Ledio’r Emyn: “Cymer, Arglwydd, f’einioes i”

Siôn B. E. Rhys Evans
5 min readFeb 6, 2021

--

Mae’n hoedfa Gosber yn cynnwys rhyw lun ar bregeth fer, sy’n ein harwain at Emyn y Sul. Dyma oedd emyn ar Ŵyl Fair y Canhwyllau:

Cymer, Arglwydd, f’einioes i
i’w chysegru oll i ti;
cymer fy munudau i fod
fyth yn llifo er dy glod.

Cymer di fy llais yn lân,
am fy Mrenin boed fy nghân;
cymer fy ngwefusau i,
llanw hwynt â’th eiriau di.

Cymer di fy nwylo’n rhodd,
fyth i wneuthur wrth dy fodd;
cymer, Iôr, fy neudroed i,
gwna hwy’n weddaidd erot ti.

Cymer mwy f’ewyllys i,
gwna hi’n un â’r eiddot ti;
cymer iti’r galon hon
yn orseddfainc dan fy mron.

Cymer fy serchiadau, Iôr,
wrth dy draed ’rwy’n bwrw’u stôr;
cymer, Arglwydd, cymer fi,
byth, yn unig, oll i ti.

Geiriau
Frances Ridley Havergal (1836–1879)
Cyfieithiad
John Morris-Jones (1864–1929)
Tôn “Nottingham”
Wenzel Müller (1747–1835)

Cymer, Arglwydd, f’einioes i i’w chysegru oll i ti.

Ar Ŵyl yr Ystwyll, nôl ar ddechrau mis Ionawr, mi ddywedais i mai gŵyl y gweld, y darganfod, y deall ydi’r Ystwyll.

A thros Suliau mis Ionawr, mae’r Efengylau Tymor yr Ystwyll wedi dangos inni bobl yn gweld, yn darganfod, yn deall Iesu Grist — y doethion gweld eu brenin yn y babi dan lewyrch y seren; dyfroedd yr Iorddonen a’r llais o’r nef yn ei gydnabod o’n fab Duw yn ei fedydd; “Tyrd i weld,” meddai Philip wrth Nathanael, gan roi hwyth iddo fo o dan y ffigysbren tuag at Iesu; a’r parti, y wledd, y dŵr yn win, yn arwydd, yn wyrth. Iesu’n cael ei weld, ei ganfod, a’i fawredd o’n dechrau cael ei ddeall.

Ac mae emynau’r Sul wedi dangos inni mai gweld Duw, canfod Duw, deall Duw ydi’n galwediaeth ninnau, heddiw, hefyd. Geiriau Morgan Rhys am “werthfawr drysor” yn ein hatgoffa ni o neges Thomas Merton fod yna, “yng nghanol bod pob un ohonom ni wreichionen o wirionedd pur sy’n perthyn yn llwyr i Dduw.” Geiriau Pedr Fardd am “ffrwyth y cyfamod hedd” yn ein hatgoffa ni bod y grawnwin a’r gwaed a’r gwin a’r gras yn gymysg oll i gyd. Geiriau Nicander — “a thithau, Iesu grasol, byth yw’r bywyd hwn dy hun” — yn ein hatgoffa ni fod Duw yn dal i greu, fod Crist dal yno i’w ganlyn. Ac erfyn Williams Pantycelyn — “trig yn Seion, aros yno” — yn ein hatgoffa ni mai nid yn ein pennau ni mae Duw yn unig, ond o’n cwmpas ni ac o’n mewn ni, ni gorff Crist. Ein galwedigaeth ni ydi gweld, darganfod a deall Duw, nid mewn storïau o’r Beibl yn unig, ond yn mywyd ac yn eneidiau heddiw.

Mae Simeon heno yn gweld, yn darganfod, yn deall. Ac mae o’n gwybod mai penllanw y gweld, y canfod a’r deall ydi gollyngdod, ydi cyflwyno’r einioes i Dduw, ydi gadael fynd ar bethau — ar bopeth — a gollwng ein hunain i mewn i afael, i ofal, i dragwyddoldeb Duw. “Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd yn ôl dy air. Canys fy llygaid a welsant dy iachawdwriaeth.” Oes o ddisgwyl i gael gweld, a darganfod a deall yn arwain Simeon at ddim mwy a dim llai na chyflwyno einioes gyfan i Dduw, a byw a marw felly.

Cymer, Arglwydd, f’einioes i i’w chysegru oll i ti.

Nid cysgu, neu ddiflannu, neu ddarfod ydi gollyngdod fel hyn; nid ymwrthod neu gilio ydi rhoi’n pwysau ni’n llwyr ar Dduw, ond modd o fyw o’r newydd. Mae athronydd mawr hanner cynta’r ugeinfed ganrif, Ludwig Wittgenstein, ydi dweud fel hyn am fywyd ffydd:

Rhaid i rywun beidio roi’i bwysau lawr ar y ddaear mwyach, ond hongian, fel petai, o’r nefoedd. Yna bydd popeth yn wahanol a fydd hi ddim yn wyrth wedyn os y medrwch chi wneud pethau na allwch chi eu gwneud rwan. Mae dyn sydd wedi’i gynnal oddi fry yn edrych yr un peth ag un sy’n sefyll ar lawr, ond mae cydadwaith y grymoedd arno’n amgen, er mwyn iddo allu gweithredu’n hollol wahanol i ddyn sy’n sefyll ar ei draed ei hun yn unig.

Cymer, Arglwydd, f’einioes i i’w chysegru oll i ti.

Hogyn a fagwyd yn Llanfair Pwllgwyngyll oedd Syr John Morris Jones, cyfieithydd emyn heno. Fe aeth o i Ysgol Friars ym Mangor, lle’r oedd Daniel Lewis Lloyd yn brifathro. Pan ddyrchafwyd Lloyd yn brifathro ysgol fonedd Coleg Crist yn Aberhonddu, fel aeth Morris-Jones yn ddisgybl hefo fo. O’r fan honno yr aeth Morris-Jones yn fyfyriwr i Goleg Iesu yn Rhydychen, gan ddod yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, cymdeithas Gymraeg y Brifysgol, cyn dychwelyd i Gadair y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor; fel ddaeth Daniel Lewis Lloyd hefyd nôl i Fangor yn Esgob yn 1890 — yr esgob cyntaf i fedru’r Gymraeg er dau gan mlynedd.

Mi oedd Morris-Jones yn ramadegydd o fri ac y awdur toreithiog am gymlethdodau’r gynghanedd a’r canu caeth Cymraeg. Ond mae ei gyfieithiad o emyn Frances Havergal yn parchu diniweidrwydd a diffuantrwydd y gwreiddiol.

Ar ôl gweld, a darganfod, a deall, does na ddim i’w wneud wedyn ond cyflwyno’r einioes i Dduw, gadael fynd ar bethau — ar bopeth — a gollwng ein hunain i mewn i afael Crist, hongian fel petai o’r nefoedd, a chael ein cynnal oddi fry.

Cymer, Arglwydd, f’einioes i i’w chysegru oll i ti; cymer, Arglwydd, cymer fi, byth, yn unig, oll i ti.

--

--

Siôn B. E. Rhys Evans
Siôn B. E. Rhys Evans

Written by Siôn B. E. Rhys Evans

Priest, Diocesan Secretary | Offeiriad, Ysgrifennydd Esgobaethol | Duc in altum

No responses yet