Ledio’r Emyn: “Mawr oedd Crist yn nhragwyddoldeb”

Siôn B. E. Rhys Evans
4 min readFeb 13, 2021

--

Mae’n hoedfa Gosber yn cynnwys rhyw lun ar bregeth fer, sy’n ein harwain at Emyn y Sul. Dyma oedd emyn ar Sul Secsagesima:

Mawr oedd Crist yn nhragwyddoldeb,
mawr yn gwisgo natur dyn,
mawr yn marw ar Galfaria
mawr yn maeddu angau’i hun;
hynod fawr yw yn awr,
Brenin nef a daear lawr.

Mawr oedd Iesu yn yr arfaeth,
mawr yn y cyfamod hedd,
mawr ym Methlem a Chalfaria,
mawr yn dod i’r lan o’r bedd;
mawr iawn fydd ef ryw ddydd
pan ddatguddir pethau cudd.

Mawr yw Iesu yn ei Berson,
mawr fel Duw, a mawr fel dyn,
mawr ei degwch a’i hawddgarwch,
gwyn a gwridog, teg ei lun;
mawr yw ef yn y nef
ar ei orsedd gadarn, gref.

Geiriau (1 a 3)
Titus Lewis (1773–1811)
Geiriau (2)
Anadnabyddus
Tôn “Bryn Myrddin”
J. Morgan Nicholas (1895–1963)

“Gad i mi fynd yno, meddai.”

Dyna eiriau Crist ar ddiwedd cerdd R. S. Thomas yng nghyfieithiad Siôn Aled [gweler isod]. Crist a’i Dad yn edrych yn hedd yr uchelfannau ar lanast a thrallod ein byd, ar ein hangen ni a’n pechod ni a’n breichiau brau, gwag ni. “Gwyliai’r mab / Y dyrfa. Gad i mi fynd yno, meddai.”

Dyma ni mewn rhyw ddau ddydd Sul gwyrdd, rhwng diwedd Tymor yr Ystwyll mewn gwyn a dechrau’r Grawys mewn piws. Ymhen pythefnos, fe fydd Crist wedi troi ei gefn ar Alileia ei blentyndod, ac wedi dechrau’i daith i Jerwsalem. “Gad i mi fynd yno, meddai.”

Gofyn y Grawys ydi inni gyd-deithio hefo fo’r bererindod honno. Ac felly dyma inni bythefnos i bacio ar gyfer y daith, fel petai, i baratoi; yn annad na dim, i wneud yn siwr ein bod ni’n adnoabod yr un y byddwn ni’n ei ddilyn ar y ffordd.

Dwi’n meddwl mod i am feio Beibl y Plant Mewn Lliw am roi immi ddarlun mor glir o Iesu Grist — dyn gwyn, gwallt melyn, gwn wen hir, a rhyw sash las. A mae hi di cymryd blynyddoedd i mi ddeall bod na gymaint mwy i bethau. Mi oedd y Gair a wnaed yn Gnawd yn Iesu yno, yn y dechreuad gyda Duw. Yn ei hanfod o y mae’r Doethineb y clywsom ni amdani heno — “Ganwyd fi cyn bod dyfnderau, cyn bod ffynhonnau yn llawn dŵr.” Yng ngeiriau Pedr Fardd, “trysorwyd gras, ryw annherfynol stôr, / yn Iesu Grist cyn rhoddi deddf i’r môr.” “Gwyliai’r mab / Y dyrfa. Gad i mi fynd yno, meddai.” Dyma’r un y byddwn ni’n ei ddilyn ar y ffordd.

Fe ysgrifennodd Titus Lewis, y gweinidog a’r geiriaduwr o Sir Benfro, eiriau ei glamp o emyn o, “Mawr oedd Crist yn nhragwyddoldeb,” ar droad y ddeunawfed ganrif.

Fe’u canwyd hi i donau eraill am ganrif a hanner, tan ddiwedd y Ail Ryfel Byd. Ym 1945 y’i chanwyd hi gyntaf i “Bryn Myrddin”, tôn newydd Morgan Nicholas, y cerddor o Bort Talbot. Chwedl Morgan Nicholas o oedd mai’i dad o berswadiodd o i’w chyfansoddi hi. Mi oedd angen tôn newydd i eiriau Titus Lewis, meddai’r tad, oedd yn rhoi’r pwyslais ar y “mawr” — “mawr oedd Crist yn nhragwyddoldeb,” “mawr oedd Iesu yn yr arfaeth,” “mawr yw Iesu yn ei Berson, / mawr fel Duw, a mawr fel dyn.”

Dwn i ddim be oedd ar feddwl tad Morgan Nicholas pan ofynodd o i’w fab gyfansoddi tôn oedd yn pwysleisio pa mor fawr oedd Crist “ar ei orsedd gadarn, gref.” Ond fe gawn ni fwrw amcan, dwi’n meddwl, y byddai cenhedlaeth oedd wedi byw trwy ddau Ryfel Byd, a’r un diwethaf ma ar stepen drws Port Talbot yn dân o’r awyr — fe gawn ni fwrw amcan y byddai cenhedlaeth o’r fath am gredu, am wybod, am ganu bod na fawredd y tu hwnt i drallod y byd yma.

Un mor fawr nes y gwêl o’r cyfan, y bomiau, y fiwrs, y galon, a “gad i mi fynd yno, meddai.”

Cyrchfan
R. S. Thomas
Cyfieithiad
Siôn Aled

Daliai Duw yn ei law
Belen fach. Edrych, meddai.
Edrychodd y mab. Ymhell bell,
Megis drwy ddŵr, gwelodd
Dir crin ffyrnig
Ei liw. Llosgai’r goleuni
Yno; taenai adeiladau cramennog
Eu cysgodion: a deffrodd
O’i chwsg cylchog
Sarff lachar, afon, yn loyw
O lysnafedd.
Ar gopa moel
Safai un goeden foel
Yn felan ar yr wybren. A phobl lawer
Yn estyn breichiau brau
Tuag ati, fel pe’n disgwyl
I ryw Ebrill dihangol
Ddychwelyd i’w changhennau
Cytgroes. Gwyliai’r mab
Y dyrfa. Gad i mi fynd yno, meddai.

--

--

Siôn B. E. Rhys Evans
Siôn B. E. Rhys Evans

Written by Siôn B. E. Rhys Evans

Priest, Diocesan Secretary | Offeiriad, Ysgrifennydd Esgobaethol | Duc in altum

No responses yet