Pa mor ysbrydol effro ydych chi?
Pregeth ar y Sul Cyn y Grawys
Cadeirlan Bangor, 11 Chwefror 2018
2 Brenhinoedd 2:1–12, Salm 50:1–6, 2 Corinthiaid 4:3–6, Sant Marc 9:2–9
Pa mor ysbrydol effro ydych chi?
O’n cwmpas ni, mae hi chydig yn oleuach yn y boreau nac oedd hi; mae na eirlysiau urddasol yn dechrau ymddangos dan y coed yng ngwaelod yr ardd; mae na gennin pedr ar werth yn y siopau; mae na filoedd o Mini Eggs wedi ynddangos dros nos yn Tesco. Mae hi’n heulog un funud ac yn tywallt glaw y nesa. Yn fyr, mae hi’n wanwyn, ac mae’r byd o’n cwmpas ni’n dechrau deffro o drwmgwsg y gaeaf.
Mi fydd hi’n ddydd Mawrth Ynyd mewn deuddydd, ac yn ddechrau’r Grawys ar ddydd Mercher, ac fe ddylai’r Grawys fod yn gyfnod i ni o egni, o weithgarwch, o ymroi ysbrydol. Felly’r cwestiwn bore ma, wrth edrych mlaen at withgarwch ysbrydol y Grawys, ydi: Pa mor ysbrydol effro ydych chi? Pa mor ysbrydol fyw, pa mor ysbrydol iach ydych chi?
A rhag ofn mai rhyw bump allan o ddeg rown ni i’n gilydd wrth ateb y cwestiwn hwnnw — rhag ofn ein bod ni chydig yn rhy gysglyd — rhag ofn ein bod ni angen rhyw fymryn o spring clean ysbrydol ar drothwy’r Grawys, beth am dair her, tair sialens bore ma.
Dwi am eu gwreiddio nhw ym mhrofiad y disgyblion yn ein darlleniad ni o’r Efengyl y bore ma o fod yn dystion i Drawsnewidiad yr Iesu, a’u cyplu nhw hefo’n tri emyn ni.
Weithiau, yn ystod ambell bregeth ddiflas, mi fyddai i’n cael fy nhemptio i ddechrau bodio trwy’r llyfr emynau. Felly dyna i chi esgus perffaith i wneud hynny’r bore pa. Pregeth i chi sy’n gofyn i chi gael ddal ein Hefengyl ni’r bore ma mewn yn llaw, ac Emynau’r Llan yn y llall.
Sut i fod yn fwy effro? Sialens 1
Clamp o emyn John Henry Newman oedd ein hemyn gyntaf ni’r bore ma. Mi oedd Newman, wrth gwrs, yn un o fawrion Cristnogaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Hefo llond llaw o gyfoedion yn Rhydychen, fe ddechreuodd o symudiad o fewn Eglwys Loegr oedd am bwysleisio pwysigrwydd defod, sacramentau a phrydferthwch o fewn bywyd yr eglwys — pwysigrwydd lliw a cherddoriaeth a rhagoriaeth wrth foli Duw. Ac yng nghyfieithaid J.H. Williams, fel yn Saesneg gwreiddiol Newman, mae pennill cyntaf yr emyn yn cael ei hailadrodd ar y diwedd ac yn pwysleisio pwysigrwydd mawl a chlod uwch bopeth arall. “Boed moliant pur i’r sanctaidd Iôr / yn entrych euraid nef; / clodfored dyfnder tir a môr / ei ryfedd ddoniau ef.” Yn Saesneg y gwreiddiol, “Praise to the holiest in the height / and in the depths be praise.
Yn ein darllenaid ni o’r Efengyl bore ma, mae tri o’r disgyblion yn cilio hefo Iesu i begwn Mynydd Tabor, ac yno fe welwn nhw ogoniant a rhagoriaeth a hanfod Duw yn disgleirio ym mherson Iesu. Yno fe glywn nhw lais Duw yn cyhoeddi mai “Hwn yw fy Mab, yr Anwylyd.” Yno fe ddown nhw’n agos at entrych euraid nef; yno fe ddown nhw wyneb yn wyneb hefo’r hyn sy’n haeddu moliant pur, yr hyn sy’n haeddu clod y dyfnderoedd.
Y sialens felly. Lle ydw i, lle ydych chi, lle yndan ni yn cael y fath brofiad. Lle y down ni’n agos at wyneb Duw. Lle y canfyddwn ni y ddelwedd honno o gariad Duw sy’n rhoi ysgytwad inni, yn rhoi egni inni, yn rhoi ysbrydoliaeth inni? Lle mae’r Mynydd Tabor chi? I ble y byddwch chi’n cilio i ganfod gogoniant a rhagoriaeth a hanfod Duw? Ydych chi yno’n ddigon aml? Ac os nad oes na le, os nad oes na brofiad sy’n cynnig hynny i chi — os nad ydych chi wedi dod ar draws y lle hwnnw bellach — beth am fynd ar daith, beth am chwilota, beth am ei ddarganfod y Grawys hwn.
Emyn byr ydi emyn yr offrwm, o waith y gweinidog Bedyddiedig o’r ddeunawfed ganrif, Benjamin Francis. Tydi o ddim yn emyn enwog, ond mae o’n fesitrolgar. Mewn cwta dri phennill mae o’n darlunio elfennau hanfodol iachawdwriaeth — dyddiau gwynfydedig Gardd Eden, cwymp y ddynoliaeth “drwy dwyll y sarff a’i hudol iaith”; a’r achubiaeth a ddaw drwy groes ac atgyfodiad Iesu.
Mae na symudiad, mae na gyfeiriad yn yr emyn. Duw i’n hannog ni mlaen sydd yma. Tydy’n ni ddim i fod yn gaeth i’n pechodau, i’n gorffennol. Yn hytrach mae grymoedd iachawdwriaeth a rhagluniaeth i gyd yn ein galw ni wastad i droi cefn ar ofn a chywilydd, i ddechrau o’r newydd, i gamu mlaen â gobaith.
Yn ein Hefengyl ni heddiw, mae ymateb Pedr i’r hyn welodd o ar Fynydd Tabor yn hynod. Meddai wrth Iesu, “Y mae’n dda ein bod ni yma; gwnawn dair pabell, un i ti ac un i Moses ac un i Elias.” Fel sy’n digwydd mor aml yn yr Efengylau, geiriau’n gwendid ni o ennau Pedr ydi rheiny. Mae Pedr am aros yn llonydd. Mae o am gydio’n dynn. Mae o am sefyll yma’n saff.
Yn ein bywydau ni, yn enwedig, efallai, yn ein bywydau ysbrydol ni, mae’n hawdd gwneud pethau tymhorol yn bethau parhaol; mae hi’n hawdd glynu wrth yr hyn sy’n gyfarwydd, yn hawdd gwneud eilun o sicrwydd; yn rhy hawdd aros yn llonydd.
Y sialens felly ydi ystyried beth sydd angen ei adael yn y gorffennol y Grways hwn. Pa rai o’n harferion ni sydd angen eu newid. Pa batrwm o fyw sydd angen ei ddiwygio a’i ddiweddaru? Pa feichiau sydd angen eu gosod o’r neilltu? Pa eilun sydd angen ei ddisodli yn ein bywydau ni i’n galluogi ni i gamu mlaen yn hyderus i addewid rhagluniaeth Duw?
Emyn mawr Ben Davies ydi’n hemyn olaf ni: “Bydd yn wrol, paid â llithro, / er mor dywyll ydyw’r daith: / y mae seren i’th oleuo — / cred yn Nuw a gwna dy waith.”
Cyn iddo hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth, fe fu Ben Davies yn gweithio yn y pyllau glo, gan ddechrau yno’n dair ar ddeg oed. Mi ga’i anodd i ganu geiriau’i emyn o heb feddwl am fagwraeth fy nain a’n nhaid i yng Nghwm Penmachno — am fywyd anodd, caled, garw cymundau chwarel-yddol yr esgobaeth hon — bywydau a fagodd y fath ddiwinyddiaeth anodd, caled, urddasol a gawn ni yn emyn Ben Davies. “Er i’r llwybr dy ddiffygio, / er i’r anial fod yn faith, / bydd yn wrol, blin neu beidio — / cred yn Nuw a gwna dy waith.”
“Wrth iddynt ddod i lawr o’r mynydd rhoddodd Iesu orchymyn iddynt beidio â dweud wrth neb am y pethau a welsant, nes y byddai Mab y Dyn wedi atgyfodi oddi wrth y meirw.” Ar ddiwedd ein Hefengyl ni heddiw, mae’r disgyblion yn dilyn Iesu o fynydd y datguddiad i ddyffryn sy’n llawn cysgodau. Ac fe wyddan nhw mai taith tuag at ddioddefaint Jerwsalem sydd o’u blaenau nhw. Dyddiau caled sydd i ddod — gwaith caled, a fydd yn mynnu ganddyn nhw ddim llai na’u cyfan oll.
Ein sialens ni ydi darganfod pa waith sydd o’n blaenau ni yn y dyddiau a’r wythnosau nesa? Beth di’r dasg honno, bach neu fawr, sydd wedi ei gohirio neu ei hosgoi am amser bellach? Be di’r dyletswydd hwnnw, bach neu fawr, na ddylid ei anwybyddu mwyach? Be di’r gymwynas honno, bach neu fawr, y dylid ei harddel a’i hanrydeddu o hyn ymlaen? Yn hytrach nac ymwadu’r Grawys hwn, pa orchwyl ddylid ei ddechrau; pa beth newydd sydd na i’w wneud?
Pa mr ysbrydol effro ydyn ni? Pa mor ysbrydol fyw, pa mor ysbrydol iach?
Fe ddaw’r Sul hwn â’r daith â ddechreuodd ar Sul yr Adfent i ben. Dyma ddiwedd y cyfnod ym mlwyddyn yr Eglwys i fyfyrio ar yr ym-gnawd-oliad, ar oleuni Crist yn ein plith. Ar ôl heddiw, mae’r unig oleuni yn gwawrio tu hwnt i Groes; yn unig obaith y tu hwnt i drallod; yr unig fywyd y tu hwnt i fedd. Gan foli, gan gamu mlaen, gan gydnabod y gwaith, “er i’r anial fod yn faith,” tua’r wawr honno yn awr teithiwn.
Amen.