Pregeth am bwysigrwydd dawnsio
Pregeth ar y Seithfed Sul wedi’r Drindod
Cadeirlan Bangor, 15 Gorffennaf 2018
2 Samuel 6:1–5, 12b-19; Salm 24; Effesiaid 1:3–14; Marc 6:14–29
Mi fues i mewn gwledd briodas yng Nghaernarfon y penwythnos diwethaf, a dwi’n falch o allu dweud i un o fy addunedau prin i mewn bywyd — yr adduned na fydda’i byth eto’n dawnsio’n gyhoeddus — [dwi’n falch o allu dweud i’r adduned honno] oreosi’r noson. Tydi hi ddim wastad yn adduned hawdd i’w chadw. Ar ôl rhyw wydraid o win neu dri, mae hi’n hawdd bod yn wan — yn hawdd ildio i bwysau cymdeithasol, i ffrindiau sy’n mynu y byddai hi’n rwd peidio dawnsio, ac mewn eiliad wan mae dyn yn cytuno; ond, yn syth bin, yn ddiymdroi, y munud mae’r dawnsio’n dechrau, mae’r atgof hunllefus hwnnw’n fyw eto, a dwi ar y llwyfan yn rhan o barti dawnsio gwerin yn Eisteddfod yr Urdd 1996 — yn benliniau ac yn beneliniau i gyd — a ddaw pethau ddim i ben da.
Ond dyma i chi bregeth am bwysigrwydd dawnsio.
Mae gwraidd ein darlleniad cyntaf ni’r bore ma yn nhaith pob Israel o’r Aifft i Wlad yr Addewid — taith o gaethiwed a chaeth-wasiaeth yng ngwlad Ffaro tuag at be fydd yn ddinas newydd iddyn nhw, Seion, Dinas Dafydd, Jerwsalem.
Rhyw flwyddyn ar ôl gadael yr Aifft, flwyddyn ar ôl croesi’r Môr Coch dan arweiniad Moses, mae’r Israeliad yn dal yn bell o gyrraedd Gwlad yr Addewid, ac gwersyllu yng ngodre Mynydd Horeb. Mae na anniddigrwydd yn eu plith nhw — mae’r daith yn faith a bywyd yn anodd — a Duw, a fu mor agos atyn nhw, yn agor y Môr Coch o’u blaenau nhw, fel tasa fo wedi cilio o’r neilltu. Ac fe aiff Moses i gopa Mynydd Horeb i gwrdd â Duw, ac o ganol y cwmwl fed ddaw Moses i lawr, wedi derbyn y Deg Gorchymyn — rheolau Duw am sut i fyw fel pobl Dduw ar daith. A’r Deg Gorchymyn ar ddwy lechen las — gair Duw ar ddefnydd dyn. Ac i’r Israeliaid — pobl ar daith — pobl heb gartref, heb aelwyd, heb deml na chapel nac eglwys — mae’r ddwy lechen las yn hollbwysig — dyma i chi arwydd o addewid Duw, o sicrwydd a diddordeb Duw — prawf o’r cyfmod hefo Duw — y bydd Duw yn ymddiddori ynddyn nhw, yn eu tywys nhw i’w cartref newydd, i Wlad yr Addewid, a hwythau’n cadw’i orchmynion o ar y daith. Ac felly fe adeiledir arch ar gyfer y llechau hollbwysig yma — Arch y Cyfamod — arch o bren ac aur, ac oddi mewn iddi fe osodir y llechau sy’n arwydd o bresenoldeb dwyfol, o gyfamod Duw a dyn.
Ac, o’r dydd y bo’r Arch yn barod, mae hi’n cael ei chludo o flaen pobl Israel ar eu teithio nhw trwy’r anialwch tuag at Wlad yr Addewid — yn arwydd o’r Duw sy’n eu harwain nhw i’w haelwyd newydd. Ac, o gyrraedd Gwlad yr Addewid, ym Methel ac yn Seilo, ceir caftref dros-dro i’r Arch. Ond heddiw, â Dafydd yn frenin dros Israel, mae Arch y Cyfamod yn cael ei chludo i’w chartref parhaol — i Ddinas Dafydd, Seion Duw, prifddinas newydd yr Israeliaid yn Jerwsalem. Ac yn Ail Lyfr Samuel, dyma ddisgrifiad o’r Arch ar ei thaith i Jerwsalem, a’r Brenin Dafydd yn ei chwrdd, ac yn dawnsio o’i blaen — “yn neidio ac yn dawnsio â’i holl egni,” meddai awdur Ail Lyfr Samuel. A nodwch nad dweud mae’r awdur i Ddafydd ddawnsio o flaen yr Arch, ond iddo ddawnsio “o flaen yr Arglwydd.” I Dafydd a phobl Israel, llety oedd yr Arch nid yn unig i lechau’r cyfamod, i eiriau’r Deg Grchymyn, ond i bresenoldeb Duw ei hun. Llawenydd dawns Dafydd ydi llawenydd yr un sy’n croesawu, yn ymhyfrydu ym mhresenoldeb Duw yn ein plith.
Tydw i ddim am awgrymu dawnsio’r foxtrot neu’r Gaseg Eira at Fwrdd y Cymun y bore ma, ond yma, heddiw, mae Duw yn ein plith; a’n dyletswydd ni, yn feunyddiol, ydi bod mor llawen â Dafydd wrth i ni gwrdd a chyfarch y presendeb dwyfol mewn sacrament, mewn gair, mewn prydferthwch, mewn cymydog.
Mae hi’n bwysig dawnsio.
Wrth gwrs, mae na ddawns arall yn ein darlleniadau ni’r bore ma. Yn Jerwsalem yn nyddiau Iesu, mae Herod, dan ddylanwad ei ail wraig, wedi arestio Ioan Fedyddiwr. Fe ddywed awdur Efengyl Marc wrthym ni y gwyr Herod mai dyn da ydi Ioan Frdyddiwr. Ond dyn gwan ydi Herod, ac fe gaiff o’i hudo gan ddawns ei lysferch o un noson, a phan y gofyn hi iddo ar ran ei mam am ben Ioan Fedyddiwr, yn gaeth i’w wendid, dyna orchmyna Herod.
Dyna i chi wrthgyferbyniad rhwng dwy ddawns: Dafydd yn llawn llawenydd, Herod a’i lysferch yn llawn tywyllwch. Dawns i gyfarch y gogoneddus; a dawns sy’n esgor ar felltith a phoen. Dawns o fawl ger bron dirgelwch holl-groesawgar, fythol-anghaffaeladwy y Dwyfol; a dawns o ddichell ar goll yng nghanol poen ac ymgodymau dyn a phechod.
Ar y naill law, y llawenydd cymunedol, yr arweinydd doeth, y gydnabyddiaeth lawen o bresenoldeb Duw yn ein plith, yr Arch yn awrydd o gyfamod dwyfol diymdroi.
Ac ar y llaw arall, y budreddi preifat; y dyn bach, llwfr; y cilio o gydwybod tuag at flys a chwant; y pen ar blat, a Duw a dyn yn llefain.
Dyna inni mewn lliwiau llachar yn ein darlleniadau ni heddiw ddarlun o’r gorau y gallwn ni fel dynoliaeth ei gyflawni mewn perthynas â Duw, a darlun o’r iselfannau y gallwn ni eu cyrraedd wrth guddio oddi wrtho.
Hawdd iawn ydi hi i ni weld grymoedd tywyll ar waith yn ein byd ni heddiw. Ymysg rhai o arweinwyr y cenhedloedd, ymysg rhai o’n cymdogion ni yn y wlad hon, mae na dywyllwch, rhyw ddawnsio sy’n apelio at y brwnt a’r anghynes.
A hawdd iawn ydi i ni, yn ein bywydau beunyddiol ninnau, gilio o gydwybod at flys a chwant; hawdd iawn ydi bod yn gyfrwys neu’n feirniadol neu’n angharedig neu’n gul; hawdd ydi dawnsio ger bron yr Herod sy’n llwchu yng nghefn meddwl pob un ohonom ni.
Ond cofiwn Dafydd, “yn neidio ac yn dawnsio â’i holl egni ger bron yr Arglwydd.” Er ein lles ni, ac er lles y byd, yn gyhoeddus, yn llawen, â’n holl allu, fel Dafydd, mae hi’n bwysig dawnsio.