angylion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar Fab y Dyn.

--

--

Siôn B. E. Rhys Evans
Siôn B. E. Rhys Evans

Written by Siôn B. E. Rhys Evans

Priest, Diocesan Secretary | Offeiriad, Ysgrifennydd Esgobaethol | Duc in altum

No responses yet