Ledio’r Emyn: “Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd”

Siôn B. E. Rhys Evans
3 min readDec 11, 2020

--

Mae’n hoedfa Gosber yn cynnwys rhyw lun ar bregeth fer, sy’n ein harwain at Emyn y Sul. Dyma oedd Emyn Ail Sul yr Adfent:

Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd
wrthrych teilwng o’m holl fryd,
er o ran yr wy’n ei ’nabod
ef uwch holl wrthrychau’r byd:
henffych fore!
caf ei weled fel y mae.

Rhosyn Saron yw ei enw,
gwyn a gwridog, teg ei bryd;
ar ddeng mil y mae’n rhagori
o wrthrychau penna’r byd:
ffrind pechadur,
dyma’i beilat ar y môr.

Beth sydd imi mwy a wnelwyf
ag eilunod gwael y llawr?
Tystio’r wyf nad yw eu cwmni
i’w cystadlu â’m Iesu mawr:
O am aros
yn ei gariad ddyddiau f’oes!

Geiriau: Ann Griffiths (1776–1805)
Tôn “Coedmor”: R. L. Jones (1896–1953)

Fe ddaw; ond sut beth fydd o?

Fe ddaw, fe ddaw, meddai cerdd Rowan Williams am ddyfodiad disgwyliedig yr Adfent; ond sut beth fydd o?

Plentyn fydd o, meddai Eseia — baban yn estyn ei law dros ffau’r wiber (Eseia 11).

Offeiriad fydd o, meddai’r Salmydd — offeiriad am byth yn ôl urdd Melchisedec (Salm 110).

Brenin i Seion fydd o, meddai Sechareia — yn siarad heddwch â’r cenhedloedd, a’i lywodraeth o fôr i fôr (Sechareia 9).

Etifedd Dafydd fydd o, meddai Nathan y proffwyd — un yn hanu ohono, y bydd ei deyrnas yn gadarn am byth (2 Samuel 7).

Meseia fydd o, meddai Ioan Fedyddiwr — un i’n bedyddio ni â’r Ysbryd Glân ac â than, un y mae ei wyntyll yn barod yn ei law (Mathew 3).

Mab y Goruchaf fydd o, meddai Gabriel wrth Fair Forwyn — un a elwir yn sanctiadd, Mab Duw (Luc 1).

Gwaredwr fydd o, meddai’r angel wrth y bugeiliaid — ond un bach wedi ei rwymo mewn dillad baban ac yn gorwedd mewn preseb (Luc 2).

Brenin yr Iddewon fydd o, meddai’r nefoedd wrth y ser-ddewiniaid — oherwydd gwelsant eu seren er ar ei chyfodiad, a deusant i’w addoli (Mathew 2).

Y Gair yn gnawd fydd o, meddai Ioan — yn preswylio yn ein plith, yn llawn gras a gwirionedd (Ioan 1).

Fe ddaw, fe ddaw; ond sut beth fydd o?

Cariad fydd o, meddai emyn mawr Ann Griffiths. Mi fydd o fel cariad.

Ac nid y syniad o gariad; nid haniaeth cariad; nid cariad cyfrin. Ond un i’n caru ni, i’n cofleidio ni, i’n dal ni’n dynn, i’n cario ni dros donnau’r dyfnder, i’n hennill ni, i’n cadw ni am byth.

Mae hi’n ei weld o, y cariad hwn, yn sefyll rhwng y coed myrtwydd — tybed os ydi nhw’n wyn eu blodau a hithau’n gwawrio, yr haul yn codi tu cefn iddo; neu os ydy’n nhw’n llwythog eu ffrwyth nhw o aeron duon a’r gwyll yn cau o’i gwmpas o? Ond mae o yno, ac mae hi’n ei nabod.

Rhosyn Saron ydi o iddi — yn flodyn coch ym mysg y mieri. Ac fe fydd ei dynerwch o’n ei chario hi dros gloddiau pechod a drysni’r byd.

Cysgod ydi popeth arall iddi — rhyw fwgan llwm ydi’r byd hebddo fo — di-flas ydi cwmni pawb arall. O, am gael aros yn ei gariad o ddyddiau ’hoes!

Fe ddaw, fe ddaw; ond sut beth fydd o?

Cariad fydd o. Mi fydd o fel cariad.

Mae hi’n hawdd iawn gwneud crefydd yn beth parchus, saff, diniwed. Ac os mai dyna ydi’n crefydd ni — parchus, saff, diniwed — dyna fydd ein Duw ni hefyd.

Nid dyna Dduw Ann Griffiths.

Mi oedd o’n cythryblu ei chalon hi, yn ddwfn yn ei henaid hi, yn ysgytwad i’w bod hi.

Pan ddaw Crist eleni, ddaw o felly atoch chi?

Fe ddaw, fe ddaw; ond sut beth fydd o?

Cariad fydd o. Mi fydd o fel cariad.

“Cwm Rhondda” ydi’r dôn arferol i eiriau Ann Griffiths — gwaith John Hughes a ffrwyth bwrlwm Diwygiad 1904.

Ond mi ddyla’i fod yn amlwg bellach nad emyn clwb rygbi ydi “Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd”. Rhyw fath o emyn serch ydi hi — yn enwedig o’i chanu hi yn ystod tymor yr Adfent, a ninna’u desyf ei weld o’n dod, yn camu o’r coed myrtwydd tuag atom ni.

Felly dyma’i gosod hi heno i “Coedmor” — emyn-dôn Richard Llewelyn Jones — emyn-dôn ag iddi ddyheu dwfn, cynhenid yn y llinellau ailadroddus. “Henffych fore. Henffych fore.” “Ffrind pechadur.. Ffrind pechadur.” “O am aros. O am aros. Yn ei gariad ddyddiau f’oes!”

--

--

Siôn B. E. Rhys Evans
Siôn B. E. Rhys Evans

Written by Siôn B. E. Rhys Evans

Priest, Diocesan Secretary | Offeiriad, Ysgrifennydd Esgobaethol | Duc in altum

No responses yet