Pregeth am bwysigrwydd bod yn fudr a blêr
Pregeth ar y Pumed Sul wedi’r Drindod
Cadeirlan Bangor, 1 Gorffennaf 2018
pan fu offeiriad newydd ei ordeinio yn gweinyddu’r Cymun am y tro cyntaf yn y gwasanaeth Cymraeg
2 Samuel 1:1, 17–27; Salm 130; 2 Corinthiaid 8:7–15; Marc 5:21–43
“Bydded i Dduw dy eneinio di i gymodi a bendithio ei bobl.”
Ar ôl i’r Esgob arddodi dwylo ar ben diacon sy’n cael ei ordeinio’n offeiriad newydd, mae’r Esgob yn rhoi ei fawd mewn ffiol o Olew y Crism — olew a gysegrwyd ganddo fo yn Offeren y Crism ar fore Dydd Iau Cablyd. Ac hefo’i fawd, hefo’r olew, mae’r Esgob yn marcio cledr llaw yr offeiriad newydd hefo hoel y Groes, ac yn dweud “Bydded i Dduw, a eneiniodd Iesu Grist â’r Ysbryd Glân pan fedyddiwyd ef, dy eneinio di i gymodi a bendithio ei bobl.”
Pan wela’i Esgob hefo’r het a’i ffon, mi fyddai’n aml yn meddwl am y disgrifiad hwnnw o Edward Vaughan ar ddechrau nofel Islwyn Ffowc Elis, Cysgod y Cryman. Mae Edward Vaughan yn edrych dros diroedd Lleifior, dros fryniau breision Maldwyn, rhyw noson tesog o haf, a “hyd yn oed y gwybed,” meddai Ffowc Elis, “yn cadw pellter parch” o’i ben gwyn, gosgeiddig.
Ond does na’m pellter parch pan fo’r eneinio hwnnw’n digwydd yn ystod yr ordinasiwn. Offeiriad newydd ar ei liniau, llaw ar law, olew ar groen, croes ar gledr llaw a’i chanol hi lle’r hoeliwyd Iesu.
“Bydded i Dduw dy eneinio di i gymodi a bendithio ei bobl.”
Mi ydyn ni’n griw parchus fan hyn. Y Tad Llew, yn llywyddu am y tro cyntaf, fel pin mewn papur; ninnau yn ein dillad dydd Sul. Ond mae na rywbeth amharchus, amhriodol, afreolus, peryg, poenus am ein darlleniad ni o Efengyl Marc bore ma. Cwta ddwy adnod ar hugain sydd na. Ond ynddyn nhw mae na waed yn llifo, a dagrau. Mae na dorf yn gwthio Iesu, a phobl yn chwerthin ar ei ben o. Mae na bobl bwysig yn wynebu trallod, a mae na bobl tu hwnt o gyffredin yn ysu am ddiwedd i’w poen nhw. Mae na ddolur, a galar, ac ofn, a syndod, a llawenydd.
Ac yn aml, dyna gawn ni yn Efengyl Marc. Ei Efengyl o ydi’r cyntaf o’r efengylau i’w sgwennu, a’r byraf. Ond ma’i chrynodeb hi fel sbring. Yn Efengyl Ioan, yr olaf i’w sgwennu, mae Iesu’n doreithiog — yn camu o’r neilltu i drafod ac egluro, i weddïo a phregethu. Yn Efengyl Marc, chydig mae Iesu’n ei ddweud, ond mae o’n wastad, egnïol ar waith.
Felly’r bore ma, dyma fo, newydd groesi’r llyn, ar lan y môr, a gŵr tuag ato fo’n syth — Jairus, un o arweinwyr y byd Iddewig, dyn cefnog, un o heolion wyth y sefydliad crefyddol, diffiniad parchusrwydd; a’i ferch fach o’n sâl. A rwan, does ots am be sy’n barchus. Dyma fo, ar ei liniau o flaen Iesu — ar ei liniau o flaen y proffwyd od, annhebygol, blêr yma — yn ymbil ar i Iesu roi ei ddwylo ar ei ferch o, iddi gael ei gwella, iddi gael byw.
A Iesu’n gadael ar unwaith hefo fo, ond tyrfa fawr o’u hamgylch nhw. Ac, ymysg y dyfra, y ddynes yma sydd ’di bod yn sal ers deuddeg mlynedd, wedi bod yn gwaedu er deuddeg mlynedd. Ac wrth i Iesu fynd heibio, dyma hi’n estyn allan; yn credu, yn gwybod, os y caiff hi gyffwrdd ynddo fo — hyd yn oed ar gynffon ei gôt o — yn credu ac yn gwybod y bydd hi’n well. Mae hi’n ymestyn ei braich, ac yn gafael, ac yn syth yn iach. A Iesu’n gwybod be sy di digwydd, yn teimlo peth o’i egni fo’n gwagio, ac yn dweud, “Pwy gyffyrddod â mi,” — a hithau’n cyfaddef, a fo’n ei bendithio hi.
A dyma fo’n cyrraedd tŷ Jairus, a’r gweision y dweud fod yn hogan fach wedi marw. A Iesu’n dweud, “Na, na, cysgu mae hi;” a’r gweision yn meddwl ei fod o’n rwdlan ac yn chwerthin am ei ben o. A fo’n mynd mewn i’r stafell, ac yn gafael yn ei llaw hi, ac yn dweud wrthi, “Côd,” a hithau’n sydyn yn effro, yn ddeuddeg mlwydd oed, yn llawn egni, ei phlentyndod hi’n ôl; a’r teulu parchus ma’i gyd yn llawn syndod.
Dwy adnod ar hugain, a Iesu fel corwynt yn ail-wneud byd.
A’r cwestiwn, fel â phob darn o’r Ysgrythur, ydi “be di hynny i ni”? Be mae o’n ei olygu i ni ddarllen am yr Iesu hwn — gredu yn yr Iesu hwn — sydd fel corwynt yn camu a chyffwrdd a chodi a iacháu. I ni heddiw, yng nghanol realiti’n bywydau ni — bywydau heb wyrth, bywydau llawn angau, bywydau sy’n gobeithio, ond bywydau sy’n aml yn llawn poen — be di’r Iesu hwn i ni?
Mi ddarllenai i’r ddwy adnod ar hugain honno, ac mi wela’i Dduw sy’n gwneud gwahaniaeth; mi wela’i Dduw sy’n agos at, sydd am wneud gwahaniaeth i bawb — y cefnog a’r cyffredin; mi wela’i Dduw sy’n ysu am wneud gwahaniaeth rwan.
Mi ddarllenai i’r ddwy adnod ar hugain honno, ac mi wela’i bobl ar ei gliniau, yn fudr ac yn flêr, eu dagrau a’u gonestrwydd nhw (a dim byd arall) yn eu dwylo nhw. A gan Iesu, fed ddaw na gymod a bendith.
“Bydded i Dduw dy eneinio di i gymodi a bendithio ei bobl.”
Nid pin mewn papur ydi offeiriad; nid lle parchus ydi eglwys. Fel Jairus ar lan y llyn, fel y ddynes yn y dorf, heb ddim yn ein dwylo ni ond ein dagrau a’n gonestrwydd, felly y down ni yma bore ma. Felly y down ni yma i gwrdd â’r Duw sy’n gwneud gwahaniaeth yn ein bywydau ni; y Duw sy’n ein cynnal ni, pwy bynnag ydym ni; y Duw sydd am fod yn agos atom ni rwan — mewn bara a gwin, mewn gair a gweddi. Y Duw sydd, drwy ddwylo clwyfedig Crist, am ein cyffwrdd ni.
“Bydded i Dduw dy eneinio di i gymodi a bendithio ei bobl.”
Amen.