Ledio’r Emyn: “Peraidd ganodd sêr y bore”
Mae’n hoedfa Gosber yn cynnwys rhyw lun ar bregeth fer, sy’n ein harwain at Emyn y Sul. Dyma oedd emyn Gŵyl yr Ystwyll:
Peraidd ganodd sêr y bore
ar enedigaeth Brenin nef;
doethion a bugeiliaid hwythau
deithient i’w addoli ef
gwerthfawr drysor,
yn y preseb Iesu gaed.Brenin tragwyddoldeb ydyw,
Llywodraethwr dae’r a ne’;
byth ni wêl tylwythau’r ddaear
Geidwad arall ond efe;
mae e’n ddigon,
y tragwyddol fywyd yw.Byth i’r Mab y bo gogoniant,
hwn a aned erom ni,
ac i’r Tad, a’r Sanctaidd Ysbryd,
heb wahân yn Un a Thri;
byth heb ddiwedd,
fel o’r dechrau, seinia’u clod.Geiriau
Morgan Rhys (1716–1779)
Tôn “Caersalem”
Robert Edwards (1796–1862)
Geiriau o ddiwedd pennill cyntaf ein hemyn ni:
Gwerthfawr drysor, yn y preseb Iesu gaed.
Ar y deunawfed o fis Mawrth ym 1958, mi oedd y mynach a’r diwinydd Catholig, Thomas Merton, yn sefyll ar groesffordd yn Louisville yn Kentucky, bywyd y ddinas yn byrlymu o’i gwmpas o, pawb yn brysur yn eu mynd a’i dod.
“Yn sydyn,” meddai, mewn llyfr a ysgrifenodd am ei brofiadau ysbrydol:
cefais fy llethu gan y sylweddoliad fy mod i’n caru’r holl bobl yma… Gwelais harddwch cyfrin eu calonnau, dyfnderoedd eu calonnau lle na all na phechod, nac awchu, na hunan-wybodaeth gyrraedd, craidd eu realiti nhw, y person yr ydyn nhw, pob un, yng ngolwg Duw…
Yng nghanol bod pob un ohonom ni, mae na ganolbwynt o ddim byd sydd heb ei gyffwrdd gan bechod a rhith, pwynt o wirionedd pur, gwreichionen sy’n perthyn yn llwyr i Dduw… Mae o fel diemwnt, ar dân â golau anweledig y nefoedd…
Nid oes gen i raglen neu lwybr ar gyfer gweld fel hyn. Caiff ei roi inni… Ond mae’r goleuni hyn ym mhawb, a phe gallem ei weld, byddem yn gweld y biliynau hyn o wreichion yn dod at ei gilydd yn wyneb tanbaid yr haul a fyddai’n gwneud i holl dywyllwch a chreulondeb bywyd ddiflannu’n llwyr…
Does na ddim ffordd o ddweud wrth bobl eu bod nhw i gyd yn cerdded o gwmpas yn tywynnu fel yr haul… Ond mae porth y nef ym mhobman.
Gwerthfawr drysor, yn y preseb Iesu gaed.
Gŵyl y gweld, y darganfod, y deall ydi Gŵyl yr Ystwyll.
Gŵyl y triawd o dderwyddon o Bersia yn baglu’n syn yng ngolau seren, yng ngeiriau cerdd Siôn Aled; ond, ar ôl yn baglu, yn darganfod, yn deall ac yn gweld.
Ac yn gweld y tu hwnt i wellt a phreseb y beudy. Yn gweld y tu hwnt i athronyddiaeth a dysg eu disgwyliadau nhw. Yn gweld y tu hwnt, ac oddi mewn, i normalrwydd y baban o’u blaen nhw. Yn gweld iachawdwriaeth, a bywyd newydd, a dyfnder bod. Yn gweld diemwnt, ar dân â golau anweledig y nefoedd. Yn gweld porth ar agor o’u blaenau.
Gwerthfawr drysor, yn y preseb Iesu gaed.
Os ydych chi rywbeth tebyg i mi, mae hi di bod yn anodd bod yn llawen y Dolig hwn. Nid eleni, efallai, am lamu brwdfrydig y bugeiliaid, yn rhuthro o’u praidd i gwffio am le o gylch y baban. Dolig eleni, efallai, am deithio arafach y doethion. Nadolig, ie, i ddod ag aur i’r brenin a thus i’r duwdod, ond myrr hefyd i eneinio’r dyn. Nadolig i syllu drwy lygaid (a dagrau) profiad, a gweld, a darganfod, a deall.
Gwerthfawr drysor, yn y preseb Iesu gaed.
Mae na stori am yr emyn-dôn y canwn ni eiriau Morgan Rhys iddi heno. Fe gyfansoddodd Robert Edwards ei dôn, “Caersalem”, pan yn arweinydd y gân yng Nghapel Bedford Street yn Lerpwl, gan feddwl dim llawer ohoni, a’i gadael yn nrôr ei ddesg yn festri. Yn ŵr ifanc, fe fu’n wael, a thra’n yr ybsyty death aelodau o gôr y capel ar draws y dôn, a’i dygsu, a’i chanu iddo yn ei oedfa gyntaf nôl wrth ei waith. Dyna ichi weithred fach o weld, a darganfod, a deall. Nadolig llawen.
Gwerthfawr drysor, gwerthfawr drysor, gwerthfawr drysor, yn y preseb Iesu gaed.