Ledio’r Emyn: “Tydi yw seren y canrifoedd maith”

Siôn B. E. Rhys Evans
4 min readAug 5, 2021

--

Mae’n hoedfa Gosber yn cynnwys rhyw lun ar bregeth fer, sy’n ein harwain at Emyn y Sul. Dyma oedd yr emyn ar Ŵyl Bedr:

Tydi yw seren y canrifoedd maith,
d’oleuni di sy’n tywys ar y daith;
o bob rhyfeddod, ti yw’r mwyaf un,
yn wyrth yr oesau yn dy wedd a’th lun.

O maddau, maddau fy ymdrechion gwyw,
hyderus wyf am newydd fodd i fyw;
tyn bob rhyw ddrygau cudd o’m calon i
a rho im degwch fel dy degwch di.

Lle rwy’n sigledig un, rho im y ffydd
a’r wawr wen olau sy’n troi’r nos yn ddydd;
rho im orfoledd gobaith yn fy nghân
ac un wreichionen fach o’th ddwyfol dân.

Dy rymus nerth, mae’n ddigon byth i mi,
a mwy na digon dy gadernid di;
i droedio’r daith sy’n ddryswch im o hyd
O rho d’arweiniad, a bydd gwyn fy myd.

Geiriau
Trebor Roberts (1913–1985)
Tôn “Eventide”
W. H. Monk (1823–1889)

Yr haf hwn, fe fyddai’n un o’n ffrindiau coleg pennaf i, N. N., yn dathlu ei benblwydd yn ddeugain. Ddaw hynny ddim. As noswyl y Mileniwm, yn ein hail flwyddyn ni’n y coleg, fe fu N. farw’n gartref yn ei gwsg — ymlediad yn yr ymennydd, yn sydyn, yn gudd, yn anosgoadwy, yn anesbionadwy. Mi oedd N. yn glyfrach na fi, yn fwy bydol-ddoeth na fi, yn swil fel fi ond yn fwy sicr ohono’i hun, yn ffrind tryw. A hithau’n nghanol y gwyliau Dolig, dwi’n cofio sefyll yn yr ardd yn Ynys Môn, yn edrych tuag ar y sêr yn dechrau pefrio uwch silwét Eryri a’r Eifl, a thu mewn ar chwâl, yn gymysgedd dyn ifanc o ddyfaru a deisyfu. Mi oeddwn i wedi byw bywyd diniwed, mwythlyd tan hynny. Marwolaeth N. wnaeth imi dyfu fyny — i holi cwestiwn, i weld chydig mwy am yr hyn sy’n bwysig. Dyna pryd ddechreuais i ddarllen barddoniaeth am y tro cyntaf ac eithrio i waith T.G.A.U., ac yfed wisgi. Ac wedi troi cefn ar gapel a chrefydd pan adewais i i fynd i’r coleg, dyna pryd ddechreuais i fynd i’r eglwys, hefyd.

O’i geni hi mewn galar a gwendid, tydw i erioed wedi disgwyl gwyrth o’ng nghrefydd i; nac ychwaith unrhyw sicrwydd cyhyrog o beth sydd neu o beth a fydd. O’i geni hi mewn galar a gwendid, dwi di gwybod bod na rywbeth coll, tu hwnt i’r cyrraedd ynghlwm i’m hangen i am grefydd. Cerdded i Emaus, nid marchogaeth i Ddamascus, fydda’i; mewn cerdd a phrofiad y gwela’i gip o Dduw fel arfer. Ac mae’r pethau coll ’na — y bobl, y ffrindiau, y sicrwydd, y cyflawnder — mae’r pethau tu hwnt i’r cyrraedd yn rhoi rhyw osgo hiraethus i ffydd.

Gras, mae’n debyg, ydi’r enw roddwn ni i’r rhodd oruwchnaturiol sy’n ein galluogi ni i groesi ceunant hiraeth — gras sy’n pontio’n hiraethu a’n dyheu ni ar y naill ochr, a chyflawnder coflaid Duw yr ochr draw. Ond cyn bwysiced ydi’r sbardun dwyfol oddi mewn i’n natur ddynol ni sy’n achosi inni godi pen a hiraethu’n y lle cyntaf. A hiraeth felly ydi’r dwyfol ynom ni yn dyheu am undod â’r dwyfol sanctaidd y tu hwnt i feidroldeb y bererindod hon.

“Tydi yw seren y canrifoedd maith,” meddai Trebor Roberts yn ei emyn. Un o weinidogion barddol canol yr ugeinfed ganrif oedd Trebor Roberts, yn enedigol o’r Bala, ond gan dreulio bron y cyfan o’i weinidogaeth yng Nghapel Coffa Emrys ym Mhorthmadog. Un o weinidogion yr oes o’r blaen, go iawn — y capel ar y Stryd Fawr yn Port wedi ei ddymchwel yn y flwyddyn y claddwyd Trebor Roberts yn ôl yn y Bala. Ond mae na rywbeth sy’n para yn yr emyn.

“Tydi yw seren y canrifoedd maith.” Un o wyrthiau’r gredigaeth ydi ein bod ni, fodau dynol, wedi ein creu o elfennau a grewyd am y tro cyntaf filoedd o filiynnau o ganrifoedd yn ôl yng nghrombil sêr yn tanio a’n ffrwydro yn nyddiau cynnar y bedysawd. Ar noson glir, wrth edrych fyny tua sêr y canrifoedd maith, yr hyn a welwn ni, yn gorfforol-wyddonol, ydi’r hyn oedden ni, a’r hyn fyddwn ni — sêr yn llefu ar sêr, dros geunant hiraeth, yn cyfarch ei gilydd.

A felly feddylia’i am y duwdod ynom ninnau, o’n mewn ni, yn hiraethu am gyflawnder y duwdod mawr tu hwnt, pan fydd dim ar goll, a dim mwy tu hwnt i’r cyrraedd, a gras yn pontio’r ceunant.

Yn y cyfamser, “da ni gyd yn y gwter,” meddai Oscar Wilde; “ond y gamp ydi codi pen i edrych tua’r sêr.”

Gweddïwn.

Defnyddiwn heno eiriau’r diolch cyffredinol yng nghyfieithiad John Davies o’r Llyfr Gweddi Gyffredin:

Hollalluog Dduw, Tad yr holl drugareddau, yr ydym ni dy weision annheilwng yn rhoddi i ti ddïolch gostyngeiddiaf a ffyddlonaf am dy holl ddaioni a’th drugareddau i ni, ac i bob dyn; gan offrwm i’th Ddwyfol Fawredd aberth moliant a dïolch am iti o’th dyner drugaredd esmwythâu y bla niweidiol, â’r hon yn ddiweddar y’n cystuddiwyd yn ddirfawr, ac adferu llef gorfoledd ac iechyd yn ein cyfanneddau. Ni a’th fendithiwn am ein creadigaeth, am ein cadwraeth, ac am holl fendithion y bywyd hwn; eithr uwch law pob dim, am dy anfeidrol gariad ym mhrynedigaeth y byd trwy ein Harglwydd Iesu Grist; am foddion gras, ac am obaith gogoniant. Ac ni a attolygwn i ti roddi i ni y cyfryw ddwys ac iawn ymsyniad ar dy holl drugareddau, fel y bo’n calonnau yn ddiffuant yn ddïolchgar; ac fel y mynegom dy foliant, nid â’n gwefusau yn unig, eithr yn ein bucheddau; tywy ymroddi i’th wasanaeth, a thrwy rodio ger dy fron mewn sancteiddrwydd ac uniondeb dros ein holl ddyddiau; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr, i’r hwn gyd â thydi a’r Yspryd Glân, bydded yr holl anrhydedd a’r gogoniant, byth bythoedd. Amen.

--

--

Siôn B. E. Rhys Evans

Priest, Diocesan Secretary | Offeiriad, Ysgrifennydd Esgobaethol | Duc in altum