Ledio’r Emyn: “O Dduw, a roddaist gynt dy nod ar bant a bryn”
Mae’n hoedfa Gosber yn cynnwys rhyw lun ar bregeth fer, sy’n ein harwain at Emyn y Sul. Dyma oedd yr emyn ar Ŵyl Eleri:
O Dduw, a roddaist gynt
dy nod ar bant a bryn,
a gosod craig ar graig
dan glo’n y llethrau hyn,
bendithia waith pob saer a fu
yn dwyn ei faen i fur dy dŷ.Tydi sy’n galw’r pren
o’r fesen yn ei bryd,
a gwasgu haul a glaw
canrifoedd ynddo ’nghyd:
O cofia waith y gŵr â’r lli’
a dorrodd bren i’th allor di.Ti’r hwn sy’n torri’r ffordd
a’i dangos ymhob oes,
bendithia sêl dy blant
a’i troediodd dan eu croes;
rho weled gwerth eu haberth hwy
fel na bo glas eu llwybrau mwy.Geiriau
Tomi Evans (1905–1982)
Tôn “Rhosymedre”
J. D. Edwards (1805–1885)
Mae i Gonwy ei gastell a muriau’r dref — y castell ei hun yn gadarnle, ond y muriau hefyd yn amddiffynfa i’r dref gyfan. Ac y tu hwnt i’r muriau hynny, yn ddaearyddol yn syth i’r de o’r dref, ynghlwm i wyneb allanol y waliau, mae pentref Gyffin. Mae’r pentre’n dwyn ei enw o’i leoliad o — dyma le a dyfodd yng nghyffiniau’r castell a’r dref a’r muriau — ynghlwm i’r ffin, yn y cyffiniau, dyma i chi Gyffin.
Mae’r syniad o ffiniau yn rhan bwysig o ddiwinyddiaeth a gweinidogaeth y Pab Ffransis. Fe aeth o ar ei daith gyntaf o allan o Rufain ar ôl ei ethol yn Bab i ynys Lampedusa, oddi ar ddeheubarth yr Eidal — ynys y mae ffoaduriaid ac ymfudwyr o Affica yn anelu amdani wrth geisio croesi ffin Môr y Canoldir. Chwe mis ar ôl ei ymweliad, bu farw tri chant ohonynt yn y dyfroedd ger Lampedusa — yn ei chyffiniau — ar ôl i gwch yn orlawn â 500 enaid suddo’n y tonnau.
Meddai cofiannydd y Pab, yr Athro Massimo Faggioli, am agwedd Francis tuag at ffiniau:
Mae ffin wastad yn fwy na therfyn anhyblyg (limes, yn y Lladin), oblegid mae pob ffin hefyd yn limen, yn drothwy. Ni all unrhyw ffin honni ei bod yn eithrio “y nhw”, gan fod y ffin, trwy ddiffiniad, yn creu inni “y nhw”. Mae’r ffin, trwy gyfyngu, hefyd yn perthynu.
Nid ymdrech sydd yn y fan honno i gael gwared â ffiniau; i gogio nad ydyn nhw’n bodoli — ond i gydnabod effaith ffiniau, arnyn “nhw” ac arnom “ni”. Mae ffin yn ein diffinio ni, yn rho inni le, a gofal, a hunaniaeth. Ond mae ffin hefyd, wastad, yn drothwy i gymydog, thros ffin y mae caru.
Hyd yn oed yn y nefodd, mae’r “ni” a’r “nhw” yna’n dal i fodoli — a’r cyd-berthynu dros ffin ein bod ni sy’n bwysig. Yn wahanol i athrawiaethau eraill, nid nirfana ydi nefoedd i ni — os mai nirfana ydi rhyw fath o ollyngdod o’n hunaniaeth ni ac undod llwyr hefo’r duwdod, rhwy lob sgows o enaidiau anghorfforol yn llesmeirio. Mae nefoedd i ni yn le pan y byddwn ni dal yn “ni” — fe fydda’i i’n “fi,” a chi’n “chi,” a nhw’n “nhw” — fe fyddwn ni, ni a’n huniniaeth ni’n ffin inni, yn dal i fodoli i dragwyddoldeb, ond y berthynas rhyngddom ni a’n gilydd yng nghorff Crist ac yng ngoleuni Duw yn berffaith.
Penllanw paradocsaidd hynny ydi fod pwy ydan ni, a lle ydan ni, a phryd ydan ni yn bwysig i’r Cristion. Mae hunaniaeth a daearyddiaeth a hanes yn bwysig i’r Cristion. Ac, oherwydd hynny, mae inni wastad ein cyffiniau — y bobl o’n cwmpas ni, y greadigaeth o’n cwmpas ni, yr eneidiau a fu o’n blaenau ni ac a ddaw ar ein holau ni — ac mewn perthynas ddwyfol, ddoeth â’r cyffiniau hynny y mae’r Cristion i fyw a bod.
Ennill cadair Eisteddfod Rhydaman ym 1970 wnaeth Tomi Evans, awdur ein hemyn ni — a hynny am y tro cyntaf, ac yntau’r dri-ugain a phump. Mae o’n f’atgoffa i o’n nhaid ar ochr fy nhad — un a fyw fyw bywyd nad oes modd ei fyw bellach, o few milltir sgwâr, mewn perthynas ddofn gydaol-oes â’i gyffiniau.
Fe fu farw lle’i ganed o, yn nhŷ fferm Blaenffynnon ym mhentref Tegryn yn Sir Benfro. Mi oedd yn rhaid i’w nîth o ei yrru fo i’r Steddfod i’w gadeirio, ac yntau methu gweld yr angen am y fath ffys; ““bydde well gyda fi gael y gader ’ma drwy’r post, cofia,” oedd ei eiriau wrth yr Archdderwydd. (Dwn i ddim beth wnaeth o o’r gadar pan welodd o hi — a hithau’n ymdrech i ail-greu gorseddfainc ganoloesol mewn fformeica gwyn a choch a brethyn gwyrdd. Siawns na fu ’mo’i thebyg hi ym Mlaenffynnon.)
Mae ei emyn o’n folawd i waith caib a rhaw, i’r cloddiwr a’r saer, i grefft a chreu, i’r neilltuol a’r penodol a’r lleol. Ond diwedd pob gwaith a phob creu yn ei emyn o ydi cyflwyno’r cyfan i Dduw — y neilltuol a’r penodol a’r lleol yn cael ei wir werth yng nghyffiniau’r duwdod.
Fe ddathlwn ni Ŵyl Eleri heddiw; y trydydd ar ddeg o Fehefin ydi ei diwrnod hi. Wyddom ni fawr ddim amdani — dywed traddodiad wrthym mai hi oedd merch hynaf Brychan Frycheiniog, ac yntau’n sylfeynydd un o dri llwyth saint Cymru. Wyddom ni fawr ddim amdani fel am gymaint o’r seintiau Celtaidd cynnar sydd wedi rhoi eu henwau i lannau a phenterfi yn y cyffiniau hyn. Ond credu wnawn ni mai dyma un ag iddi ei milltir sgwâr a’i hanes a’i chyffiniau — un sydd, yn nheulu’r ffydd, yn ein cyffiniau ninnau. O’i chofio hi, cofio wnanwn ni mai neilltuol a phenodol a lleol ydi bywyd pob Cristion, ond y bo i bob milltir sgwâr ei chyffiniau, a bod pob ffin yn drothwy, a chariad yn gwlwm.