Ledio’r Emyn: “Tydi a ddaethost ar dy newydd wedd”

Siôn B. E. Rhys Evans
5 min readApr 11, 2021

--

Mae’n hoedfa Gosber yn cynnwys rhyw lun ar bregeth fer, sy’n ein harwain at Emyn y Sul. Dyma oedd yr emyn ar Sul y Pasg Bach:

Tydi a ddaethost ar dy newydd wedd
at un a wylai’n chwerw wrth dy fedd,
i sychu yno ddagrau’i galar hi,
a’i gwneud yn dyst o’th atgyfodiad di,
O pâr i ninnau ar ein duaf awr
d’adnabod heddiw’n wir yng ngolau’r wawr.

Tydi a fuost yn gydymaith gynt
i’r ddau hiraethus ar eu hwyrol hynt,
i agor iddynt drysorfeydd y nef,
a’u hebrwng mewn llawenydd tua thref,
O tyred heddiw gyda ni bob cam,
a thro’n diffygiol ffydd yn eirias fflam.

Tydi a ddaethost at y gweddill brau
dan faich eu cur a’r drysau wedi cau,
i chwalu yno’u holl amheuon hwy,
a gadael dy dangnefedd iddynt mwy,
O tyred atom ninnau, Iesu byw,
i’th dderbyn heddiw’n Arglwydd ac yn Dduw.

Geiriau
Morgan D. Jones (1913–2011)
Tôn “Bro Aber”
J. Haydn Phillips (1917–1985)

Sut mae bod yn Gorff Crist? Dyna i chi gwestiwn canolog Tymor y Pasg. Nid dilyn Crist ydi’n galwad ni bellach, nid ymdebygu ato fo hyd yn oed, ond rhannu yn ei dduwdod o, bod yn rhan o’i Gorff atgyfodedig o. Mae Corff Crist yn atgyfodedig yn ein bywyd atgyfodedig ni.

Ond sut mae bod yn Gorff Crist?

Mae na dri ateb yn cuddio yn ein hoedfa ni heno.

Mae’n darlleniadau ni, yn ystod Tymor yr Pasg, yn dod o Lyfr Actau’r Apostolion — pumed llyfr y Testament Newydd, yn llechu yno rhwng y pedwar Efengyl a’r un llythyr apostolaidd ar hugain — yn pontio Ymgnawdoliad, Dioddefaint ac Atgyfodiad Crist yn yr Efengylau ar y naill law, ac ar y llaw arall bwrlwm efengylaidd yr Eglwys Fore sy’n destun yr epistolau.

Mae hi’n draddodiadol darllen o bennodau cynnar Llyfr yr Actau yn ystod Tymor y Pasg oherwydd dyma i chi olwg ar yr Apostolion a’u dilwynwyr nhw, y Cristnogion cyntaf, yn ceisio bod yn Gorff Crist — yn tyfu’r cyhyrau, yn gweu’r gewynnau, yn prifio’r nerfau fydd yn galluog iddyn nhw fel cymuned fod yn Gorff Crist yn y byd.

Ac mae awdur Llyfr yr Actau yn help inni. Mae o’n storïwr — mae o’n hoffi cynnig darlun lliwgar, gwiw o ddigwyddiad neu ffordd o fyw sy’n mynegi rhywbeth pwysig yn ein hanes o.

Felly fe ddown ni’n nôl dro ar ôl tro y Pasg hwn, rhwng rwan a’r Sulgwyn, at yr Actau a’r stori yno o ddilynwyr cynharaf Crist yn ceisio bod yn Gorff iddo fo.

Heno’r ddelwedd gawn ni ydi o’r gymuned gynnar honno yn rhannu eu heiddo a’u meddiannau — yn eu cyflwyno nhw wrth draed yr Apostolion, fel y gellid eu dosbarthu yn ôl fel y byddai angen pob un.

Nid cyflwyno aberth yn y Deml, ond rhoi o’u hunain wrth draed yr Apostolion er lles y gymued, er lles gweddill y Corff.

A dyna ichi’r ateb cyntaf heno, felly. Byddwn yn Gorff Crist wrth roi o’n hunain, wrth ddad-lwytho yn hytrach nac wrth feddiannu, wrth ymroi i fod, yn ymarferol yn ogytal ag yn ysbrydol, o un galon ac o un enaid.

Sut mae bod yn Gorff Crist?

Fedrwn i ddim dod o hyd i lun o Morgan D. Jones, awdur geiriau’n hemyn ni. Ond mae gen i lun un o’i lyfrau o. Darlithydd, athro a gramadegydd oedd Morgan Jones, ac fe all rhywun weld hoel y gramadegydd gofalus yn ei emynau o. Mae na dri phennill i emyn heno — y tri ar yr un patrwm — y bedair llinell gyntaf yn sôn am ymddangosiad Crist (i Fair Fadlen, i’r ddau ar y ffordd i Emaus, i’r disgyblion yn yr oruwch ystafell gloëdig), a’r cwpled olaf ym mhob pennill yn gofyn ar i Grist ymddangos i ninnau heddiw yn yr un modd. “Tydi a ddaethost gynt…” “O tyred atom ninnau nawr…”

A dyna ichi ail ateb, felly. Deuwn yn Gorff Crist wrth ddisgwyl, wrth erfyn, am ei bresenoldeb dwyfol o — wrth droi mewn gweddi a mawl, mewn addoliad ac mewn llonyddwch at y wawr a’r bywyd newydd a ddatguddir inni yn Nuw.

Sut mae bod yn Gorff Crist?

Mi oedd gan Haydn Phillips wallt y cyfnod clo cyn ei amser. “Bro Aber” oedd y dôn fuddugol y gystadleuaeth emyn-donau yn Eisteddfod Llangefni 1983. Mae na lun ohona’i mewn trowsus byr ar faes y brifwyl honno, ac mae hi’n emosiynol i mi feddwl am nain a thaid a mam-gu a thad-cu yn y pafilwn ar noson olaf y Steddfod yn canu “Bro Aber” am y tro cyntaf. Ond yr hyn sy’n nodedig amdani ydi ei llawenydd hi.

Ac, mewn dyddiau sydd dal yn ddyrus, dyna ichi drydydd ateb. Byddwn yn Gorff Crist yn ein llawenydd, yn ein hwyl, yn ein gorfoledd. Mae byrdwn bywyd yn dal yn drwm ar Gorff Crist, mae angau dal i bigo, fa’r clwyfau yno i’w gweld; ond llawenydd, hwyl a gorfoledd ydi’n cân, a safwn yn Gorff Crist fel blodyn yn wyneb yr haul, a heb droi ymaith eto byth.

Gweddi ar gyfer cynulleidfa Gosber wedi marwolaeth E.U.B. Y Tywysog Philip, Dug Caeredin

O Dduw tragwyddol, a ledaist y ffurfafen, a lywodraethi gynddeiriogi’r môr, ac a chylch-ogylchaist y dyfroedd hyd y dydd pan na fydd gwawr na machlud mwyach: derbyn, yn y drugaredd ac yng nghoflaid dy ras, enaid ein brawd Philip; a chaniatá i ninnau, ag ef, lochesu wedi’r drycin, yng nghwmni gogoneddus yr holl ffyddloniaid ymadawedig, yn hafan dy ddedwyddwch ac ym mhyrth dy wynfyd diderfyn; trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr. Amen.

--

--

Siôn B. E. Rhys Evans
Siôn B. E. Rhys Evans

Written by Siôn B. E. Rhys Evans

Priest, Diocesan Secretary | Offeiriad, Ysgrifennydd Esgobaethol | Duc in altum

No responses yet