Ledio’r Emyn: “Wele wrth y drws yn curo”

Siôn B. E. Rhys Evans
3 min readDec 4, 2020

--

Mae’n hoedfa Gosber yn cynnwys rhyw lun ar bregeth fer, sy’n ein harwain at Emyn y Sul. Dyma oedd Emyn Sul Cyntaf yr Adfent:

Wele wrth y drws yn curo
Iesu, tegwch nef a llawr;
clyw ei lais ac agor iddo,
paid ag oedi funud awr;
agor iddo,
mae ei ruddiau fel y wawr.

Parod yw i wneud ei gartref
yn y galon euog hon,
ei phrydferthu â grasusau,
gwerthfawr ddoniau’r nefoedd lon;
agor iddo,
o’r fath harddwch ger ein bron.

O mor felys fydd cael gwledda
ar yr iachawdwriaeth rad,
wedi gadael byd o drallod,
draw yn nhawel dŷ ein Tad;
agor iddo,
cynnig mae y nef yn rhad.

Geiriau: Ieuan o Leyn (1814–1893)
Tôn “Helmsley”: Thomas Olivers (1725–1799)

Mae na dri dyfodiad dwyfol i danio’r dychymyg yn ystod yr Adfent.

“Fe ddaw fel crio’r nos, / fel gwaed, fel gwanu,” meddai Rowan Williams yng nghyfieithiad Siôn Aled.

Y dyfodiad cyntaf i danio’r dychymyg yn ystod yr Adfent ydi dyfodiad Crist, dyfodiad Duw, yn faban, yn blentyn; dyfodad Crist, dyfodiad Duw, yn natur dyn.

Nid rhywbeth haniaethol, nid rhywbeth cyfrin ydi’r dyfodiad hwnnw — ond dyfodiad mewn cig a gwaed — dyfodiad sy’n gwaedu, sy’n gwanu, sy’n crio.

Dyma ddyfodiad — dyfodiad Duw, yn faban — sy’n gwireddu addewid yr oesau, yn atseinio dyfnder y greadigaeth — dyfodiad sy’n datgan, yn bloeddio, er mor fach, er mor amddifad, mai dyma ydi Duw — bywyd newydd; dechrau newydd; egni newydd; gwaedu, gwanu a chrio newydd, bob tro, yn gyson, yn wastad — waeth pa mor dywyll ydi’r nos.

Fe ddaw plentyn gobaith eto’r Adfent hwn. Ydych chi’n barod?

Mae na dri dyfodiad dwyfol i danio’r dychymyg yn ystod yr Adfent.

Fe ddaw drachefn mewn gogoniant i farnu’r byw a’r meirw. Mae’r ail-ddyfodiad yn un o ddyfodiadau’r Adfent hefyd. Mae’r coed wedi’i blingo, mae’r barrug ar lawr, mae’r gwyll yn gynnar. Dyma ddyddiau i feddwl, i fyfyrio, am bethau hwyr y nos, am yr hyn sy’n doredig, yn wan, yn anghyflawn yn ein bywydau ni — ac i ddyheu am bwythau i rwymo’r anaf, am gryfder maddeuant i gamu mlaen, i ddyheu am gyflawnder. Fe ganwn ni’n hemyn yn y munud i emyn dôn o waith Thomas Olivers o Dregynon yn Sir Drefadlwyn — un o weinidogion cynnar y Wesleaid. Mae hi’n adnabyddus i ni fel priod-dôn emyn Adfent mawr Charles Welsey am yr ail-ddyfodiad, “Lo, he comes with clouds descending, / once for favoured sinners slain”. Yn y linell sy’n ail-adrodd, mae na gywair lleddf i ddechrau — cywair y dyheu am gyflawnder edifeirwch a thrugaredd.

Fe ddaw barnwr y byw a’r meirw eto’r Adfent hwn. Ydych chi’n barod?

Mae na dri dyfodiad dwyfol i danio’r dychymyg yn ystod yr Adfent.

Gwaith Ieuan o Leyn, bardd a gweinidog hefo’r Annibynwyr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, un yn enedigol o Laniestyn ar Ben Llyn ac un a gafodd ei ffurfiant Cristnogol yn ninas Mangor, ydi geiriau’n hemyn ni. “Wele wrth y drws yn curo, Iesu, tegwch nef a llawr; clyw ei lais ac agor iddo, paid ag oedi funud awr.”

Dyfodiad Crist yn ei calonnau ni ydi trydydd dyfodiad yr Adfent. Fe gaiff Ieuan ei ddelwedd o drydedd pennod llyfr Datguddiad Ioan. “Dyma y mae’r Amen yn ei ddweud: Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws ac yn curo; os clyw rhywun fy llais ac agor y drws, dof i mewn ato, a bydd y ddau ohonom yn cydfwyta gyda’n gilydd” (Datguddiad 3:20). Crist yn curo ar ddrws y galon.

Fe ddaw Crist i guro ar ddrws eich calon chi eto’r Adfent hwn. Ydych chi’n barod?

Mae na dro yn y gynffon yn y pennill olaf. Mae Ieuan yn troi’r ddelwedd wyneb i waered. “O mor felys fydd cael gwledda ar yr iachawdwriaeth rad, draw yn nhawel dŷ ein Tad; cynnig mae y nef yn rhad.” Dirgeledd y bywyd Cristnogol ydi y daw Crist i guro ar ddrws ein calonnau ni, ond diwedd y daith ydi’n camu ninnau i mewn i drigfannau ei gariad ef.

Mae na dri dyfodiad dwyfol i danio’r dychymyg yn ystod yr Adfent. Y plentyn, y barnwr, yr un sy’n cur oar ddrws eich calon. Ydych chi’n barod? “Agor iddo, agor iddo, cynnig mae y nef yn rhad.”

--

--

Siôn B. E. Rhys Evans
Siôn B. E. Rhys Evans

Written by Siôn B. E. Rhys Evans

Priest, Diocesan Secretary | Offeiriad, Ysgrifennydd Esgobaethol | Duc in altum

No responses yet