Ledio’r Emyn: “O Iesu, y ffordd ddigyfnewid”
Mae’n hoedfa Gosber yn cynnwys rhyw lun ar bregeth fer, sy’n ein harwain at Emyn y Sul. Dyma oedd yr emyn ar Sul y Meibion:
O Iesu, y ffordd ddigyfnewid
a gobaith pererin di-hedd,
O tyn ni yn gadarn hyd atat
i ymyl diogelwch dy wedd;
dilea ein serch at y llwybrau
a’n gwnaeth yn siomedig a blin,
ac arwain ein henaid i’th geisio,
y ffordd anghymharol ei rhin.O Iesu’r gwirionedd anfeidrol,
tydi sydd yn haeddu mawrhad,
O gwared ni’n llwyr o’r anwiredd
sy’n gosod ar fywyd sarhad;
lladd ynom y blas at y geiriau
sy’n twyllo’r daearol ei fryd,
a derbyn ein moliant am olud
gwirionedd sy’n achub y byd.O Iesu, y bywyd tragwyddol,
ffynhonnell y nerth sy’n parhau,
rho inni dy weld yn dy allu
yn gwneud i eneidiau fywhau;
mae ynot ddiderfyn rasusau
sy’n drech na gelyniaeth y byd:
moliannwn wrth gofio am fywyd
sy’n ras a thrugaredd i gyd.Geiriau
W. Rhys Nicholas (1914–1996)
Tôn “Crugybar”
Alaw Gymreig, o Moliant Seion (1883)
Mae W. Rhys Nicholas, Bill Nicholas, awdur yr emyn, yn edrych fatha taid Cymerig o gatalog yr 80au. Yn wir, mae o’n fy atgoffa i o’n nhad-cu i — yr un siaced, yr un tei, yr un sbectol.
Mi gofia’i Tad-cu’n ddyn tawel, gofalus, diymhongar, pryséis ei ffordd; ond, o dan y dyfroedd llyfnion, y tu ôl i’r sbectol, fe oedd na feddwl dwfn ac angerdd ffyddlon.
Mae’r un cyfuniad — yr wyneb pryséis a’r difrifoldeb dwfn — yn nodweddiadol o emynau Bill Nicholas. Fe dreuliodd Bill Nicholas ei yrfa yng ngweinidogaeth yr Annibynwyr yn ne Cymru, ond mi enillodd fri fel un o brif emynwyr ail hanner yr ugeinfed ganrif.
Mae ei ddwy emyn enwocaf o, “Tydi a wnaeth y wyrth, O Grist fab Duw” (a ganwn ni ar dôn Pantyfedwen), a “Tyrd atom ni, O Grëwr pob goleuni” (ar dôn Berwyn), yn rhannu’r un nodweddion (pryséis a dwfn) yn eu cyfansoddaid nhw:
Yn gyntaf — y patrwm pryséis: fe gawn ni’r un ymadrodd ar ddechrau pob pennill yn yr emyn, ond gan gyflwyno elfen wahanol ar bersonoliaeth y duwdod bob tro (“Tyrd atom ni, O Grëwr pob goleuni, O Luniwr pob rhyw harddwch, Arweinydd pererinion, O Dad ein Harglwydd”).
A wedyn y dyfnder, wrth i weddill pob pennill ymagor y ddelwedd, ei chyfoethogi hi, a’i pherthnasu hi i’n bywydau ysbrydol ninnau (“yr wyt yn llanw’r gwacter drwy dy air, / daw’r pell yn agos ynot, O Fab Mair”).
Y gofal mathemategol bron o ran strwythyr; a’r angerdd mydryddol wrth blymio dyfnderoedd Duw.
Ychydig iawn o emynau cyfoes sydd na werth eu darllen nhw fel barddoniaeth, werth eu dysgu nhw ar dafod leferydd, werth eu gweddïo nhw. Ond mae emynau Bill Nicholas.
Mae ei emyn o heno yn ymagoriad o’r ymadrodd a glywsom ni o ennau Iesu yn ein darlleniad ni, “Myfi yw’r ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd.” “O Iesu, y ffordd ddigyfnewid / a gobaith pererin di-hedd,” y dechreua’r pennill cyntaf; “O Iesu’r gwirionedd anfeidrol, / tydi sydd yn haeddu mawrhad,” meddai’r ail; “O Iesu, y bywyd tragwyddol, / ffynhonnell y nerth sy’n parhau,” y dechreua’r pennill olaf. Mae gweddill pob pennill yn fath o weddi ar i Dduw amlygu ei ffordd, ei wirionedd, ei fywyd o yn ein bywydau ninnau; ac fe ddaw pob pennill i ben mewn moliant, mewn diolchgarwch am arweiniad, am olud, am dragwyddoldeb.
Y pryséis a’r dwfn yn rhoi inni rhyw fath o ddatganiad byrfyfyr ar ymadrodd Iesu.
“Myfi yw’r ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd.”
Dwi’n un sy’n hoff o’r haniaethol, yr abstract. A dwi’n hoff felly o Efengyl Ioan, pan fo Iesu’n siarad fel hyn yn eithaf aml — mewn rhyw fath o ddywediadau, barddonol bron, am ystyr ei dduwdod o.
Un o rinweddau emyn Bill Nicholas ydi ei fod o’n gwreiddio’r geiriau haniaethol, abstract yma yn ein bywydau ni. Wrth sôn, er enghraifft, am Grist “y ffordd”, meddai Nicholas: “dilea ein serch at y llwybrau / a’n gwnaeth yn siomedig a blin.” Mae na gydnabyddiaeth yna nad ydi’r haniaethol, yr abstract yn ddigon — mae’n rhaid i eiriau Crist, i ddisgrifiad Crist gael ei roi ar waith yn ein bywydau ni.
Peth concrid ydi Cristnogaeth oherwydd mai peth concrid ydi cariad. Siawns mai dyna un o wersi’r cyfnod clo inni — mae modd gwneud llawer ar sgrin neu dros ffôn, ond mae cyffwrdd a choflaid yn fodd i fyw; mae perthynas yn fywiocaol o allu ei theimlo hi; ac mae corff Crist yn fyw wrth i ni ei ymgorffori o.