Ledio’r Emyn: “Daeth ffrydiau melys iawn yn llawn fel lli”
Mae’n hoedfa Gosber yn cynnwys rhyw lun ar bregeth fer, sy’n ein harwain at Emyn y Sul. Dyma oedd emyn Gŵyl Bedydd Crist:
Daeth ffrydiau melys iawn
yn llawn fel lli
o ffrwyth yr arfaeth fawr
yn awr i ni;
hen iachawdwriaeth glir
aeth dros y crindir cras;
bendithion amod hedd:
O ryfedd ras!Cymerodd Iesu pur
ein natur ni,
enillodd ef i’w saint
bob braint a bri;
fe ddaeth o’r nef o’i fodd,
cymerodd agwedd was;
ffrwyth y cyfamod hedd:
O ryfedd ras!Yn rawnwin ar y groes
fe droes y drain,
caed balm o archoll ddofn
y bicell fain:
dechreuwn fawl cyn hir
na flinir ar ei flas
am Iesu’r aberth hedd:
O ryfedd ras!Geiriau
Pedr Fardd (Peter Jones; 1775–1845)
Tôn “Builth”
David Jenkins (1848–1915)
O ddiwedd ail bennill ein hemyn ni: “Ffrwyth y cyfamod hedd: O ryfedd ras!”
Mae hi, wrth gwrs, dal yn Ddolig. Wel, os nad yn Ddolig, yna yn dymor yr Ystwyll, ac mi fydd hi felly tan Ŵyl Fair y Canhwyllau, y byddwn ni’n ei dathlu yma ar Sul olaf mis Ionawr.
Cyfle ydi tymor yr Ystwyll i’r babi dyfu fyny, fel petai. Cyfle i hud a lledrith y preseb fagu traed, a cherdded y strydoedd rhyw chydig, a baeddu’ sgidiau. Cyfle i ni wreiddio’r egni pur a’r bywyd newydd a’r dyfnder bod a ddathlwn ni dros y Dolig ym mhridd ein bywyd beunyddiol ni.
Yn y gerdd a glywsom ni ar ddechrau Gosber heno, mae’r bardd, yr Americanes, Tania Rynuan, yn sgidiau un o’r bugeiliaid fu yn y stabl ar ddydd Dolig. Mae’r geni di gwneud iddo fo feddwl am wyna — am yr wyn bach, yr “harddwch swrth hwnnw” y mae o ’di magu a’i meithrin; ac, fel yn mhrofiad pob ffermwr, mae o’n gofalu am y bywyd bach ma, tra hefyd “yn ceisio peidio caru y fath bethau bychain” am ei fod o’n gwybod y daw y dydd pan yr aiff o’i ffwrdd, i’w “gwerthu a’u gwisgo, / eu gweini, eu hollti ar allor” y Deml. Yn y geni, yn egni pur a’r bywyd newydd a’r dyfnder bod, mae na hefyd y gwybod y bydd na dyfu fyny, ac y bydd na drallod a thosturi a gobaith a chariad ar y daith. Ac yn yr oen yna, mae’r bardd am i ni weld Mab y Dyn, Oen Duw.
Mae u’n o’m hoff luniau i o Iesu a’i fam yr Oriel Genedlaethol yn Llundain. Llun Eidaleg ydi o gan Masaccio, un o arlunwyr cynharaf y Dadeni Dysg yn y bymthegfed ganrif, un o’r cyntaf i geisio peintio Iesu a’i fam nid fel eiconau, fel seintiau, ond fel pobl — pobl o gig a gwaed, pobl ag iddyn nhw egni pur a dyfnder bod, pobl fydd yn adnabod trallod a thosturi a gobaith a chariad ar y daith.
A sbïwch ar Iesu — yn fabi bach tew, go iawn — yn gafael mewn bwnsied o wrawnwin; yn wir, yn stwffio llond llaw i’w geg. Ymdrech i’w ddyneiddio fo, wrth gwrs — ond mae na bwynt diwinyddol arall yma hefyd — y grawnwin yma fydd yn win, a fydd yn waed, wedi dollti dros iachadwriaeth y byd. Yn y plentyn hwn ar lin Mair, mae’r arlunydd am i ni weld Mab y Dyn, Crist y Groes.
Bedydd Crist yn yr Iorddonen ydi dechrau ei weinidogaeth o. Dyma’i weithred gyhoeddus gyntaf o yn Efengyl Marc.
Dyma’r babi di tyfu fyny, dyma hud a lledrith y preseb wedi magu traed, dyma egni pur a dyfnder bod ar fin cario gobaith a chariad ar hyd strydoedd Galileia a Jwdea, i Groes, a bedd gwag, ac thros fôr y canrifoedd, mewn bara a gwin, hyd yn oed i mewn i’n bywydau ninnau heddiw.
Nid ffantasi ydi’r bywyd Cristnogol, neu’r “cyfamod hedd” i ddefyddio’r ymadrodd yn emyn Pedr Fardd.
Mae gras yn beth rhyfedd — yn gyfuniad gonest o hud a lledrith Bethlehem, ac o’r trallod a’r tosturi a’r gobaith a’r cariad sydd eu hangen ar y daith.
Yn gymysg oll i gyd — y grawnwin a’r gwaed a’r gwin; ffrwyth y cyfamod hedd: O ryfedd ras!