Ledio’r Emyn: “Carol Gŵr y Llety”
Mae’n hoedfa Gosber yn cynnwys rhyw lun ar bregeth fer, sy’n ein harwain at Emyn y Sul. Dyma oedd Emyn Pedwerydd Sul yr Adfent:
A welaist ti’r ddau a ddaeth gyda’r hwyr
o Nasareth draw, wedi blino’n llwyr?
Bu raid imi ddweud bod y llety’n llawn
a chlywais hwy’n sibrwd, “Pa beth a wnawn?”A wyt yn fy meio am droi y ddau
i lety’r anifail a hi’n hwyrhau?
Roedd yr awel neithiwr yn finiog oer
a llithrai dieithrwch dros wedd y lloer.A glywaist ti ganu ynghanol nos
a miwsig fel clychau draw ar y rhos?
Dychmygais unwaith fod rhywrai’n dod
i strydoedd Effrata i ganu clod.A weli di olau draw ar y bryn
a hwnnw yn ddisglair fel eira gwyn?
Mae’n gwawrio’n araf ym Methlehem dref
a’r dydd newydd-eni yn gloywi’r nef.A deimli di heddiw fod rhyfedd wyrth
yn datod y cloeon, yn agor pyrth?
O tyred, O tyred, heb oedi mwy,
i lety’r anifail i’w gweled hwy.Geiriau
W. Rhys Nicholas (1914–1996)
Tôn “Troyte”
A. H. D. Troyte (1811–1857)
Mi glywa’i eiliad o salm-dôn Troyte, a dwi nôl mewn Gwasanaeth Carolau brethyn cartref cyd-enwadol yng Nghapel Moreai yn Llangefni yn nyddiau’ mhlentyndod i. Fe fydda rhyw barti lleisiau cymysg yn siwr o ganu’r gosodiad iddi o eiriau Bill Nicholas, “Carol Gŵr y Llety”. Rwan, mae na rywbeth undonnog amadni fel tôn, ac mae hi’n gallu draggio — a doedd hi ddim mo’n hoff ran i o’r Gwasanaeth Carolau.
Ella mod i wedi dod i arfer hefo canu Anglicanaidd ers hynny, ac yn sylwi llai ar yr undonnedd, ac mai dyna pam dwi wedi ei dewis hi fel Emyn y Sul heddiw.
Neu efallai ei bod hi am i mi dreulio peth amswer hefo geiriau hynod Bill Nicholas, sy’n gelfydd ac yn ddwfn.
Gadewch i mi geisio’ch perwadio chi ei bod hi werth chweil.
Emyn am daith ydi Carol Gŵr y Llety, ond nid y daith da ni’n ei disgwyl.
“A welaist ti’r ddau a ddaeth gyda’r hwyr / o Nasareth draw, wedi blino’n llwyr?” Dyna eiriau agoriadol yr emyn — geiriau ceidwad y llety ydyn nhw, yn siarad hefo rhyw ffrind ar fore Dolig yn y gwesty ym Methlehem, yn disgrifio’i brofiad. Ni ydi’r ffrind yn gwrando arno fo. Ond hefyd ei lais o ydi’n llais ni gydol yr emyn — trwy’n canu ni, fo sy’n siarad
“A welaist ti’r ddau a ddaeth gyda’r hwyr / o Nasareth draw, wedi blino’n llwyr?” Ond nid taith y ddau yma — nid taith gorfforol, ddaearyddol Mair a Joseff o Nasareth draw i’w llety nhw ym Methlehem ydi taith yr emyn. Taith fewnol, taith emosiynol, taith grefyddol ceidwad y llety gawn ni.
Mae o’n dechrau mewn ansicrwydd. Ddaru o ddim agor drws y gwesty i groesawu’r cwpwl ddaeth o Nasareth. Siawns mai nid dyma’r tro cyntaf iddo fo wneud rhywbeth o’r fath. Ond mae’r peth yn chwarae ar ei feddwl o. All o ddim o’u hanghofio nhw. Mae o’n gwybod rhywsut na wnaeth o’r peth iawn. “A wyt yn fy meio am droi y ddau / i lety’r anifail a hi’n hwyrhau?” Ac mi oedd hi’n noson mor finiog oer hefyd.
A’r mywaf ma o’n siarad — yn troi pethau’n ei feddwl — y mwyaf ma o’n sylwi bod na fwy ar waith. “A glywaist ti ganu ynghanol nos / a miwsig fel clychau draw ar y rhos?” Dyma i chi geidwad y llety — dyn busnes — dyn dim ffwdan yn dechrau clywed pethau, yn dechrau gweld pethau’n wahanol, yn dechrau gweld mwy na’r wyneb.
Yn wir, mae o’n dechrau gwneud mwy na synhwyro — mae o’n dechrau teimlo, o fewn yr enaid rhywsut yn dechrau meddalu, yn dechrau gollwng gafael ar ofid a threfn, ar euogrwydd a drwgdybiaeth. “A deimli di heddiw fod rhyfedd wyrth / yn datod y cloeon, yn agor pyrth?” Ceidwad y llety, dyn y goriadau, yr un a glödd y drws yn wyneb y ddau a ddaeth, yn teimlo rhyddiad iachawdwriaeth yn treiddio oddi mewn iddo fo.
“O tyred, O tyred, heb oedi mwy, / i lety’r anifail i’w gweled hwy.” Yn y cwpled olaf, ei daith olaf o — yn cydio yn ei gyfaill, yn gadael cynhesrwydd y gwesty, yn rhuthro i’r stabl. Yn penlinio’n y gwellt.
Emyn am daith ydi Carol Gŵr y Llety, a ninnau’n ei chanu hi ar Ddolig pan na fydd na deithio. Fydd na ddim, efallai, y teithio corfforol, daearyddol da ni di ddisgwyl i ni a’n teuluoedd. Ond, rhywle, mae gwahoddiad Crist, mae atynniad Crist, dal yno, yn ein cymell ni i gerdded taith yr oesau, oddi wrth euogrwydd ac ansiwcrwydd, gan gefnu ar drugareddau fil y byd meidrol hwn, a chamu tuag at iachawdwriaeth a bywyd newydd; a’i diwedd hi yng nghwmni Duw yn gnawd mor agos inni â churiad y galon.