Ledio’r Emyn: “Wele flaenffrwyth y cynhaeaf”
Mae’n hoedfa Gosber yn cynnwys rhyw lun ar bregeth fer, sy’n ein harwain at Emyn y Sul. Dyma oedd yr emyn ar Sul y Gweddïau:
Wele flaenffrwyth y cynhaeaf
wedi cyrraedd adre’n awr;
wele ysgub y cyhwfan,
ffrwyth pereiddiaf daear lawr;
ernes yw i’n ffydd a’n gobaith,
gwystl siwr y daw cyn hir
holl gynhaeaf llafur Iesu
adre’n llawn i’r nefol dir.Paid ag ofni’r bedd nac angau
Gristion, mae dy Iesu’n fyw;
ar ei Gnawd a’i Waed ymborthaist,
lluniaeth anfarwoldeb yw;
hûn fydd d’angau, nid marwolaeth,
ni fydd d’angau ond ei lun;
deffry Crist di’r dydd diweddaf
ar ei ddelw hardd ei hun.Daw angylion nef y nefoedd
yna i lawr yn dyrfa lân,
gan addoli gwedd y Barnwr,
oll o’i gylch fel cwmwl tân;
oll i’th hebrwng mewn gorfoledd
fry drwy’r awyr draw i’r nef,
lle cei fyth fod yn eu cwmni,
lle cei fyth fod gydag ef.Geiriau
Nicander (Morris Williams, 1809–1874)
Tôn “Arwelfa”
John Hughes (1896–1968)
Sut mae bod yn Gorff Crist?
Drwy fynd am dro.
Sut mae bod yn Gorff Crist? Dyna’r cwestiwn ger ein bron ni ar nos Suliau’r Pasg, gan edrych i benodau Actau’r Apostolion am ateb.
Heno mae Pedr, yn llythrennol, yn mynd am dro. Mae o wedi treulio naw pennod agoriadol Actau’r Apostolion yng Nghaersalem, yng nghwmni’r Eglwys Fore yno, yng nghwmni’r disgyblion sydd bellach yn apostolion, yng nghwmni’r ffrindau fu’n gyd-lygad-dystion i weinidogaeth a dioddefaint ac atgyfodiad Iesu.
Ond rwan, mae o wedi mynd am dro, ar daith, tua’r Gogledd, i Jopa ac yna i Gesarea. Ac yno, mae o mewn cwmni dieithr. Nid cyd-ddisgyblion bellach, nid rhai fu’n gyfarwydd â Iesu, nid rhai wedi eu trochi yn nhraddodiadau’r Iddewon fel gweddill yr Eglwys Fore, ond rhai o fysg y Cenhedloedd — rhai sydd wedi clywed am Iesu ac am y Cristnogion — am y ffydd a’r gobaith a’r cariad newydd hwn sydd ar waith — ac sydd am wybod mwy.
Mae Pedr wedi mynd am dro yn llythrennol, ond mae hi’n daith fewnol, ddiwinyddol, ddeallusol, emosiynol iddo fo hefyd. Nid pobl fel fo di Cornelius a’i deulu. Mae eu tras nhw, eu traddodiadau nhw, eu tafodiaith nhw’n wahanol i rai Pedr, a chyndyn ydi o briadd i gwrdd â nhw ar y daith. Ond rhaid sydd wrth fynd am dro. Ac y tu hwnt i dras a thraddodiad a thafodiaith, yr hyn â wêl Pedr ydi’r un dyheu am gysuron ffydd a gobaith a chariad ynddyn nhw, yr un Ysbryd ynddyn nhw, ag sydd ynddo fo. Ac er gwaethaf gwahaniaethau tras a thraddodiad a tafodiaith, yr hyn â wêl Pedr ydi eu bod hwythau, hefyd, yn rhan o Gorff Crist, yn union fel ag y mae yntau.
Sut mae bod yn Gorff Crist?
Drwy fynd am dro.
Mynd am dro wnaeth Dafydd ap Gwilym un bore ym mis Mai. Dwn i ddim beth ysbrydolodd freuddwyd Pedr am yr anifeiliaid a’r ymlusgiaid, ond dwi’n amau i Dafydd ap Gwilym gael ryw lymaid o win o’i hipflask cyn gorwedd lawr mewn llannerch y dydd hwnnw o Fai y mae o’n ei anfarwoli yn ei gerdd.
A chymaint ydi gogoniant y llecyn a’r foment nes i Dafydd ddechrau amgyffred y greadigaeth o’i gwmpas o fel capel — yr haul llachar ar y canghenau’n nenfwd euraidd, y fronfraith a’r eos yn offieriad ac yn gôr, gwyrddni llwyni Mai yn urddwisgoedd, deilen o’r coed cyll wedi ei chipio gan y gwynt fel cylchyn o fara’r Cymun, cân yr adar yn dyrchafu tua’r nen fel y cwpan yn cael ei dyrchafu uwchben fwrdd yr allor — y greadigaeth gyfan yn ganiadaeth, yn offrwm i Dduw Dad. Fel Pedr ar ei daith i’r gogledd, mae Dafydd yn ei daith i’w lannerch wedi dod i weld fod Duw ym mhobman.
Sut mae bod yn Gorff Crist?
Drwy fynd am dro.
Sul y Gweddïau ydi’r enw traddodiadol ar Chweched Sul y Pasg oherwydd, ar y Sul hwn, ar drothwy newid y tymhorau, fe fyddai cynulleidfa’r eglwys yn cynnull i fynd am dro — i gerdded llwybrau’r plwyf, gan stopio hwnt ac yma i fendithio’r cnydau, i roi diolch am dyfiant y gwanwyn, ac i gyflwyno’r meithrin a’r aeddfedu i ddod i ofal Duw.
Nid peth bach ydi mynd am dro. Mae hi’n saffach aros adra; ac mae na gysur i’w gael o gadw Duw dan glo — Duw ein tras a’n traddodiad a’n tafodiaith ni. Ond ar daith y mae Corff Crist, yn cyfarch y Greadigaeth gyfan y mae Duw iddi’n grewr, yn gynhaliaeth ac yn gyrchfan.
Mae emyn Morris Williams ar gyfer Sul y Gweddïau yn rhagweld pen y daith — mae’r caeau euraidd wedi eu cynaeafu, y sgubor yn llawn, y medi a ddaw inni gyd wedi’n cynnull ni â’r Greadigaeth gyfan yng nghoflaid Duw y Gredigaeth gyfan, “[pan gawn fyth fod yn ei gwmni], lle cawn fyth fod gydag ef.”