Ledio’r Emyn: “Nesawn, nesawn mewn myfyrdodau pur at fwrdd ein Harglwydd”

Siôn B. E. Rhys Evans
4 min readJun 6, 2021

--

Mae’n hoedfa Gosber yn cynnwys rhyw lun ar bregeth fer, sy’n ein harwain at Emyn y Sul. Dyma oedd yr emyn ar Ddifiau’r Drindod:

Nesawn, nesawn mewn myfyrdodau pur
at fwrdd ein Harglwydd i gydgofio’i gur;
a rhoed y Brenin mawr ar hyn o bryd
ei ŵyneb hoff tra byddom yma ’nghyd.

O am gael ffydd i gydfwynhau y wledd;
’does un o’i bath i’w chael tu yma i’r bedd;
y cariad mawr a unodd Dduw a dyn
sydd yma nawr yn gwneud y saint yn un.

Diolch a wnawn am yr arwyddion hyn
i droi ein meddwl at yr Iesu gwyn;
coffawn yr aberth mawr a wnaeth efe,
coffawn y gwaed dywalltwyd yn ein lle.

O nerth i nerth yr awn mewn newydd hwyl
nes dod ynghyd at fwrdd y nefol ŵyl;
O ddedwydd saint, ymlonnwch yn gytûn:
os da yw hyn, beth fydd y nef ei hun?

Geiriau
Emrys (William Ambrose, 1813–73)
Tôn “Woodlands”
Walter Greatorex (1877–1949)

Prif ddyletswydd y beirdd yng Nghymru’r Oesoedd Canol oedd cadw a diolgelu Tri Chof Ynys Prydain. Yn llysoedd y Tywysogion ac yn neuaddau’r Uchelwyr, nid barddoni er lles barddoni, neu hyd yn oed er mwyn canu mawl i’w noddwyr, oedd swyddogaeth y beirdd yng nghyflogaeth yr arglwyddi. Fe oedden nhw’n rhyw fath o archifdy byw. Y cof cyntaf i’w gadw a’i ddiogelu oedd hanes Ynys Prydain — y straeon a’r chwedlau am y dyddiau cynharaf, am y rhagluniaethau a’r lledrith, y brwydrau a’r arwyr, y buddugoliaethau a’r brad. Yr ail gof oedd yr iaith — ei lliw a’i diarhaebion a’i golud. Y trydydd cof oedd achau’r tywysogion — eu llinach a’u braint a’u tiriogaethau. A thrwy gadw a diogelu hyn i gyd o fewn y traddodiad barddol, mae swyddogaeth beirdd y tywysogion a’r uchelwyr yn wers inni am gof cenedl, am unrhyw gofio — nid rhywbeth sych, deallusol, technegol ynghylch y gorffennol ydi cofio, ond rhywbeth byw, gweithredol, creadigol sy’n creu a chynnal a chyfeirio’r presennol a’r dyfodol.

Bardd oedd awdur ein hemyn ni heno, William Ambrose, neu Emrys. Fe’i aned o, yn rhyfedd ddigon, yn y Penrhyn Arms — gwesty ar y ffordd allan o Fangor, lle mae Beach Road yn cwrdd a phen pella’r Stryd Fawr; gwesty, saith deg mlynedd wedi geni Emrys, â gafodd ei ddefnyddio fel cartref cyntaf Coleg Prifysgol Gogledd Cymru am chwarter canrif cyn adeiladu’r coleg ar y bryn. Dim ond colofnfeydd cyntedd y Penrhyn Arms sydd na ar ôl heddiw.

Mi oedd Emrys hefyd yn weinidog hefo’r Annibynwyr, gan dreulio’r rhan fwyaf o’i weinidogaeth ym Mhorthmadog. Yn farddonol, yn ogystal ag yn grefyddol, fe fu o’n ymryson am flynyddoedd â Nicander (Morris Williams) — y bardd a’r offieiriad Anglicanaidd o Ynys Môn. Doedd gogledd-orllewin Cymru ddim cweit yn ddigon mawr i’r ddau ohonyn nhw, ac fe fu na glamp o ffrae yn Eisteddfod Genedlaethol Aberffraw yn 1849 am ba un oedd yn haeddu’r gadair, hefo’r beirniaid ac eraill yn dadlau yn y wasg am fisoedd wedi cadaeirio Nicander mai Emrys oedd yn ei haeddu hi. Fel rhyw fath o gymod, fe ganwn ni emyn gan Nicander ar ddiwedd yr oedfa heno.

Ym mlwyddyn yr Eglwys, mae’r dydd Iau ar ôl Sul y Drindod yn ddydd o ddiolchgarwch am y Cymun Bendigaid, Corpus Christi yn Lladin. Er y cedwir dydd Iau Cablyd fel dathliad o sefydlu’r Cymun Bendigaid, mae’r Wythnos Fawr yn brysur, a thymor y Pasg ac Wythnos y Sulgwyn yn llawn o’u dathliadau eu hunain — felly dyma gadw’r dydd Iau rhydd cyntaf, fel petai, ar ôl dydd Iau Cablyd, y dydd Iau wedi Sul y Drindod, yn ŵyl diolchgarwch am y Cymun. Difiau’r Drindod oedd yr enw traddodiadol am y dathliad dydd Iau hwnnw — a’n dathliad ni heno, o’i gadw ar y dydd Sul.

Cofio ydi Cymun — “gwnewch hyn er cof amdanaf,” meddai Iesu. Ond nid cofio cul — ond cofio fel y beirdd — cofio ar y cyd, cofio yn y cnawd, sy’n creu cymdeithas, yn creu cymundeb, rhwng y rhai sy’n cofio, a rhwng dyn a Duw. Ac nid cofio’r Swper Olaf yn unig; ond cofio’n Hachubiaeth ni yn ei chyfanrwydd. Cofio sy’n ein dwyn ni’n nôl, nid i’r oruwchystafell, ond i Eden, lle mae’n cymuno ni hefo Duw yn rhwydd ac yn rhydd; a chofio sy’n ein dwyn ni mlaen i’w wledd a fydd.

A ninnau, wrth gwrs, nid yn feirdd, petai, ond yn dywysogion; oherwydd wrth gofio hanes ac iaith ac achau’r ffydd, yr hyn a gofia’r Cristion ydi gwir hanes ac iaith ac achau ei henaid hithau — cofio wnawn ni wrth gofio am Eden a’r oruwchystafell y stori honno y mae’n presennol a’n dyfodol ni, bob un ohonom ni, yn benodau newydd ohoni. Fe ga’i faddeuant Emrys am gloi hefo geiriau Nicander:

Gad, O gad im, dirion Arglwydd,
fyw a marw yn dy hedd;
bydd di oll yn oll i’m henaid
yma a thu draw i’r bedd.

--

--

Siôn B. E. Rhys Evans
Siôn B. E. Rhys Evans

Written by Siôn B. E. Rhys Evans

Priest, Diocesan Secretary | Offeiriad, Ysgrifennydd Esgobaethol | Duc in altum

No responses yet