Ledio’r Emyn: “Ti yw’r Un sy’n adnewyddu”
Mae’n hoedfa Gosber yn cynnwys rhyw lun ar bregeth fer, sy’n ein harwain at Emyn y Sul. Dyma oedd yr emyn ar y Sulgwyn:
Ti yw’r Un sy’n adnewyddu,
ti yw’r Un sy’n bywiocáu;
ti yw’r Un sy’n tangnefeddu
wedi’r cilio a’r pellhau:
bywiol rym roddaist im,
bellach ni ddiffygiaf ddim.Ti rydd foliant yn y fynwes,
rhoddi’r trydan yn y traed;
ti rydd dân yn y dystiolaeth
i achubol werth dy waed:
cawsom rodd wrth ein bodd,
ofn y galon friw a ffodd.Deued fflam yr adnewyddiad,
rhodded Gymru oll ar dân;
deuwn ato’n edifeiriol
ac fe droir ein gwarth yn gân:
dwyfol ias, nefol flas
ddaw drwy’r Ysbryd Glân a’i ras.Geiriau
Dan Lynn James (1928–1993)
Tôn “Groeswen”
J. Ambrose Lloyd (1815–1874)
Sut mae bod yn Gorff Crist? Drwy ddysgu iaith yr Ysbryd.
Parthiaid a Mediaid ac Elamitiaid, Cretiaid ac Arabiaid, a thrigolion Mesopotamia, Jwdea a Capadocia, Pontus ac Asia, Phrygia a Pamffylia, yr Aifft a pharthau Libya, a rhyw ymwelwyr exotic o Rufain — a phob un yn clywed y digyblion yn llefaru yn ei famiaith ei hun.
Ni peth bach ydi hynny. Mae iaith yn fwy na geirfa. Mae iddi idiomau a diarhebion, mae iddi synnau sy’n troi’n gynghanedd, mae iddi gôf a barddas, sy’n lliwio ystyr, sy’n gefndir pob dweud. Ac y tu hwnt i gyfoeth ei llên a’i horgraff, mae i iaith wreiddiau byw — mae iddi wlad a thirwedd, mae iddi aelwyd a chynefin a chartref. Mae siarad iaith rhywun yn golygu siarad rhywfaint o’u hunaniaeth nhw hefyd. Mae siarad iaith yn golygu siarad pobl, os nad siarad cenedl.
Parthiaid a Mediaid ac Elamitiaid — yn clywed y digyblion yn llefaru yn eu mamiaith. Nid peth bach ydi clywed rhywun yn siarad am fawrion weithredoedd Duw yn eich iaith eich hun.
Sut mae bod yn Gorff Crist? Drwy ddysgu iaith yr Ysbryd.
Mi oedd Dan Lynn James, awdur geiriau’n hemyn ni, yn un o’r ffigyrau mwyaf yn hanes dysgu Cymraeg ail-iaith yng Nhymru’r ugeinfed ganrif, gan weithio’n ddiflino yn Adran Addysg Prifysgol Aberystwyth ac fel Trefnydd Iaith Awdurdod Addysg Dyfed. Yn y degawdau tyngedfennol hynny i’r iaith ac i arfer dysgu — yn y chwedegau a’r saithdegau — fe fu Dan Lynn James yn ganolog i’r gwaith o foderneiddio nid yn unig ddulliau addysgu ail-iaith, ond orgraff y Gymraeg ei hun — oll er mwyn sefydlu ystwythder yr iaith yn y meddwl. Meddai’r Athro Bobi Jones amdano mewn erthygl goffa yng nghylchgrawn Cymdeithas y Dysgwyr, “Mae’n anodd gen i feddwl fod neb erioed wedi cyfrannu mor eang ac mor ddwfn i ddefnyddiau Cymraeg ail iaith ag a wnaeth Dan.”
Yn ogystal ag addysgu’r iaith, roedd Dan Lynn James hefyd yn un cenhadol o blaid y ffydd, gan weithio’n ddiwyd dan awennau’r Cyngor Ysgolion Sul. Bobi Jones eto: “Roedd ganddo weledigaeth ddeuol: gweledigaeth adfywiad y byd bach- yr Iaith Gymraeg, a gweledigaeth y byd mawr — Teyrnas Nefoedd.” Oherwydd mai yng Nghadwyn Cyd, cylchgrawn Cymdeithas y Dysgwyr y cyhoeddwyd erthygl goffa Bobi Jones, mae na eirfa ar gyfer dysgwyr ar ei diwedd hi. Nid drwg o beth ydi crynodeb o fywyd sy’n cynnwys, yn ogystal â “llynges”, “traethawd” ac “ystwythder”, y geiriau “troedigaeth”, “cenhadu” a “mawrygu”.
Sut mae bod yn Gorff Crist? Drwy ddysgu iaith yr Ysbryd.
Parthiaid a Mediaid ac Elamitiaid — yn clywed y digyblion yn siarad am fawrion weithredoedd Duw yn eu mamiaeth eu hunain.
Ar y Sulgwyn, mae Duw yn siarad iaith yr aelwyd a’r cynefin a’r cartref wrth bob un ohonom ni — yn siarad ein hunaniaeth ni inni.
Mi oedd ein Bedydd ni, i bob un ohonom ni, yn rhyw fath o Sulgwyn bach personol i ni. Corff ac enaid oedden ni cyn hynny — cig a gwaed, ymwybod a chymeriad — felly’n genir ni. Ond wedi’n Bedydd ni, mi ydan ni’n dri pheth — yn gorff, ac enaid, ac ysbryd. A ninna’n sgrechian wrth i ddŵr lychu’n talcennau ni, mi oedden ni, fel yr Apostolion gynt, yn siarad iaith newydd, am i’n huniniaeth ni bellach gynnwys yr ysbryd hefyd.
Chwiliwch am yr ysbryd hwnnw, felly — dysgwch ei idiomau a’i diarhebion o, ei farddas o a’i lên, nes, drwy ras, y byddwn ni’n rhugl yn iaith y nef.