Ledio’r Emyn: “O Grist, Ffisigwr mawr y byd”

Siôn B. E. Rhys Evans
4 min readMar 26, 2021

--

Mae’n hoedfa Gosber yn cynnwys rhyw lun ar bregeth fer, sy’n ein harwain at Emyn y Sul. Dyma oedd yr emyn ar Sul y Grwychon:

O Grist, Ffisigwr mawr y byd,
down atat â’n doluriau i gyd;
nid oes na haint na chlwy’ na chur
na chilia dan dy ddwylo pur.

Down yn hyderus atat ti,
ti wyddost am ein gwendid ni;
gwellhad a geir ar glwyfau oes
dan law y Gŵr fu ar y groes.

Anadla arnom ni o’r nef
falm dy drugaredd dawel, gref;
pob calon ysig, boed yn dyst
fod hedd yn enw Iesu Grist.

Aeth y trallodus ar eu hynt
yn gwbwl iach o’th wyddfod gynt;
Ffisigwr mawr, O rho dy hun
i’n gwneuthur ninnau’n iach bob un.

Geiriau
D. R. Griffiths (1915–1990)
Tôn “Deep Harmony”
Handel Parker (1854–1928)

Cyn i ddyn adeiladu dinas, fe adeiladodd o deml.

Yn nyddiau cynnar diwylliannau dynol o bob math, ledled y byd, mi adeiladodd y ddynoliaeth demlau. Gosodwyd ynddyn nhw allorau, ac ar y rheiny offrymwyd aberth ger bron y duwdod. Teml, allor, aberth — elfennau creiddiol crefydd ddynol.

Rhywbeth pur, eiddil, diniwed a aberthwyd. Ond ar sgwyddau’r aberth hwnnw fe osodwyd, fe lwythwyd, bechodau, casinebau a gofidiau y gymuned. Ac yn yr aberthu, cafwyd gwared ohonyn nhw. Gwell oedd dargyfeirio emosiynau cryf — euogrwydd, eiddigedd, pryder — tuag at yr aberth na gadael iddyn nhw fynd yn rhemp ymysg dynion; mi oedd dargyfeirio trais fel hyn yn un o gymhellion crefydd. Ond dargyfierio, nid datrys, oedd yma — a chael gwared dros dro. Deuai’r pechod a’r casineb a’r gofidiau yn ôl. A byddai angen dychwelyd eto i’r deml, at yr allor, i aberthu.

Ar allor y Groes yn ninas y Deml, aberthwyd Iesu Grist, Oen Duw. Drama’r Dioddefaint, drama’r Wythnos Fawr ydi’r dasg o lwytho ar ei sgwyddau o bechodau, casinebau a gofidiau y cymeriadau hynny sy’n cynrhychioli’n emosiynau ni. “Yr wyf yn rhoi fy einioes dros y defaid.” Ond er y diniweidrwydd, er y llwytho cyfarwydd, er yr aberthu, nid cael gwared sydd na ar y Groes. Mae llen y Deml yn rhwygo, mae’r maen wedi ei wthio o’r neilltu. Ac mae corff clwyfedig Crist yn dal yno, heb ei ddinistrio, ac yn cynnig inni, nid rhyw “gael gwared” dros-dro, ond maddeunat di-ddiwedd.

“O Grist, Ffisigwr mawr y byd, / down atat â’n doluriau i gyd; / … gwellhad a geir ar glwyfau oes / dan law y Gŵr fu ar y groes.”

Dennis Brutus (1924–2009)

Gweinidog hefo’r Bedyddwyr oedd D. R. Griffiths, awdur geiriau’r emyn. Y tu hwnt i emynydda a barddoni, mi wnaeth ddau gyfraniad hegar i Gristnogaeth Gymraeg. Yn gyntaf, fo oedd un o gyfieithwyr y Testament Newydd ym Meibl Cymraeg Newydd 1988. Yn ail, law yn llaw â’i wraig, Gladys, bu’n weithgar yn yr ymdrech yn erbyn apartheid yn Ne Affrica, a bu i’r ddau ohonynt feithrin cyfeillgarwch galonogol, ddofn â’r Athro Dennis Brutus, y bardd a’r llenor a garcharwyd â Nelson Mandela ar Ynys Robben. Wedi iddo gael ei ryddhau, ar eu haelwyd hwy yng Nghaerdydd yr arhosai Dennis Brutus ar ei ymweliadau â Phrydain. Nid canu am y Ffisigwr yn unig, felly, ond rhannu yn ei waith a’i weinidogaeth.

“O Grist, Ffisigwr mawr y byd, / down atat â’n doluriau i gyd; / … pob calon ysig, boed yn dyst / fod hedd yn enw Iesu Grist.”

Erbyn Pumed Sul y Grawys, fe fyddai hen aelwydydd gwledig, Cymreig wedi bod yn byw ar gynnyrch y pantri ers misoedd bellach. Er y byddai bywyd newydd y gwanwyn yn dechrau egino, fyddai na ddim cnwd newydd am beth amser eto; ac fe fyddai cig a danteithion eraill i’w cadw tan ddathliad y Pasg. Rhaid bellach, felly, oedd cyrraedd i gefn y silffoedd gweigion, at bys a ffa o gynhaeaf y llynedd, wedi eu sychu a’u storio mewn jariau. Fe fyddai’r pys sych yn socian dros nos mewn dŵr, llefrith a seidar, ac, wrth socian, fe fyddai’r plisgyn yn torri, yn gwrychu. Y gwrychon yma — y cawl yma o bys wedi socian — fyddai swper diwedd y Grawys, a dyna roi enw traddodiadol y Pumed Sul, Sul y Grwychon.

Mae ymprydio fel yna, ymwrthod â moethau, yn elfen bwysig o ddyddiau’r Dioddefaint a’r Wythnos Fawr am eu bod yn fodd o gysylltu’n profiad ni, yn ein croen, hefo profiad y Crist clwyfedig, Duw’n yn ein cnawd. Nid aberth mohono, un pur, eiddil, diniwed y llwythwn ni arno ein pechodau o bell. Nida berth mohono, ond un, o fyw a marw yn ein mysg, sy’n dangos inni ni ein hunain, yr hyn y medrwn ninnau fod, y duwdod o’n mewn, yr iachawdwriaeth sy’n wir iachád.

“O Grist, Ffisigwr mawr y byd, / down atat â’n doluriau i gyd; / … Ffisigwr mawr, O rho dy hun / i’n gwneuthur ninnau’n iach bob un.”

--

--

Siôn B. E. Rhys Evans
Siôn B. E. Rhys Evans

Written by Siôn B. E. Rhys Evans

Priest, Diocesan Secretary | Offeiriad, Ysgrifennydd Esgobaethol | Duc in altum

No responses yet