Ledio’r Emyn: “I Galfaria trof fy ŵyneb”
Mae’n hoedfa Gosber yn cynnwys rhyw lun ar bregeth fer, sy’n ein harwain at Emyn y Sul. Dyma oedd yr emyn ar Sul y Blodau:
I Galfaria trof fy ŵyneb,
ar Galfaria gwyn fy myd:
y mae gras ac anfarwoldeb
yn diferu drosto i gyd;
pen Calfaria,
yno, f’enaid, gwna dy nyth.Yno clywaf gyda’r awel
salmau’r nef yn dod i lawr
ddysgwyd wrth afonydd Babel
gynt yng ngwlad y cystudd mawr:
pen Calfaria
gydia’r ddaear wrth y nef.Dringo’r mynydd ar fy ngliniau
geisiaf, heb ddiffygio byth;
tremiaf drwy gawodydd dagrau
ar y groes yn union syth:
pen Calfaria
dry fy nagrau’n ffrwd o hedd.Geiriau
Dyfed (Evan Rees, 1850–1923)
Tôn “Price”
Daniel Protheroe (1866–1934)
Wedi Pedwerydd Sul y Grawys, Sul y Meibion (pan y byddai’r gweision fferm yn cael dwyn cacen adref i’w mamau, rhyw fath o hoe bach ganol y Grawys), daw Pumed Sul y Grawys, Sul y Gwrychon (Sul y lobgsows o bys a ffa sych, mewn llefrith a seidr, rhyw fath o benllanw ymprydio’r tymor). Ac wedi Sul y Gwrychon, fe ddaw Chweched Sul y Grawys, Sul y Blodau.
Dyma’r Sul pan, yn draddodiadol, y byddai teuluoedd ym ymweld â mynwentydd i drîn a gwyngalchu beddau, a’u haddurno â gwyrddni a blodau. Dyma ichi gerdyn post anfonwyd o fedd wedi ei addurno yng Nghaerdydd ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, yn boddi mewn blodau a chofio.
Yr hyn sy’n drawiadol am y tri dydd Sul — y Meibion, y Gwrychon a’r Blodau — ydi pa mor gymdeithasol a chymunedol ydi’r dathlu a’r coffâd. Dyma ichi aelwyd yn cyd-fwyta, a theulu cynnull ar lan y bedd, a stribed o fechgyn y dychwelyd adref — a’r dydd Sul Cristnogol yn fyw o’i weu i mewn i batrwm a bywyd y gymdeithas a’r gymuned.
Mi oedd Henri de Lubac yn un o brif diwinyddion yr ugeinfed ganrif. Ac wrth graidd yr hyn a wnaeth o i ddiwygio Catholigiaeth yng nghanol y ganrif honno oedd pregethu yn erbyn Cristnogaeth sy’n rhy unigol, sy’n canolbwyntio’n ormodol ar bechod yr unigolyn neu ar iachawdwriaeth yr unigolyn. Yng ngolwg de Lubac, pobl Dduw — fel cyfanrwydd — sy’n bechadurus a phobl Dduw — y gradigaeth gyfan — sy’n cael eu hachub yng Nghrist. Dyma fo yn ei iaith ddiwinyddol ei hun:
Yn union fel y bu i’r Iddewon ymddiried cyhyd nid mewn dedwyddwch unigol y tu hwnt i’r bedd ond yn eu tynged gyffredin fel cenedl ac yng ngogoniant eu Caersalem ddaearol, felly hefyd y Cristion, a ddylai gyfeirio ei obeithion i gyd at ddyfodiad y Deyrnas a gogoniant un Caersalem; ac fel na roddodd Duw Israel ei sêl bendith i unrhyw unigolyn fel y cyfryw, ond hytrach fel rhan o’i gyfamod â phobl Israel, felly mae’r Cristion yn cael ei fabwysiadu’n gymesur a’i aelodaeth o’r strwythur cymdeithasol hwnnw a gaiff fywyd drwy Ysbryd Crist.
Gyda’n gilydd, nid fel unigolion, y mae troi at Galfaria yn ôl de Lubac.
Ym 1893, fe gynhaliwyd Ffair Fyd Chicago — clamp o ddigwyddiad cenedlaethol yn America i ddathly pedwar-canmlwyddiant mordaith Christopher Columbus (doedd neb wedi dweud wrthyn nhw bryd hynny am Madog a’i dair ar ddeg o longau bach ar fore teg).
Ac fe gynhaliodd y gymuned Gymraeg sylweddol yn America Eisteddfod Chicago i gyd-fynd â’r ffair, gan fewnforio catrawf o Orsedd y Beirdd er mwyn ail-greu’n llwyr y profiad o fod mewn cae yng Ngheredigion.
Tyebed a fu i awdur geiriau’n hemyn ni (Evan Rees, neu Dyfed i roi iddo’i enw barddol) ac i awdur tôn ein hemyn ni (Daniel Protheroe) gwrdd ar faes y Steddfod yn Chicago? Oherwydd fe wyddon ni fod y ddau yno — Protheroe, oedd wedi ymfudo i America wedi magwraeth yn Ystradgynlais, yn arwain côr y Cymmrodorion a sefydlodd o ym Mhennsylvania, a Dyfed yno am iddo gystadlu am y gadair a’i hennill.
Cymharol ifanc oedd y ddau bryd hynny. Yn eu henaint, fe fydden nhw’n ddau o hoelion wyth Methodistiaeth Galfinaidd Gymraeg. Ac mae’r emyn, “I Galfaria trof fy ŵyneb”, a’r dôn, “Price”, yn rhoi inni enghraifft gelfydd tu hwnt gan ddau feistr o sŵn pur y capel — cerddoriaeth leddf, ddiarbed Protheroe, a diwinyddaeth lem Dyfed yn llawn pechod ac achubiaeth yn y gwaed.
Mae Cristnogaeth werinol Gymreig (Cristnogaeth y meibion a’r gwrychon a’r blodau) yn dangos inni’r un peth â dysgeidiaeth de Lubac — ar y cyd mae gweld Duw, law yn llaw mae mynd ar bererindod, hefo’n gilydd y cawn ni’n hachub, bod yn rhan o gorff Crist wedi’n gewynnu i’n gilydd ydi gwir ystyr Cristnogaeth. Ac mae na fflach o hynny yng ngeiriau Dyfed. Tua diwedd yr ail bennill, gan edrych tua’r Groes, fel ddywed: “pen Calfaria, pen Calfaria gydia’r ddaear wrth y nef.” Yr un Groes honno, nid yn aberth drosoch chi neu fi, ond yn fan cyfarfod y greadigaeth gyfan â chariad Duw, a breichiau’r Tad yn cofleidio corff Crist i gyd.