Ledio’r Emyn: “Tydi a wnaeth y wyrth”

Siôn B. E. Rhys Evans
3 min readDec 18, 2020

--

Mae’n hoedfa Gosber yn cynnwys rhyw lun ar bregeth fer, sy’n ein harwain at Emyn y Sul. Dyma oedd Emyn Trydydd Sul yr Adfent:

Tydi a wnaeth y wyrth, O Grist, Fab Duw,
tydi a roddaist imi flas ar fyw:
fe gydiaist ynof drwy dy Ysbryd Glân,
ni allaf tra bwyf byw ond canu’r gân;
‘rwyf heddiw’n gweld yr harddwch sy’n parhau,
‘rwy’n teimlo’r ddwyfol ias sy’n bywiocáu;
mae’r Haleliwia yn fy enaid i,
a rhoddaf, Iesu, fy mawrhad i ti.

Tydi yw haul fy nydd, O Grist y groes,
yr wyt yn harddu holl orwelion f’oes;
lle’r oedd cysgodion nos mae llif y wawr,
lle’r oeddwn gynt yn ddall ‘rwy’n gweld yn awr;
mae golau imi yn dy Berson hael,
penllanw fy ngorfoledd yw dy gael;
mae’r Haleliwia yn fy enaid i,
a rhoddaf, Iesu, fy mawrhad i ti.

Tydi sy’n haeddu’r clod, ddihalog Un
mae ystyr bywyd ynot ti dy hun;
yr wyt yn llanw’r gwacter drwy dy air,
daw’r pell yn agos ynot, O Fab Mair;
mae melodîau’r cread er dy fwyn,
mi welaf dy ogoniant ar bob twyn;
mae’r Haleliwia yn fy enaid i,
a rhoddaf, Iesu, fy mawrhad i ti.

Geiriau
W. Rhys Nicholas (1914–1996)
Tôn “Pantyfedwen”
M. Eddie Evans (1890–1984)

Fe ddaw fel Haleliwia yn yr enaid.

Par o emynau o waith W. Rhys (Bill) Nicholas ydi emynau’r Sul yr wythnos hon a’r Sul nesa.

Ymhen yr wythnos, a’r Dolig bron ar ein pennau ni, “Carol Gŵr y Llety” fydd yr emyn. Ymson ydi honno yn llais ceidwad y llety ym Methlehem. Dyma fo’n siarad hefo ni, yn gofyn,

“A welaist ti’r ddau a ddaeth gyda’r hwyr / o Nasareth draw, wedi blino’n llwyr? / Bu raid imi ddweud bod y llety’n llawn / a chlywais hwy’n sibrwd, ‘Pa beth a wnawn?’”

Mae hi’n emyn sy’n ffordd unionsyth at ddigwyddiad, at hynt a helynt y Geni — y cymeriadau, y lleoliad, y synnau, y beichiogrwydd, yr emosiwn, y noson oer, y goleuni ar y gorwel. Mae Iesu’n agos yn yr emyn honno — bron y clywch chi fo’n crïo.

Ar un wedd, mae hi’n anodd credu mai’r un ydi’r awdur â gyfansoddodd Emyn y Sul yr wythnos hon, “Tydi a wnaeth y wyrth, O Grist, Fab Duw” — geiriau Bill Nicholas i dôn gofiadwy Eddie Evans. Mae na gyfeiriadau yn yr emyn at y cyffyrddadwy a’r sylweddol — O Grist y groes, O Fab Mair; ond nid dyna galon yr emyn. Nid emyn ydi hon am y neilltuol a’r penodol; nid emyn ydi hi am ddigwyddiad, neu gymeriad, neu berthynas. Emyn y mynyddoedd mawr, y gorwel lydan, y llynnoedd dyfnion ydi hi. Emyn am y dihalog Un; emyn am Dduw fel craidd a chyrchfan. Mae’r pennill cyntaf yn sôn am Dduw yn cydio yn yr enaid — Duw ydi’r “ddwyfol ias sy’n bywiocáu.” Mae ail bennill yn sôn am Dduw yn cynnal yr enaid — lle’r oedd cysgodion, Duw ydi “llif y wawr”. Mae’r pennill olaf yn sôn am Dduw sy’n cyfareddu’r enaid — Duw’n sy’n argyhoeddi, sy’n datrys, sy’n “llanw’r gwacter drwy [ei] air.”

Mae’n hawdd, ac yn beryg bywyd, i ni wneud Duw’n rhy fach. Nid person, nid peth, nid gwrthrych — rhywun neu rywbeth i’w blesio neu ei ofni, i’w liniaru neu i’w berswadio. Mae gogoniant a thrugaredd Duw yn llenwi’r ddaear, ac yn llenwi’r enaid. Emyn i’r Duw hwnnw ydi emyn Bill Nicholas heno.

Ac eto, wedi dweud hynny i gyd, mae hi hefyd yn emyn bersonol. Emyn y mynyddoedd mawr, y gorwel lydan, y llynnoedd dyfnion ydi hi — ond anrhydedd y Cristion ydi y cawn ni amgyffred y cyfan hwnnw ein hunain. “Mae’r Haleliwia yn fy enaid i,” meddai’r emynydd, dro ar ôl tro. Mae Duw yn gadarnach na’r mynyddoedd, yn lletach na’r gorwel, yn ddyfnach na’r llynnoedd, a’r cyfan yn ffitio i’n enaid i a chi.

Fe feddyliais i ganol yr wythnos, pan glywais i am farwolaeth Lloyd, y dylen ni ddewis emyn gwahanol y Sul hwn. Ond mi greda’i mai dyn yr Haleliwia oedd Lloyd — un a wyddai’r cadernid, y lled, y dyfnder hwnnw yn ei enaid; un â gydiodd Duw ynddo, a’i gynnal, a’i gyfareddu. Un a fyddai am inni ganu yn ein galar, yn ogystal ag yn ein gorfoledd, “Mae’r Haleliwia yn fy enaid i, a rhoddaf, Iesu, fy mawrhad i ti.”

--

--

Siôn B. E. Rhys Evans
Siôn B. E. Rhys Evans

Written by Siôn B. E. Rhys Evans

Priest, Diocesan Secretary | Offeiriad, Ysgrifennydd Esgobaethol | Duc in altum

No responses yet