Ledio’r Emyn: “Gad im ddynesu atat, Iesu”

Siôn B. E. Rhys Evans
4 min readJan 2, 2021

--

Mae’n hoedfa Gosber yn cynnwys rhyw lun ar bregeth fer, sy’n ein harwain at Emyn y Sul. Dyma oedd emyn Gŵyl Ioan:

Gad im ddynesu atat, Iesu,
nes atat ti bob dydd, fy Nuw,
gan bwyso arnat byth, fy Iesu,
ar hyd y ffordd mewn ffydd, fy Nuw.

Dy degwch pâr im ddangos, Iesu,
fel heulwen ar y fron, fy Nuw;
fy ngenau gano iti, Iesu,
Fel murmur nentydd llon, fy Nuw.

Fel ffynnon risial gwna fi, Iesu,
â’i tharddiad ynot ti, fy Nuw;
yn unig er dy fwyn, O Iesu,
yn awr defnyddia fi, fy Nuw.

Mewn newyn ac mewn syched, Iesu,
amdanat ’rwyf tra byddaf byw;
am gartef Seion ’rwy’n hiraethu,
i’th foli’n wastad, Grist, Fab Duw.

Geiriau
Ignatius o Grist (Joseph Leycester Lyne; 1837–1908)
Cyfieithiad, wedi’i addasu
Silas M. Harris (fl. 1913–1953)
Tôn “St Clement”
Clement C. Schofield (1839–1904)

Llinell o bennill gyntaf ein hemyn: “Gan bwyso arnat byth, fy Iesu”

Dros y tridiau wedi’r Dolig, mae’r Eglwys, yn ei gwyliau hi, yn treulio amser yng nghwmni cyfeillion Iesu.

Fory, mae hi’n Ŵyl y Diniweidiaid, pan gofiwn ni am y plant bach laddwyd fel rhan o grwsâd Herod i ddinistrio’r hwn am aned yn Frenin yr Iddewon. Eu diniweidrwydd nhw — cyfoedion Crist, cyfeillion yr un bach yn y preseb — ydi diniweidrwydd pob un ac unrhyw un sy’n dioeddef dan ormes y grymus — diniweidrwydd pob un ac unrhyw un a gaiff eu sathru dan greulondebau arweinwyr a gwledydd a’u hunanoldeb a’u balchder.

Ddoe, roedd hi’n Ŵyl y Diffuant — Gŵyl Steffan — y cyntaf o’r merthyron Cristnogol — yr un a wnaeth ddim mwy a dim llai na chyhoeddi’r Efengyl mewn gair a gweithred gwerth ei fywyd. Ei ddiffuantrwydd o — cyfaill y Crist atgyfodedig — ydi’r diffuantrwydd y’n gelwir ninnau iddo: mewn bywyd pob dydd, mewn gair a gweithred, a gyhoeddwn ni’r Efengyl? A wêl ein cyfoedion ni berygl a grym yr Efengyl yn ein bywydau beunyddiol ninnau?

Heddiw mae hi’n Ŵyl y Digymar — Gŵyl Ioan — y digybl y cyfeirir ato yn y Beibl fel “y disgybl yr oedd Iesu’n ei garu.”

Yn ystod y Swper Olaf, fe gawn ni ddisgrifiad ohono’n pwyso’n ôl ar fynwes Iesu yn gofyn iddo, yn llawn pryder, “Pwy yw’r un sy’n mynd i’th fradychu di?”

Ar ben Calfaria, fe gawn ni ddisgrifiad ohono yn sefyll â Mair wrth y Groes, y trallod a’r tywyllwch yn cau o’u cwmpas nhw, a Iesu’n dweud wrth ei fam, “Wraig, dyma dy fab di;” ac yna wrth Ioan “Dyma dy fam di.” “Ac o’r awr honno, cymerodd ef hi i mewn i’w gartref.”

Ar ddydd y Pasg, fe gawn ni ddisgrifiad ohono fo a Pedr yn rhedeg tua’r ardd ar ôl clywed newydd syn Mair Fadlen fod y bedd yn wag. “Yr oedd y ddau’n cydredeg, ond rhedodd y disgybl arall ymlaen yn gynt na Pedr” — ei gariad o’n ei wthio fo mlaen.

Ac wedi’r atgyfodiad, a’r disgyblion yn eu penbleth a’u hannifyrrwch nhw wedi dychwelyd ar eu rhwydi, Ioan ydi’r cyntaf i adnabod y Crist yn sefyll ar lan y môr — yn gweld y fynwes honno y bu o’n ei chofleidio, yn gweld y corff hwnnw fu’n grog uwch ei ben o, yn gweld y cariad hwnnw y rhuthrodd o tuag ato fo. “A dyma Ioan yn dweud wrth Pedr, ‘Yr Arglwydd yw.’”

Llinell o bennill gyntaf ein hemyn: “Gan bwyso arnat byth, fy Iesu”

Mae’r geiriau’r o waith y Tad Joseph Leycester Lyne — neu Ignatius o Grist i roi iddo ei enw mynachaidd, neu Dewi Honddu i roi iddo ei enw barddol. Y cymeriad hynod hwn oedd un o’r mynachod Anglicanaidd cyntaf ym Mhrydain wedi’r Digwygiad Protestainaidd, gan sefyldu mynachdy o fath yng Nghapel-y-Ffin ym Mannau Brycheiniog ym 1869; ac ef hefyd oedd un o hyrwyddwr cynnar hanes yr hen Eglwys Geltaidd, Brydeinig, a fagodd ynddo gariad tuag at Gymru ac a’i dywsodd i’w urddo’n fardd gan David Griffith (yr Archdderwydd Clwydfardd) yn Eisteddfod Genedlaethol Aberhonddu yn 1889.

Mae ei emyn o — wel, nid campwaith llenyddol mohoni — ond fe all rhywun weld hoel dwysedd y bywyd mynachaidd ynddo. Mae ei emyn o yn ddiniwed fel Diniweidiaid Bethlehem; yn ddiffuant fel ffydd Steffan; yn fwy na dim, mae hi’n atseinio angerdd Ioan, y disgybl digymar hwnnw, oedd a’i fryd ar ddim mwy nac aros ym mynwes Iesu, lle y cawn ninnau fod.

“Gad im ddynesu atat, Iesu, / nes atat ti bob dydd, fy Nuw, / gan bwyso arnat byth, fy Iesu, / ar hyd y ffordd mewn ffydd, fy Nuw.”

--

--

Siôn B. E. Rhys Evans
Siôn B. E. Rhys Evans

Written by Siôn B. E. Rhys Evans

Priest, Diocesan Secretary | Offeiriad, Ysgrifennydd Esgobaethol | Duc in altum

No responses yet