Ledio’r Emyn: “Haleliwia! Haleliwia! Seinier mawl i’r uchel Dduw”
Mae’n hoedfa Gosber yn cynnwys rhyw lun ar bregeth fer, sy’n ein harwain at Emyn y Sul. Dyma oedd emyn ar Sul Cwincwagesima:
Haleliwia! Haleliwia!
Seinier mawl i’r uchel Dduw;
ef yw Brenin y brenhinoedd,
Arglwydd yr arglwyddi yw:
pwysa eangderau’r cread
byth ar ei ewyllys gref;
ein gorffwysfa yw ei gariad:
Haleliwia! Molwn ef.Haleliwia! Haleliwia!
Gwylio mae bob peth a wnaed;
cerdd mewn nerth drwy’r uchelderau
a’r cymylau’n llwch ei draed:
ynddo mae preswylfa’r oesau;
dechrau, diwedd popeth yw;
newydd beunydd yw ei ddoniau:
Haleliwia! Molwn Dduw.Haleliwia! Haleliwia!
Yn ei Fab daeth atom ni;
cyfuwch â’i orseddfainc ddisglair
yw y groes ar Galfarî:
ef yw sicrwydd ei arfaethau,
ef mewn pryd a’u dwg i ben;
tragwyddoldeb sydd yn olau:
Haleliwia byth! Amen.Geiriau
Elfed (Howell Elvet Lewis, 1860–1953)
Tôn “Hyfrydol”
R. H. Pritchard (1811–1887)
Gwaith Howell Elvet Lewis, neu Elfed, ydi geiriau Emyn y Sul heno — un o’r emynau olaf iddo’i hysgrifennu ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.
Fe aned Elfed (yr hynaf o ddeuddeg o blant i was fferm, James Lewis, a’i wraig, Anna) yn eu bwthyn hwy, y Gangell, ddim nepell o Gynwyl Elfed, pentref ar lannau’r Afon Gwili rhwng Caerfyrddin a Chastell Newydd Emlyn.
Ar ôl gyrfa hynod ffrwythlon fel bardd ac emynydd, fel gweinidog hefo’r Annibynwyr, fel un o bregethwr mawr Diwygiad 1904, ac fel dyn cyhoeddus, fe fu farw Elfed yn 1953 yn gyn Archdderwydd, yn gyn Lywydd Cyngor yr Eglwysi Rhyddion, a’r person cyntaf erioed i dderbyn graddau M.A., D.D. ac LL.D. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru.
Yn wir, cymaint oedd ei fri a’i statws o yn y Cymru gyhoeddus, yn wir y Brydain gyhoeddus, nes y’i urddwyd o’n Gyfaill er Anrhydedd (Companion of Honour), gan y Brenin Sior VI, a’i wneud o felly’n aelod o urdd brenhinol wedi ei gyfyngu i drugain a phump o aelodau ar y tro. Fe dderbyniodd o’r anrhydedd hwnnw ym 1948, yr un flwyddyn ag yr anrhydeddwyd yr awdures Vita Sackvillle-West yn yr un modd. Anodd meddwl am fab y Gangell a chariad Virginia Woolf yn cnoi cil hefo’i gilydd dros gino yn Buckingham Palace, ond felly, mae’n debyg, y bu hi.
Dyna i chi fyd sydd wedi mynd. Does na ddim gwas fferm yn byw yn y Gangell bellach; a thra bod Maggie Smith ac Elton John yn Gyfeillion er Anrhydedd heddiw, does na’r un gweinidog anghydffurfiol yn eu plith.
Fe ddaw enw canol ac enw barddol Howell Elvet Lewis o enw’i bentre genedigol, Cynwyl Elfed.
Yn eglwys y plwyf fan honno, Eglwys Cynwyl Sant, mae na ffenestr liw oedd yn ddigon diddorol i’r arlunudd John Piper dynnu llun ohoni pan ar daith drwy Sir Gâr, llun sydd bellach yng nghasgliad y Tate yn Llundain.
Mae’r ffenestr yn bodoli rhwng yr haniaethol a’r naturiolaidd. Ar un olwg, yn eu cylchoedd ynysig, mae clwyfau Crist — y dwylo a’r traed yn dangos ôl yr hoelion, y galon doredig, y goron ddrain. Ar olwg arall, mae Iesu ei hun yno, yn sefyll, yn beindithio, ei ddwylo ar led. Ar un olwg, dyma groeshoeliad, dyma ddioddefaint, dyma fawrolaeth, dyma Grist y Groes ar Galfaria. Ar olwg arall, dyma atgyfodiad, dyma galon goch yn curo, dyma wyrddni y gwanwyn, dyma oleuni’r Pasg.
Nid drwg o beth ydi Iesu Grist cymhleth — dyn a Duw, meidrol ac anfeidrol, yno un pryd mewn hanes a chnawd, ond yno hefyd yn y dechreuad, ac yn dragywydd; yn wahanol inni, ond hefyd yn addweid inni o’r hyn a fyddwn; yn wir, yn ddatguddiad inni o’r hyn yr ydym — y golau sy’n treiddio trwyddo fo yn ein goleuo ninnau, hefyd.
Emyn “Haleliwia” ydi emyn Elfed heno. Dau air Hebraeg ydi “Haleliwia” — “molwch Dduw,” neu’n well, efallai, “broliwch yn Nuw,” “ymhyfrydwch, gorlifwch yn eich mawl ohono.”
Fe aiff yr Haleliwia’n fud yn ystod wythnosau’r Grawys — ganwn ni ddim mohono eto tan Sul y Pasg. Ond heno, er gwaetha popeth, ac oherwydd popeth, fe froliwn ni, yng ngeiriau Elfed, mai “tragwyddoldeb sydd yn olau: Haleliwia byth! Amen.”