Ledio’r Emyn: “Engyl nef o gylch yr orsedd a’th folant di”

Siôn B. E. Rhys Evans
4 min readJun 1, 2021

--

Mae’n hoedfa Gosber yn cynnwys rhyw lun ar bregeth fer, sy’n ein harwain at Emyn y Sul. Dyma oedd yr emyn ar Sul y Drindod:

Engyl nef o gylch yr orsedd
a’th folant di.
Rhônt y parch, y clod a’r mawredd
byth, byth i ti.
T’wysogaethau, awdurdodau,
fil o filoedd, myrdd myrddiynau,
seiniant fawl trwy’r uchelderau
byth, byth i ti.

Sanctaidd gân yr apostolion
sydd glod i ti;
o un genau, ac un galon,
y’th folant di.
Clodus nifer y proffwydi
ac ardderchog lu’r merthyri,
ar delynau gwlad goleuni,
y’th folant di.

Mawl a’th erys di yn Seion
o oes i oes,
yng nghymanfa’r gwaredigion,
o oes i oes:
mawl i ti, y Duw anfeidrol,
Tad a Mab ac Ysbryd nefol,
cyd-sylweddol, cyd-dragwyddol,
nawr a phob oes.

Geiriau
Gwilym Hiraethog (William Rees, 1802–83)
Tôn “Ar Hyd y Nos”
Alaw Gymreig

Y pum synnwyr Cristnogol

Yn ei waith o sy’n dwyn y teitl De Anima, “Am yr Enaid”, mae’r athronydd Groegaidd, Aristotlys, yn son am y synhwyrau — y galluoedd cynhenid hynny sy’n galluogi i rywbeth byw amgyffred yr hyn sy’n digwydd iddi ac o’i chwmpas.

Yn ogystal â’r pum synnwyr allanol, meddai Aristotlys — y gallu i weld, clywed, blasu, arogli a theimlo — mae na hefyd bum synnwyr mewnol — pump modd o feddwl ddaw’n reddfol i’r enaid sy’n ei alluogi i ddadansoddi, dirnad a deall — i “wneud synnwyr” o’r hyn sydd gerbron. (Y pump mae o’n eu hamlinellu ydi synnwyr cyffredin, dychymyg, ffantasi, amcangyfrifo, a chof — pum synnwyr mewnol i’n galluogi ni i wneud synnwyr o’n byd.)

A ninnau’n dechrau ar dymor olaf Gosber, a phum Sul o’n blaenau ni, a phob Sul â’i gymeriad ei hun, dyma feddwl am be fyddai’n bum synnwyr Cristnogol, un i bob Sul o’r tymor hwn — pump modd o feddwl ddylai ddod yn reddfol i’n heneidiau ni fel Cristnogion ar bererindod bywyd wrth geisio dadansoddi, dirnad a deall y berindod honno.

Ar y Suliau nesaf, felly, fe edrychwn ni ar gofio, ar gyffiniau, ar orfoledd, ac ar hiraeth — pedwar o’n pum synnwyr ni a ddeillia o ddathliadau’r Suliau hynny. A heno, ar Sul y Drindod, fe ddechreuwn ni â’n synnwyr cyntaf ni, y synnwyr o “barchedig ofn”.

Parchedig ofn

Cyfieithiad William Morgan o’r Beibl sy’n defnyddio’r ymadrodd, “parchedig ofn”, am y tro cyntaf. Reit ar ddiwedd deuddegfed pennod y llythyr at yr Hebreaid, pan mae’r awdur anhysbys wedi bod yn taeru cymaint ydi mawredd Duw a’r iachawdwriaeth raslon mae o’n ei gynnig i ni, dim ond â pharchedig ofn y gallwn ni, feidrolion, ymateb i’r fath ras, y fath gariad, y fath fawredd.

Nid ofn fel braw, felly, fel am fwgan; ac nid ofn fel gofid, fel am brofedigaeth. Ond ofn fel ebychnod, ofn fel distawrwydd llethol, ofn fel dilyw, ofn fel dweud “’rargian”. Trwy ras, “gwasanaeth[wn] Dduw wrth ei fodd, gyda… pharchedig ofn: Oblegid ein Duw ni sydd dân ysol.”

Parchedig ofn fel ein synnwyr ni ar gyfer Sul y Drindod oherwydd y Duw sydd dân ysol, sydd ras amhrisiadwy, sy’n haeddu parchedig ofn, yw Duw dirgeledd y Drindod.

Mae na berygl o drio gor-egluro Duw’r Drindod — o drio datrys y gras a’r cariad a’r mawredd.

Dwi’n ddiolchgar i Archddiacon Meirionnydd am fy atgoffa i o ddadl y diweddar ddoethur Enid Pierce Roberts, gynt o Brifysgol Bangor a chynulleidfa’r Gadeirlan, bod angen gwell gair na “dirgelwch” yn ein litwrgi Gymraeg ni pan am air sy’n golygu rhywbeth tebyg i “mystery” yn y Saesneg.

“Gadewch inni gyhoeddi dirgelwch y ffydd” medden ni yn ystod y Cymun Bendigaid — ond mae na berygl i ni ddeall “dirgelwch” yn y fan honno fel rhwybeth i’w ddatrys, i’w ddarganfod, i’w ddiwallu. Gwell, efaillai, y gair “dirgeledd” — dirgeleddau’r ffydd yw Cariad y Tri yn Un — mae Duw wastad yn rhy fawr a dwfn, yn rhy gymhleth a’n rhy syml i’w ddatrys, i’w ddarganfod, i’w ddiwallu.

Os am wneud synnwyr o Dduw’r Drindod, yr hyn da ni ei angen yw parchedig ofn.

Gweinidog prysur, toreithiog, pendant a llym, a dreuliodd y rhan fwyaf o’i weinidogaeth yng nghapeli’r Annibynwyr yn Lerpwl, oedd William Rees neu Gwilym Hiraethog.

Mi oedd o’n elyn i sawl datblygiad o fewn Anglicaniaeth a oedd am ddychwelyd lliw a defod a cherddoriaeth i addoliad a litwrgi. Ond nid piwritan mohono yn ei ail alwedigaeth fel bardd, llenor ac emynydd. Mae ei emynau o’n llawn delweddau llachar, dwys o fawredd Duw:

“Dyma gariad fel y moroedd, / Tosturiaethau fel y lli.”

“dyfnach yw na dyfnder daear, / uwch na’r nefoedd fawr i gyd; rhaid yw tewi gyda dwedyd, / ‘Felly carodd Duw y byd.’”

“Gras a chariad megis dilyw / yn ymdywallt yma ‘nghyd, / a chyfiawnder pur a heddwch / yn cusanu euog fyd.”

Mae emynau Gwilym Hiraethog yn emynau’r parchedig ofn.

Ac mae hyd yn oed ei tôn ni , “Ar hyd y nos”, yn atgof o ddirgeledd — o gamu allan nes mlaen heno, i noson glir, goluni’r sêr yn teithio dros fil y canrifoedd i’n llygad ni, y bedysawd ar agor inni, y tywyllwch yn cynnwys dim braw na gofid, ond yn ddyfnder du o ddirgeledd sanctaidd Duw; a ninnau’n sefyll, mor fach dan y lloer, ac eto’n boddi dan y gras — a’n gallu gwneud synnwyr o’r cyfan ’mond â pharchedig ofn.

--

--

Siôn B. E. Rhys Evans
Siôn B. E. Rhys Evans

Written by Siôn B. E. Rhys Evans

Priest, Diocesan Secretary | Offeiriad, Ysgrifennydd Esgobaethol | Duc in altum

No responses yet