Ledio’r Emyn: “Gad in ddilyn buchedd newydd”

Siôn B. E. Rhys Evans
4 min readFeb 28, 2021

--

Mae’n hoedfa Gosber yn cynnwys rhyw lun ar bregeth fer, sy’n ein harwain at Emyn y Sul. Dyma oedd emyn ar Ail Sul y Grawys, Noswyl Ddewi:

Gad in ddilyn buchedd newydd:
clyw, O Arglwydd, lef dy blant
a ymrwymodd yn eu bedydd
i gasáu llithiadau chwant;
bywyd newydd, glân diragrith
guddiwyd gyda Christ yn Nuw,
bywyd dyf dan wlith dy fendith -
dyna’r bywyd gad in fyw.

Gad in ddilyn buchedd newydd
yng nghymdeithas Eglwys Grist:
dwyn, dan ganu, feichiau’n gilydd,
calonogi’r teithwyr trist;
byw yng nghwmni seintiau’r oesau,
a’u hanthemau yn ei clyw,
eu gweddïau yn ein genau -
dyna’r bywyd gan in fyw.

Gad in ddilyn buchedd newydd,
gan anghofio’r pethau fu:
adnewyddu’r undeb beunydd
rhyngom, Arglwydd, a thydi;
byw mewn undeb â’th holl deulu,
byw i’th ogoneddu’n Dduw,
byw yn llewyrch dy oleuni -
dyna’r bywyd gad in fyw.

Geiriau
Timothy Rees (1874–1939; Esgob Llandaf, 1931–1939)
Tôn “Sanctus”
Isalaw (John Richards, 1843–1901)

Mi fyddai’n meddwl weithiau os ydi Gosber ormod fatha capel? Fyddai “Seiat”, yn hytrach na “Gosber”, wedi bod yn deitl gwell?

Mae hi’n anorfod bron, ac yn addas mae’n debyg, fod unrhyw addoliad Anglicanaidd yn yr iaith Gymraeg yn manteisio ar, yn ymdrochi yn, etifeddiaeth gapelyddol Cristnogaeth Gymraeg.

Mae hynny fwyaf amlwg yn ein hemynau ni — cerddoriaeth y capel, caniadaeth y cysegr, sy’n darparu’r sgôr ar gyfer addoliad yr eglwys hefyd i raddau healaeth.

Ac felly fe ganwn ni’n hemyn ni yn y munud i’r dôn “Sanctus” — sydd wedi ei phriodi fel arfer hefo’r emyn “Glân geriwbiaid a seraffiaid / fyrdd o gylch yr orsedd fry”: tôn cymanfa ganu capel go iawn. Hogyn lleol, wrth gwrs, oedd ei chyfansoddwr hi — John Richards (Isalaw i roi iddo’i enw barddol), mab i longwr ym Mhorth Penrhyn — a aned, ac a fu fyw bron gydol ei oes, yn y tŷ carreg ar Beach Road yn Hirael. Mae na gofeb iddo heddiw ar y tu allan, a fish and chips ar werth tu mewn.

Mae’r geiriau ganwn ni o waith Timothy Rees — un o sêr yr Eglwys yng Nghymru yn hanner cynta’r ugeinfed ganrif. Yn enedigol i deulu capelyddol o Geredigion, fe ymunodd Rees â Chymuned Fynachaidd Anglicanaidd yr Atgyfodiad yn Mirfield yn Swydd Efrog ym 1906 — ond nid meudwy mohono — fe wnaeth enw iddo’i hun fel pregethwr o bwys, fe ddyfarnwyd iddo fedal yr M.C. ar ôl cyfnod maith fel Caplan ar y ffrynt yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf; ac, yn 1931 (diolch i gefnogaeth ei gyfaill, Charles Green, Esgob Bangor ac Archesgob Cymru ar y pryd) fe’i etholwyd yn Esgob Llandaf.

Cofeb efydd i Timothy Rees ar lawr Capel Fair yng Nghadeirlan Llandaf

Toris rhonc oedd mwyafrif Mainc yr Esgobion yn y 30au — Charles Green yn eu plith — esgobion crand, Seisnig eu naws, a chenhedlaeth oedd wedi brwydro yn erbyn Lloyd George a’r ymdrech i Ddatgysylltu. Roedd Tiomothy Rees yn aelod o genhedlaeth newydd — mae Densil Morgan yn sôn am ei “Gymreictod cyhyrog” (fo newidiodd enw cartref Esgob Llandaf o’r Bishop’s Palace i “Llys Esgob”), am ei angerdd Catholig (fo oedd y mynch cyntaf i’w wneud yn esgob yng Nghymru ers bron i bedair canrif), ond hefyd am ei Sosialaeth Gristnogol o, a’i ymroddiad llwyr o i weinidogaeth ymarferol, iacháol yr Eglwys yng nghymoedd glofaol ei esgobaeth o yn wyneb Dirwasgiad Mawr yn 30au. Gwahoddwyd y di-waith yn finteioedd i de yng ngardd Llys Esgob; anfonwyd rhagor o offeiriaid ifanc i weinidogaethu yn y cymunedau mwyaf anghenus, a defnyddiodd Rees ei lais pregethwr a’i lais barddonol fel emynydd i uno mawl i Grist hefo’r alwad i wneud ei waith yn ein dyddiau ni. Meddai, mewn un pregeth:

Cofiwch fod yr hollalluog Dduw ym ymddiddori cymaint yng ngwaith y Cyngor Sir ag yng ngwaith Cynhadledd yr Esgobaeth, ac yn nhai y tlawd cymaint ag yn eglwysi’r cyfoethog. Mae popeth ond pechod yn sanctaidd.”

Myfi yw bara’r bywyd, meddai Iesu Grist; ac fe wyddai Rees fod ymganowdoliad o’r fath yn golygu Cristnogaeth fudr yn y stryd, yn y pwll glo, yn y banc bwyd, yn ogystal â Christnogaeth urddasol, ogoneddus y gangell.

Er gwaetha’i Gatholigiaeth, mi oedd Rees yn boblogaidd hefo’r Gymru Anghydffurfiol — mi oedd ei bregethu efengylaidd o a’i angerdd amlwg o dros yr anghenus yn ymestyn y tu hwnt i derfynau enwadol.

Ac, yn wir, ym mywyd a gweinidogaeth Timothy Rees mae na gipolwg o Gristnogaeth Gymreig gyflawn — yr emyn a’r dôn hefo’i gilydd, y gair a’r sacrament yn un, y Cymreictod cyhyrog a’r parodrwydd i drochi yn ffrydiau adfywiol yr Eglwys sy’n llifo y tu hwnt i ffiniau traddodiad a chenedl.

Fe fu Rees farw’n gymharol ifanc, ar drothwy’r Ail Ryfel Byd — a gwireddwyd mo’i addewid o o Eglwys Gymreig. Ond, ar drothwy Gŵyl Ddewi eleni, i sŵn y capel, mewn addoliad Anglicanaidd, fe erfyniwn ni, fel y gwnaeth o, am fuchedd newydd, am fywyd cenedlaethol a personol beunyddiol sy’n effro i wir ymgnawdoliad Crist a’i ail-ddyfodiad o’n cwmpas ni: “byw mewn undeb â’th holl deulu, / byw i’th ogoneddu’n Duw, / byw yn llewyrch dy oleuni — dyna’r bywyd gad in fyw.”

--

--

Siôn B. E. Rhys Evans
Siôn B. E. Rhys Evans

Written by Siôn B. E. Rhys Evans

Priest, Diocesan Secretary | Offeiriad, Ysgrifennydd Esgobaethol | Duc in altum

No responses yet