Ledio’r Emyn: “Gorfoleddwn heddiw â moliannus lef”

Mae’n hoedfa Gosber yn cynnwys rhyw lun ar bregeth fer, sy’n ein harwain at Emyn y Sul. Dyma oedd yr emyn ar Sul y Pasg:
Gorfoleddwn heddiw
â moliannus lef,
rhown yn ewyllysgar
fawl mewn anthem gref:
testun ein llawenydd,
gwrthrych pur ein cân
tra bo einioes ynom
fyddo’r Iesu glân.Gorfoleddwn heddiw;
Crist yw sail ein cân:
unwn i’w glodfori
bawb yn ddiwahan.Gwnaeth efe ei feddrod
gyda’r anwir rai,
ond fe droes lifeiriant
angau’n fythol drai:
ar y trydydd bore
daeth yn rhydd o’i fedd
ag arwyddion concwest
ar ei ddwyfol wedd.Gorfoleddwn heddiw;
Crist yw sail ein cân:
unwn i’w glodfori
bawb yn ddiwahan.Iesu a gyfodwyd,
rhyfedd wyrth ein Duw,
testun diolch bythol
i holl ddynol-ryw;
diorseddwyd pechod,
cafodd angau glwy’:
byw yw’r neb a gredo
yn yr Iesu mwy.Gorfoleddwn heddiw;
Crist yw sail ein cân:
unwn i’w glodfori
bawb yn ddiwahan.Geiriau
Elwyn P. Howells (1920–1999)
Tôn “Rachie”
Caradog Roberts (1878–1935)
Meddai wrthynt, “Tangnefedd i chwi!” Wedi dweud hyn, dangosodd ei ddwylo a’i ystlys iddynt. Pan welsant ef, llawenychodd y disgyblion.
Dangos inni ni ein hunain a wna Duw yng Nghrist.
Mae na beryg i ni weld ein hunain fel creaduriad mor bechadurus, gymaint fel llwch y llawr, fel mai dim ond gras o bell all ein hachub ni.
Neu mae na beryg i ni weld Duw fel rhywbeth mor bur, wedi’i deyrnasu yng ngwynfyd entrych nef, fel mai rhwybeth brwnt ydi hi iddo fo ymwneud â ni fan hyn.
Ond fel dyn y cerddodd Duw yng Ngalileia, fel dyn y’i croeshoeilwyd o ar Galfaria, ac fel dynoliaeth y cyfododd o ar y Trydydd Dydd. A hynny er mwyn dangos inni ni ein hunain.
Yn y dechreuad, ar doriad dydd yn Eden, meddai Duw, “Gwnawn ddyn ar ein delw, yn ôl ein llun ni.”
Heno, liw nos, yn yr oruwch ystafell ar y trydydd dydd, meddai Duw, “‘Tangnefedd i chwi!’ Wedi dweud hyn, dangosodd ei ddwylo a’i ystlys iddynt. Pan welsant yr Arglwydd, llawenychodd y disgyblion.”
Creodd Duw ni ar ei ddelw a’i lun. Ac yng Nghrist, daw Duw eto i ddangos inni pwy ydym ni ein hunain.
Dyna wyrth yr Atgyfodiad. Duw yng Nghrist yn sefyll gerbron y disgyblion, dim gafael marwolaeth arno fo ond egni bywyd; dim celwydd am be di byw oherwydd marc yr hoelion ar ei ddwylo a’i draed, yr hollt yn ei ystlys; dim euogrwydd na gofid nac ing ond tangnefedd. A’r disgyblion yn llawenhau oherwydd yr hyn welan nhw ydi nhw eu hunain. Dyma nhw bellach — pobl sydd i fyw heb afael mawrolaeth arnyn nhw ond hyder egni bywyd; pobl sydd i fyw heb wadu tristwch a thosturi a phoen ond eu hymgorffori; pobl sydd i fyw ymhell o afael euogrwydd a gofid ac ing, pobl sydd i fyw yng nghynteddoedd tangnefedd. Dyna wyrth yr Atgyfodiad — mae’r disgyblion yn llawenhau oherwydd yr hyn welan nhw yng nghorff Crist, yn y Crist atgyfodedig, ydi nhw eu hunain.
Dangos inni ni ein hunain a wna Duw yng Nghrist. Oblegid ni ydi corff Crist. A lle mae ffydd a gobaith a chariad heddiw, yno hefyd y mae’r Crist atgyfodedig.
Meddai wrthym, “Tangnefedd i chwi!” Wedi dweud hyn, fe ddengys inni ei ddwylo a’i ystlys. A phan welwn ni ein hunain, llawenhawn.
Yn ystod tymor y Pasg, fe ddaw’n darlleniadau ni o Actau’r Apostolion. Mae hi’n draddodiadol darllen yr Actau yn ystod y Pasg. Hanes yr Eglwys Fore gawn ni yno. Hanes, felly, y disgyblion a’r apostolion, yn dod i ddeall gwyrth yr Atgyfodiad — yn dod i weld mai nhw bellach a’u Heglwys ydi corff Crist yn y byd. Proses araf ydi honno. Ond mae’r wawr yn dechrau torri heno, liw nos, yn yr oruwch ystafell ar y trydydd dydd, wrth i’r Crist atgyfodedig ddangos iddyn nhw nhw eu hunain. A phan welwn ef, llawnhawn.
Dwn i ddim os mai un am y merched oedd Caradog Roberts, awdur y dôn “Rachie” a ganwn ni yn y munud. Ond mi oedd y merched yn bendant am Caradog Roberts, ac fe fu na ddwy Rachel yn hawlio mai ar eu hôl nhw yr enwyd y dôn.

Mi oedd Caradog Roberts yn amlwg yn un llawn hoen ac yn athrylithgar. O gefndir cyffredin yn Rhosllannerchrugog, a heb fynediad naturiol i goleg na phrifysgol, fe ffrwydrodd talent cerddorol ohono fo, yn berfformiwr, yn arweinydd ac yn gyfansoddwr. Fo oedd y cyntaf o Ogledd Cymru i dderbyn doethuriaeth mewn cerddoriaeth o Brifysgol Rhydychen, a threuliodd flynyddoedd lawer yma ym Mangor yn gyfarwyddwr cerdd y Brifysgol.
Doedd golygyddion llyfrau emynau ddim yn rhy hoff o’r dôn “Rachie”. Er mai i emyn dirwest y’i chyfansoddwyd hi’n wreiddiol, ac mae na rhywbeth o lawenydd y tŷ tafarn neu’r teras amdani. Megis â chroen ei dannedd yr enillodd ei lle yng nghasgliad y Methodistiad Calfinaidd yn y pedwardegau, a doedd hi ddim cweit yn ddigon parchus i Emynau’r Llan ym 1997.
Ond mae hi’n gymar gret i eiriau gorfoleddus Elwyn Howells. Gwaith caled ydi bod yn gorff Crist, ydi ymgnawdoli’r atgyfodiad, yn bod yn wir ni ein hunain. Ond mae hi’n alwedigaeth lawen hefyd. Fe ddengys inni ei ddwylo a’i ystlys. A phan welwn ni ein hunain, llawenhawn.
“Iesu a gyfodwyd, / rhyfedd wyrth ein Duw… / byw yw’r neb a gredo / yn yr Iesu mwy.”