Ledio’r Emyn: “O Iesu, maddau fod y drws ynghau”
Mae’n hoedfa Gosber yn cynnwys rhyw lun ar bregeth fer, sy’n ein harwain at Emyn y Sul. Dyma oedd emyn ar Sul Cyntaf y Grawys:
O Iesu, maddau fod y drws ynghau
a thithau’n curo, curo dan dristáu:
fy nghalon ddrwg a roddodd iti glwyf,
gan g’wilydd ŵyneb methu agor ’rwyf.Ti biau’r tŷ; dy eiddo yw, mi wn;
ond calon falch sydd am feddiannu hwn:
mae’n cadw’i Harglwydd o dan oerni’r ne’,
gelynion i ti sy’n y tŷ’n cael lle.Ai cilio ’rwyt? O aros, Iesu mawr;
mi godaf, ac agoraf iti nawr:
ni chaiff fy nghalon ddrwg na ch’wilydd gwedd
rwystro fy unig obaith byth am hedd.O torred gwawr maddeuant oddi fry,
yr awel sanctaidd gerddo drwy y tŷ!
Mae’r drws yn ddatglo, dangos im dy wedd –
cael dod yn debyg iti fydd y wledd.Geiriau
Elfed (Howell Elvet Lewis, 1860–1953)
Tôn “Ellers”
E. J. Hopkins (1818–1901)
Lle da chi’n sefyllian ar ddechrau’r Grawys eleni? Be di’ch lleoliad chi, eich safbwynt chi, eich sefyllfa chi?
Meddai Iesu wrth y Phariseaid, “myfi yw’r drws.” Meddai Iesu wrth rai’n sefyll tu allan, “dewch i mewn, trwof fi.”
Ac falle mai fan’o da chi — tu allan, yn edrych mewn. Tebyg ei bod hi’n dywyll tu allan, ac yn oer, ac yn beryg, ac yn unig. Mae hi’n waith caled bod tu allan: cynnal eich hunan; gwneud drosoch eich hun; chwilota, fforio; gorfod codi pac; herio’r tywydd mawr. Meddai Iesu wrth y rhai’n sefyll tu allan, “myfi yw’r drws; dewch i mewn, trwof fi.” Tu mewn, mae na achubiaeth a rhyddid a chynhaliaeth. Tu mewn, rhywsut, mae hi’n glyd ac yn saff. Tu mewn, mae na goflaid.
Mae’n debyg bod pryderon a gofidiau’r tu allan yn wahanol i bob un ohonom ni; a’r hyn da ni’n ei ddyheau amdano fel cofliad yr aelwyd yr un mor amrywiol. Ond mae hi’n waith caled bod tu allan, ac os da chi di blino bod yno, bron ag ymladd, beth am hoe yn hytrach na chaledi y Grawys hwn. Meiddiwch dertio’ch hun. Ysgafnwch eich baich. Dewch i mewn. Meddai Iesu wrth y rhai’n sefyll tu allan, “myfi yw’r drws; trwof fi, dewch i mewn.”
Lle da chi’n sefyllian ar ddechrau’r Grawys eleni? Be di’ch lleoliad chi, eich safbwynt chi, eich sefyllfa chi?
Mae Idris Davies yn ein cerdd agoriadol hi heno, tu mewn ac isho bod tu allan.
Hogyn Cymraeg o bentref glofaol y Rhymni oedd Idris Davies. Fe’i aned o ar Ŵyl yr Ystwyll yn 1905, ei dad o’n gyfrifol am olwyn y pwll glo lleol, am y lifft yn cludo’r dynion o tu allan i grombil y ddaear ddu. Ac i’r fan honno yr aeth Idris, yn bedair-ar-ddeg, a gweithio yno nes ei fod o’n ei ugeiniau, ac i gyfuniad o anafiadau a Streic Fawr 1926 ei wneud o’n ddi-waith. Fe hyfforddod o wedi hynny’n athro ysgol, ei ddawn barddol o’n yn y Gymraeg a wedyn yn Saesneg yn gynyddol amlwg nes iddi weld golau dydd yn ei gasgliad eirias o gerddi am ddioddefaint cymunedau glofaol de Cymru, Gwalia Deserta (Anialdir Cymru) yn 1936 — yng ngeiriau T. S. Eliot, “y ddogfen farddonol orau y gwn amdani am le penodol mewn cyfnod penodol.” Petai canser yr abdomen heb ei orchfygu fo, ar ddydd Llun y Pasg 1953, yn ddeugain ac wyth, fo fyddai un o feirdd mawr yr ugeinfed ganrif.
Rhyw R. S. Thomas y pyllau glo oedd Idris Davies. A, thra ym mhen pythefnos, y darllenwn ni gerdd R. S. am ei brofiad o mewn eglwys wledig, yng ngherdd heno, mae Idris mewn capel yng Nghwm Rhymni, yn rhy radical i’r blaenoriaid, yn rhy finiog i’w hudo gan y pregethwr, wedi cael llond bol ar flinder a beichiau ei bobl, ac yn edrych tu allan, drwy ffenestri’r capel:
Yn gwylio’r haul fel tomato perffaith yn cosi ael y bryn,
A dyn ifanc melynddu’n crwydro’r esgair borffor,
A’i gorff yn grwm a’i wên yn dyner.
Ac weithiau ganol wythnos fe’i gwelwn eto,
A gwenu o ddallt ein gilydd.
Mae hi’n syrffedus bod tu mewn, weithiau. Weithiau mae Iesu Grist, weithiau mae achubiaeth a rhyddid a chynhaliaeth, tu allan, “a’i gorff yn grwm a’i wên yn dyner.” Os da chi du mewn gormod y Grawys hwn, mentrwch allan, hyd ael y bryn.
Lle da chi’n sefyllian ar ddechrau’r Grawys eleni? Be di’ch lleoliad chi, eich safbwynt chi, eich sefyllfa chi?
Camp emyn Elfed yn y munud ydi’n lleoli ni, nid y tu mewn na’r tu allan, ond fel yr aelwyd, y deml, y galon i’w meddu, ninnau fel y drws i’w agor i groesawu, i gofleidio’r Crist sydd yno’n disgwyl, yn curo, am ddod mewn.
Yn narlun Elfed, dio’r ots lle da chi’n sefyllian, be di’ch lleoliad chi, eich safbwynt chi, eich sefyllfa chi. Lle bynnag ydan ni ar ddechrau’r Grawys eleni, y tu allan yn erfyn am gynhaliaeth yr aelwyd, yn tu mewn yn ysu am ryddid y byd mawr, lle bynnag ydan ni, “O aros, Iesu mawr; mi godaf, ac agoraf iti nawr. / Mae’r drws yn ddatglo, dangos im dy wedd — cael dod yn debyg iti fydd y wledd.”