Ledio’r Emyn: “Arglwydd bywyd, tyred atom”
Mae’n hoedfa Gosber yn cynnwys rhyw lun ar bregeth fer, sy’n ein harwain at Emyn y Sul. Dyma oedd yr emyn ar Bedwerydd Sul y Pasg:
Arglwydd bywyd, tyred atom,
gobaith holl dylwythau’r llawr,
yn dy wanwyn gwena arnom,
rho i’n llwydni degwch gwawr;
tyred, Arglwydd,
ti yw’r atgyfodiad mawr.
Er ein gallu gweiniaid ydym,
tlawd yw dysg heb olud ffydd,
o addoli nerthoedd daear
ni ddown ni o’n rhwymau’n rhydd;
derfydd grymoedd:
erys grym y trydydd dydd.
Pan fo anghrediniaeth chwerw
heddiw’n cau amdanom ni,
pan ddiffygia’r breichiau dynol
yn ein gwendid clyw ein cri;
treigla’r meini,
Arglwydd, rhyngom a thydi.Geiriau
O. T. Evans (1916–2004)
Tôn “Cwm Rhondda”
John Hughes (1873–1932)
Sut mae bod yn Gorff Crist? Dyna ni’n cwestiwn ni yn Gosber ar gyfer Tymor y Pasg, gan geisio dysgu oddi wrth y disgrifiad gawn ni o Gorff Crist ar ffurf y gymuned Gristnogol gyntaf yn Actau’r Apostolion.
Sut mae bod yn Gorff Crist? Drwy ymroi o’n hunain i’n gilydd, medden ni ar Sul y Pasg Bach; a thrwy gyhoddi a phlethu’r newydd da i mewn i’n bywydau ni, medden ni’r wythnos ddiwethaf.
Heno, beth am ganolbwyntio ar elfen o arddull, o steil. Unwaith eto, yn ein darlleniad ni, mae Pedr yn ceisio argyhoeddi ei wrandawyr parchus o’r newydd da, yn blwmp ac yn blaen. Dyma’r un, ddim taliad carreg i ffwrdd, gwta wythnosau’n ôl, a wadodd ei Waredwr cyn cân y ceiliog, bellach yn tystiolaethu’n ddi-flewyn-ar-dafod. Ac meddai awdur yr Actau am ymateb y llywodraethwyr a’r henuriaid a’r ysgrifenyddion: “Wrth weld hyder Pedr ac Ioan, a sylweddoli mai lleygwyr annysgedig oeddent, yr oeddent yn rhyfeddu.”
“Hyder” — y gair gwreddiol ydi parrhēsía — yn llythrennol, dweud bob dim, bod yn bowld, siarad yn rhwydd a rhydd, tystiolaethu heb ddal dim nôl.
Ym 1904 a ’05, fe fu Diwygiad yng Nghymru a ruthrodd drwy drefi a chefn gwlad y genedl fel corwynt, yn llenwi capeli a chaeau, yn annog troediegaethau.
Mi gyrhaeddodd o Ynys Môn yn haf 1905 (dyma chi gyfarfod pregethu yn Llanfairpwll yn mis Gorffennaf y flwyddyn honno); ac fe ddaeth yno ar ffurf un o heolion wyth (yn wir, prif bregethwr cenedlaethol) y Diwygiad, Evan Roberts — lleugwr annysgiedig, fel y tasa awdur yr Actau wedi ei ddweud, ond un a fedrai siarad hefo hyder, hefo parrhēsía, Pedr.
Dyma’r Parchg W. O. Evans yn sgwennu am Evan Roberts yn y Cymro ym 1905:
Ac eto am ei weld yn y pwlpud:
A chan fyfyrio ar ei genadwri:
Tydi egni fel na ddim yn para. Mae hyder, parrhēsía, ar y raddfa honno o bosibl yn ansefydlog o’r dechrau, ac yn bendant yn rhy angerddol i’w gynnal yn iach. Erbyn 1906, mi oedd nerfau Roberts ar chwâl, ac fe dreuliodd bron i weddill ei fywyd yn dawel a gweddïgar ar lân y môr yn Brighton. (Er mae na ddweud, pan yr arweiniodd o’r gweddïau yn angladd ei dad ym 1928, i’r hyder, y parrhēsía, lenwi’r capel drachefn.)
Ond, os nad wastad yn eithriadol ac eithafol, mae hyder rhwydd a llon — hyder a ddaw o ymgolli yn nyfnderau y Duwdod, o agosatrwydd ar Dduw — yn briod nodwedd Corff Crist.
Siarad am Dduw, am ddaioni, am drysorau’r enaid, hefo’r hyder hwnnw ydi’n galwad ninnau hefyd.
Mae Cwm Rhondda yn un o emyn-donau’r Diwygiad. Fe’i chlywyd hi gyntaf mewn cymanfa ganu ym Mhontypridd ym 1905. Dyma dôn yr hyder rhwydd a llon.
Mae’r geiriau heno o waith y gweinidog O. T. Evans, a dreuliodd y gyfran heleathaf o’i weinidogaeth ym Machynlleth a’r cylch. Mae nhw’n eiriau sy’n ysu am hyder y Pasg, am y dyfnderoedd dyfnaf, yr agosatrwydd neilltuol hwnnw. Mae’r ddelwedd ola’n ysgytwol:
Pan fo anghrediniaeth chwerw
heddiw’n cau amdanom ni,
pan ddiffygia’r breichiau dynol
yn ein gwendid clyw ein cri;
treigla’r meini,
Arglwydd, rhyngom a thydi.