Ledio’r Emyn: “O canwch i’r Arglwydd gân newydd, ei seintiau”
Mae’n hoedfa Gosber yn cynnwys rhyw lun ar bregeth fer, sy’n ein harwain at Emyn y Sul. Dyma oedd yr emyn ar Ŵyl Ifan Ganol Haf:
O canwch i’r Arglwydd gân newydd, ei seintiau,
ym mrenin a chreuwr y byd, llawenhewch!
A molwch ei enw â dawnsio a chanu,
â thympan a thelyn addolwch, mwynhewch!
Oherwydd mae Duw wrth ei fodd gyda’i bobl,
mae’n rhoi gwaredigaeth i’r eiddil a’r gwan.
O canwch i’r Arglwydd gân newydd, ei seintiau,
yn nhyrfa’r ffyddloniaid yn llawen rhowch gân.O canwch i’r Arglwydd gân newydd, ei seintiau,
O bydded i holl blant ein Duw lawenhau
a dathlu gogoniant ein Duw mewn gorfoledd
a chanu yn llawen fin nos ar eu gwlâu.
 mawl yn eu genau, a chleddyf daufiniog
fe rwymwyd y gelyn mewn cadwynau cry’.
O canwch i’r Arglwydd gân newydd, ei seintiau,
ef yw ein gogoniant: O molwch Dduw fry!Geiriau
Salm 149
Addasiad mydryddol
Cass Meurig
Tôn “Llwyn Onn”
Alaw Gymreig
Mae’r pedwerydd ar hugain o fis Mehefin, yng nghalendr yr Eglwys, yn Ŵyl Ifan Ganol Haf; ac er mwyn cael ei dathlu hi ynghyd, da ni’n rogio rhyw chydig a’i dwyn hi mlaen i’r Sul i’w dathlu heno.
Mi oedd Gŵyl Ifan Ganol Haf yn un o brif gerrig milltir yr hen flwyddyn amaethyddol, Gristnogol, werinol. Hefo’r Dolig ddiwedd mis Rhagfyr, Gŵyl Fair (y Cyfarchiad) ddiwedd mis Mawrth, a Gŵyl Fihangel (a’r holl angylion) ddwedd mis Medi, fe oedd Gŵyl Ifan yn un o bedwarawd o wyliau oedd yn rhannu’r flwyddyn yn chwarteri. Ac fel hefo’r Dolig yng nghanol gaeaf, ac felly’n nodi’r dyddiau byrraf cyn i’r nosweithiau ddechrau hirhau (gan wneud y Dolig yn ddathliad o obaith y goleuni yng nghanol y twyllwch duaf), mi oedd Gŵyl Ifan Ganol Haf yn ddathliad o’r dyddiau ar eu hiraf, y nosweithiau golau, yr hwyl cyn i’r machlud ddod yn gynt.
Ifan, wrth gwrs, fan hyn yn enw gweirnol ar Sant Ioan Fedyddiwr, rhagflaenydd a chefnder Iesu Grist — a’r ŵyl yn ffurfiol yn ddathliad o’i enedigaeth, a ddigwyddodd yn draddodiadol, feiblaidd chwe mis cyn geni Iesu. Ioan — nid y Meseia, nid Elias, nid y Proffwyd, ond yr un sy’n unioni’r ffordd, yr un “wedi ei anfon o’i flaen ef,” cyfaill i’r priodfab. A’r un, o fod wedi paratoi’r ffordd, a fydd wedyn yn lleihau wrth i Iesu gynyddu — yn union fel y bydd y dydd yn lleihau wedi ei ŵyl o, fel y bydd o’n hirhau ym mhen chwe mis ar ddathlu dyfodiad Iesu.
Mi oedd Gŵyl Ifan Ganol Haf yn ddydd o ddathlu, o hwyl, ledled gorllewin Ewrop yn y Canol Oesoedd. Yng nghanol ffrwythlondeb a thywydd ffafriol yr haf, yr hau wedi digwydd, gwaith called y medi eto’i ddod, dyma gyfle i gynnull, i ddathlu, i deithio, i ddod ynghyd. Dyma pryd y cynhaliwyd ffeiriau amaethyddol, pryd y perfformiwyd pasiantau, pryd y bu twmpath dawns o amgylch bedwen Ifan a’r goelcerth, pryd y byddai moes a defod wedi eu llacio rhyw ’chydig, petha’n llai parchus, yn fwy o hwyl. “Un nos o dinsel, un nos o jas” — chwedl Idris Davies.
Fe fu i’r Diwygiad Protestanaidd a’r symuniad i drefoli leihau dathliadau Gŵyl Ifan yng Ngogledd Orllewin Ewrop yn y cyfnod modern; ond fe oedd ei hoel o dal i’w gweld yn Esgobaeth Bangor yng nghanol y ddeunawfed ganrif. I rai o offeiriad efengylaidd yr esgobaeth bryd hynny, wedi eu hybrydoli gan egni’r diwygiad efengylaidd ehangach ym Mhrydain, olion ofergoeliaeth Gatholig oedd dathliadau o’r fath, yn ogystal a bod yn wahoddiad i anfoesoldeb, i feddwi ac i ddawnsio, yn hytrach na gwrando ar bregethau a dysgu yn yr ysgolion pwyfol newydd yr oedden nhw’n brysur eu sefydlu. I’r offeiriad hyn, y pennaf yn eu plith, Thomas Ellis o Gaergybi, pethau peryg oedd dyddiau gwyl, dawnsio gwerin a’r delyn deires, a rhywbeth i’w groesawu oedd llai o hwyl a hamddena’n dyddiau ni.
Awdur ein hemyn ni heno ydi’r gantores a’r cerddor o Lanelwy, Cass Meurig. Ar ôl deg ar hugain o oedfaon namyn un yn llawn o emynau gan gan ddynion meirw, dyma i ni heno gael mwynhau emyn gan ddynes (fyw!). Fersiwn mydryddol o Salm orfoleddus 149 ydi emyn Cass, ac, fel petai hi am gael gwared yn llwyr ar gysgod Thomas Ellis, mae hi wedi gosod y geiriau i’r alaw werin, “Llwyn Onn”.
Mae hi’n bwysig bod yn barchus weithiau; mae Cristnogaeth yn beth difrifol; fe rodiwn ni oll yng nglyn cysgod angau; mae bywyd yn aml yn ddwys. O fe aiff pethau o le os anghofiwn ni mai llawenydd ydi moliant, mai daioni a thrugaredd sy’n ein canlyn ni, mai gofoledd sydd yng nghalon y duwdod. Meddai prif ddiwinydd yr Eglwys Fore, Awstin o Hipo:
Parti tragwyddol sydd ar aelwyd ein Duw. Ac nid rhywbeth diflanedig, dros dro yw achos y dathlu; mae llu’r nef yn cadw dydd gŵyl dragwyddol, oherwydd nid yw llawenydd cyson presenoldeb Duw fyth yn lleihau.
Ac nid sôn am y nefoedd — am rywbeth a fydd — y mae o’n y fan yna — sylwch y ferf; rwan mae’r parti. Sôn mae o am Dduw, a’n bywyd ni ynddo. Yng ngeiriau Cass, “Cylfwynwch i’r Arglwydd gân newydd, ei seintiau, a chanu yn llawen fin nos ar eich gwlâu.”