Ledio’r Emyn: “Goleuni’r byd yw Crist, Tywysog ein hachubiaeth”

Siôn B. E. Rhys Evans
4 min readMar 8, 2021

--

Mae’n hoedfa Gosber yn cynnwys rhyw lun ar bregeth fer, sy’n ein harwain at Emyn y Sul. Dyma oedd yr emyn ar Drydydd Sul y Grawys:

Goleuni’r byd yw Crist,
Tywysog ein hachubiaeth,
y seren fore yw
a gwawr ein gwaredigaeth.
Ein gobaith ydyw ef,
perffeithydd mawr ein ffydd,
diddarfod gariad yw
sy’n troi pob nos yn ddydd.

Ein heddwch ni yw Crist,
fe greodd un ddynoliaeth,
a chwalodd drwy ei gnawd
ganolfur o elyniaeth.
Nawr drwyddo at y Tad
mae ffordd i bawb i ddod;
aelodau teulu Duw
sy’n cyd-ddyrchafu’i glod.

Ein bywyd ni yw Crist,
mae’n Arglwydd ar farwolaeth;
gollynga ni yn rhydd
o rwymau llygredigaeth.
Dyrchafwn enw’r Oen,
rhown iddo newydd gân;
gogoniant fo i’r Tad
a’r Mab a’r Ysbryd Glân.

Geiriau
G. W. Briggs (1875–1959)
Efelychiad
Dyfnallt Morgan (1917–1994)
Tôn “Nun Danket”
Johann Crüger (1598–1662)

Yn yr Eglwys Fore, pan oedd Cristogaeth yn un crefydd ymysg llawer, a phobl yn ei ganfod o, yn hytchrach na chael eu geni i mewn iddo, oedolion gan amlaf oedd yn cael eu bedyddio.

A defod fyddai’n digwydd liw nos oedd bedyddiadau. Mae un o’r disgrifiadau cynharaf a gawn ni o fedydd wedi’r Oes Apostoliadd yn dyddio o’r bedwaredd ganrif, ac yn tarddu o ddinas Milan yng ngogledd yr Eidal. Mae’r lawysgrif yn disgrifio’r fintai fechan o Gristnogion newydd, yn gorymdeithio, yn syth ar ôl eu bedydd, o’r fedyddfa tuag at fwrdd yr allor a’u Cymun cyntaf nhw, gan gario ffaglau ar dân yn eu dwylo — gorymdaith o oleuni, gorymdaith o rai wedi eu goleuo.

Cyfnod o baratoi am fedydd oedd cyfnod y Grawys yn y dyddiau hynny, y bedydd yn digwydd wedi machlud yr haul ar Noswyl y Pasg, yng ngoleuni’r tân newydd, yng ngoleuni’r Atgyfodiad. Ar ddiwedd y Grawys, fe fyddai’r disgyblion bedydd, oedd wedi truelio’r deugain diwrnod yn astudio, yn edifarhau ac yn paratoi yn cael teitl newydd — nid disgyblion, nid catacwmeniaid, bellach, ond, yn y Groeg, photozomenoi, yn llythrennol: y rhai sy’n cael eu goleuo.

Gydol y canrifoedd, mae golau cannwyll — yn llaw y bedyddiedig, ar fwrdd yn allor, yng nghyn er côf neu mewn gweddi — mae golau cannwyll wedi dynodi mai dyma le sanctaidd, mai dyma weithred sanctaidd, mai dyma bresenoldeb Crist — goleuni’r byd — yn ein mysg, waeth ba mor dywyll y nos neu welw’r fflam.

Efelychiad (o eiriau wreiddiol yn offeiriad Anglicanaidd George Wallace Briggs) ydi’n hemyn ni gan y bardd, y beirniad llenyddol, yr heddychwr, a’r cyfieithydd toreithiog, Dyfnallt Morgan.

Dyfnallt Morgan (1917–1994)

Yn enedigol o Benydarren yn Merthyr Tydfil, ar ben gweithfeydd dur a haearn Dowlais, fe fyddai Morgan yn treulio’i wyliau haf pan y blentyn yn bell o swn y gwaith, hefo’i fodryb Miss Evans, a’i chyfaill, Miss Hawes, yn Llanddewi Brefi. Nhw wnaeth yn siwr mai Cymraeg yn hytrach na Saesneg oedd ei iaith lenyddol o — mewn cyfnod pan oedd cyfoedion (R. S. Thomas, Idris Davies ac eraill) yn troi’n feirdd Eingl-Gymreig. Cymraeg astudiodd o yn Aberystwyth, gan rannu tŷ yno hefo Cledwyn Hughes, a chyn ymgartrefu ym Mangor, lle treuliodd rhan helaethaf ei yrfa yn Adran Efrydiau Allanol y Brifysgol. Fo oedd bardd y Goron y Eisteddfod Llangefni 1957.

Mae’r dôn yn hŷn — o’r llyfr emynau, Praxis Pietatis Melica (Arfer Duwioldeb ar Gân), gwaith y cyfansoddwr Lwtheraidd, Johann Crüger, ym 1647. Mae llyfr yn rhyw fath o gefnder Almaenaidd i gasgliad Edmwnd Prys o salmau mydryddol, Salmau Cân, gyhoeddwyd bedair can mlynedd yn union yn ôl, yn 1621. Ffrwyth cyfnod ydyn nhw i’ll dau pan oedd canu cynulleidfaol yn iaith y werin, a chan werin oedd yn dechrau medru darllen, yn dechrau lledaenu, gan gymryd lle salm-donau Gregoraidd, mynachaidd, offeiriadol, Lladin y canol oesoedd. Emyn dôn, felly, o ddyddiau cynharaf canu emynau ar y cyd fel da ni’n ei neud heddiw — neu fel oedden ni’n ei wneud, ac y gwnawn ni eto.

Mae’r dyddiau’n hirhau, y machlud yn hwyrach bellach, y goleuni hefo ni am yn hwy, a tydio’n gwneud gwahaniaeth. Dwi’n fwy ymwybodol nac erioed o’r blaen o’r Grawys hwn fel cynfod o oleuni cynyddol. Dwi ddim yn teimlo rhyw angen mawr am hunanymwadu ac edifrhau y Grawys hwn — mi fu na ddigon o amser am hynny dros y flwyddyn ddiwethaf. Gan obeithio fod y pla ma di troi ar ei sodlau o’r diwedd, dwi’n teimlo’r Grawys hwn fel un o’r photozomenoi yna, ffagl yn fy llaw, yn camu tuag at fwrdd yr allor, lle fydd na gyd-ganu, a golau cannwyll, a Iesu Grist yn ein mysg unwaith eto.

--

--

Siôn B. E. Rhys Evans
Siôn B. E. Rhys Evans

Written by Siôn B. E. Rhys Evans

Priest, Diocesan Secretary | Offeiriad, Ysgrifennydd Esgobaethol | Duc in altum

No responses yet