Ledio’r Emyn: “Newyddion brâf a ddaeth i’n bro”
Mae’n hoedfa Gosber yn cynnwys rhyw lun ar bregeth fer, sy’n ein harwain at Emyn y Sul. Dyma oedd yr emyn ar Drydydd Sul y Pasg:
Newyddion brâf a ddaeth i’n bro,
hwy haeddent gael eu dwyn ar go’,
mae’r Iesu wedi cario’r dydd,
caiff carcharorion fynd yn rhydd.Mae Iesu Grist o’n hochor ni,
fe gollodd ef ei waed yn lli;
trwy rinwedd hwn fe’n dwg yn iach
i’r ochor draw ‘mhen gronyn bach.Pan syrthia’r sêr fel ffigys îr,
pan ferwa’r môr, pan losga’r tir,
doed fel y dêl, tryw fydd o hyd,
a’m cyfaill gorau yn y byd.Angylion â’ch telynau dewch,
eich peraidd dannau uchaf trewch,
â holl drigolion nef a llawr
i seinio mawl ein Brenin mawr.Geiriau
John Dafydd (1727–1783)
Tôn “Duke Street”
John Warrington Hatton (1710–1793)
“Newyddion brâf a ddaeth i’n bro”
Sut mae bod yn Gorff Crist? Dyna i chi gwestiwn canolog Tymor y Pasg. Nid dilyn Crist ydi’n galwad ni bellach, nid ymdebygu ato fo hyd yn oed, ond rhannu yn ei dduwdod o, bod yn rhan o’i Gorff atgyfodedig o. Mae Corff Crist yn atgyfodedig yn ein cyrff, ein heneidiau, ein bywydau ninnau wedi eu byw yng ngoleuni ei atgyfodiad o.
A dyma ni’n parhau i ddarllen o Lyfr yr Actau — y canllaw hwnnw sy’n rhoi cipolwg inni o’r Apostolion a’u dilwynwyr nhw, y Cristnogion cyntaf, yn ceisio bod yn Gorff Crist — yn tyfu’r cyhyrau, yn gweu’r gewynnau, yn prifio’r nerfau fydd yn galluog iddyn nhw fel cymuned fod yn Gorff Crist yn y byd.
Wythnos diwethaf, fe gasom ni ddelwedd drwaiadol honno o’r gymuned gynnar yng Nghaersalem yn rhannu eu heiddo a’u meddiannau — yn eu cyflwyno nhw wrth draed yr Apostolion. Dod yn Gorff Crist, felly, wrth roi o’n hunain, wrth ddad-lwytho yn hytrach nac wrth feddiannu, wrth fyw ar y cyd.
Heno, fe ydym ni’n dilyn yr Apostolion i byrth y Deml. Yno, mae’r dyn cloff yn cael ei iacháu, ac yna, wrth y dorf syfrdan, mae Pedr yn pregethu. Ac mae dull ei bregeth o’n bwysig inni — dyma fo’n sefyll, yng nghanolbwynt crefyddol y genedl, ar ôl wythnos ysgytwol i Iddewon y ddinas; a dyma fo’n defnyddio’r deunudd hwnnw i gyd fel cynhwysion ei bregeth. Nid datganiadau mae o’n eu hadrodd, ond stori. Wrth egluro Crist i’w gynulledifa, mae o’n gweu hanes y bobl, profiad y genedl, a datguddiad Duw hefo’i gilydd — mae o’n dweud stori sy’n plethu’r lleol a’r tragwyddol — ac mae o’n dweud ei stori felly er mwyn i’r newydd da wneud sens fan hyn, ar lawr gwlad — er mwyn i’r newydd da gyffwrdd y deall a’r côf, y bywyd bob dydd a’r dyheadau dyfnion — mae o’n dweud stori sy’n plethu’r lleol a’r tragwyddol er mwyn i’r newydd da fod yn fodd i gynnull a gweu y gwrandawyr hefo’i gilydd — er mwyn i’r newydd da alw a chadw’r Corff ynghyd.
Sut mae bod yn Gorff Crist? Drwy ddweud stori — drwy glywed y stori — drwy belthu’r stori i mewn i’n bywydau ni.
Un o bentref Cynwyl Gaeo yn Sir Gaerfyrddin oedd awdur geiriau’n hemyn ni, John Dafydd — un o gyfoedion Howell Harris a Williams Pantycelyn, ac yn a daniwyd gan yr un egni Methodistaidd a nhw, ond un a arhosodd bennaf yn ei filltir sgwâr ei hun. Crudd oedd o yn ôl ei waith, ond ei alwedigaeth o oedd dweud y stori mewn emynau — ac, fel Harris, Pantycelyn a’i brodyr Wesley, ei ddawn o oedd dweud y stori mewn iaith bob dydd, mewn delweddau gwerinol — er mwyn i’r newydd da alw a chadw’r Corff ynghyd.
Dyma’r ail bennill:
Mae Iesu Grist o’n hochor ni,
fe gollodd ef ei waed yn lli;
trwy rinwedd hwn fe’n dwg yn iach
i’r ochor draw ’mhen gronyn bach.
Fel Pedr yng nghynteddoedd y Deml, dyna i chi John Dafydd yn y seiat yng Nghynwyl Gaeo, yn dweud ei stori er mwyn i’r newydd da wneud sens fan hyn, ar lawr gwlad.
Sut mae bod yn Gorff Crist? Drwy ddweud stori — drwy glywed y newydd da — drwy belthu’r newyddion brâf i mewn i’n bywydau ni.