Ledio’r Emyn: “Gwirionedd ydyw’r ffordd i’n traed crwydredig ni”
Mae’n hoedfa Gosber yn cynnwys rhyw lun ar bregeth fer, sy’n ein harwain at Emyn y Sul. Dyma oedd emyn Trydydd Sul yr Ystwyll:
Gwirionedd ydyw’r ffordd
i’n traed crwydredig ni;
a’r pur wirionedd perffaith hwn,
fy Iesu, ydwyt ti.Mae’r ffordd, o’i theithio’n iawn,
yn fywyd i bod un;
a thithau, Iesu grasol, byth
yw’r bywyd hwn dy hun.Rho ras i gadw’n traed
ar union lwybrau’r gwir;
a dilyn ôl dy seintiau gwiw,
nes mynd i’r nefol dir.Cawn yno chwyddo’r mawl,
yn llawen gyda’r llu;
i’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân –
Un Duw tragwyddol fry.Geiriau
Nicander (Morris Williams; 1809–1874)
Tôn “Pen-Parc”
John Thomas Rees (1857–1949)
Mae’r ffordd, o’i theithio’n iawn, yn fywyd i bob un.
Morris Williams, neu Nicander i roi iddo’i enw barddol, ydi awdur ein hemyn ni heno. Fo, mae’n debyg, ydi prif emynydd Esgobaeth Bangor yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fe’i magwyd o ym Ben Llyn, mewn teulu capel — yn wir, mi oedd o’n nai i Pedr Fardd, awdur ein hemyn ni’r wythnos diwethaf; ond, fel ambell un arall, fe aeth o i Rydychen yn Bresbyteraidd a dod nôl adre yn Anglican, yn wir, wedi’i ordeinio i’r offeiriadaeth gan Esgob Caer ar y ffordd nôl. Dyma fo, yn nyddiau’i guradaeth ym Mangor, hefo’i wallt o’n edrych fatha’i fod yntau ddeufis i mewn i’r drydedd lockdown.
Fe dreuliodd o’r rhan helaethaf o’i weinidogaeth ym Mhentir a Llanllechid, ac yna yn Nhwrcelyn a Thalybolion ar ogledd Ynys Môn. Fo oedd un o hoelion wyth Mudiad Rhydychen yn Esgobaeth Bangor, yn adfer a harddu eglwysi, ac yn ail-gyflwyno defod a’r synhwyrus yn ôl i’n haddoliad ni. Cyn-Bresbyteriad go iawn.
Mae’r ffordd, o’i theithio’n iawn, yn fywyd i bob un.
Mae hi di cymryd deugain mlynedd i mi sylweddoli pa mor gamarweiniol ydi geiriau agoriadol y Beibl. “Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a’r ddaear” — ond hanner stori ydi hynny. Oblegid nid rhywbeth hanesyddol, nid rhywbeth ddigwyddodd un ennyd ers talwm ydi llawnder creu. Mae Duw yn dal i greu bob munud; mae’r greadigaeth, mae bodolaeth yn ei gyfanrwydd, yn ddibynnol ar greu cyson, di-baid Duw, fel tasa fo dan y cyfan, yn dal yr holl beth fyny. Rhannu yng nghreu cyson, di-baid Duw ydi byw.
Mae hi’n rhy hawdd meddwl am Dduw fel cogydd neu fecanic — wedi coginio ei bryd, neu adeiladu ei beiriant — unwaith, ers talwn — a wedyn dyna ni; neu fel emynydd, awdur y geiriau sydd bellach mewn print. Cymain gwell meddwl am Dduw fel un yn canu emyn. Mae’r greadigaeth yn bod oherwydd creu a chynhaliaeth gyson Duw, yn union fel y para’r emyn cyhyd ag y bydd o’n cael ei ganu. Emyn Duw ydi’r greadigaeth, a ninnau’n bod am fod Duw’n dal i ganu.
Mae’r ffordd, o’i theithio’n iawn, yn fywyd i bob un.
Gweld, canfod, deall y creu cyson hwnnw mae Philip a Nathaniel yn ein darlleniad ni heno. Mae nhw, i’ll dau, yn dod i weld tarddiad yr egni, y bywyd, y bodoli hwnnw yng Nghrist Iesu. A phenllanw’r gweld, y canfod, y deall hwnnw ydi canlyn. “Canlyn fi.” Nid aros yn llonydd, nid edrych nôl, ond canlyn, cerdded yn ôl troed y creu, cyfranogi yng ngrym y greadigaeth newydd.
Mae’r ffordd, o’i theithio’n iawn, yn fywyd i bob un.
A dyna sydd gynhaliaeth i mi ar hyn o bryd. A hithau’n dywyll, yn oer, dan glo ac yn drist, y gamp ydi gwybod fod Duw yn dal ei greu, fod Crist dal yno i’w ganlyn, a bod y bererindod yn dal o’n blaen ni.
Mae’r ffordd, o’i theithio’n iawn, yn fywyd i bob un, a thithau, Iesu grasol, byth yw’r bywyd hwn dy hun.