Ledio’r Emyn: “Ar ddydd ein bedydd…”
Mae’n hoedfa Gosber yn cynnwys rhyw lun ar bregeth fer, sy’n ein harwain at Emyn y Sul. Dyma oedd yr emyn ar Bumed Sul y Pasg:
Ar ddydd ein bedydd gwnaethpwyd ni
yn rhan o deulu dinas Duw;
croesawyd ni i gorlan Crist,
ac ef yw’n Bugail da a’n llyw.Ar ddydd ein bedydd galwyd ni
yn blant y Tad a’i gariad ef -
aelodau byw am byth i Grist,
ac etifeddion teyrnas nef.Ar ddydd ein bedydd rhwymwyd ni
i gefnu ar bob drwg a chas;
i gredu yn y Drindod lân,
a dilyn llwybrau union gras.Ar ddydd ein bedydd enwyd ni
a rhoddwyd arnom lun y Groes;
o dan ei faner milwyr ŷm
dros deyrnas Iesu ddyddiau’n hoes.Ar ddydd ein bedydd golchwyd ni
o’r pechod oesol sydd mewn dyn,
ac impiwyd ni mewn gobaith gwir
ym mywyd newydd Crist ei hun.Ar ddydd ein bedydd plannwyd ni
yn nyffryn teg y dyfroedd byw:
boed inni dyfu yno’n ir
a ffrwytho’n bêr er clod i Dduw.Geiriau
R. Glyndwr Williams (1918–2007)
Tôn “Melcombe”
Samuel Webbe (1740–1816)
Sut mae bod yn Gorff Crist?
Corff Crist ydi’r Eglwys, ac mae saith pennod gyntaf Actau’r Apostolion yn dangos inni Gorff Crist ar ffurf yr Eglwys gynharaf, yng Nghaersalem, yn y dyddiau, yr wythnosau, y misoedd cyntaf wedi’r Atgyfodiad. Da ni wedi eu gweld nhw, aelodau cynharaf Corff Crist, yn ein darllaniadau ni dros yr wythnosau diwethaf, yn ymroi i’w gilydd ac i’w bywyd nhw ar y cyd; ac yn adrodd eu stori nhw, ac yn gwneud hynny mewn ffordd rwydd, hyderus. Corff Crist — bywyd o ymroi ar y cyd, ac agwedd naturiol, ddengar wrth sôn am Dduw.
Sut mae bod yn Gorff Crist?
O bennod wyth ymlaen, mae’r hanes yn ffrwydro. Mae’r Apostolion yn gadael Caersalem, mae na bobl newydd yn cael clywed y stori, mae’r byd bach yn ehangu, mae Corff Crist yn tyfu.
Mae’r tyfiant hwnnw yno mewn meicrocosm yn ein darlleniad ni heno — mae Philip ar y ffordd allan o Gaersalem, tua Gasa; mae na un newydd, un neilltuol o ddieithr, yn cael clywed y stori, a gweld ei ran o ynddi; a’r diwedd ydi bedydd.
Beth ddysgwn ni heno, felly, am sut mae bod yn Gorff Crist? Mae Corff Crist yn fedyddiedig. Mi ydan ni i ddeall ein hunain fel pobl fedyddiedig. Ein bedydd ni ydi’n dechrau ni, ydi’n hunaniaeth ni.
Mae bedydd, a’r bywyd bedyddiedig, yn andros o naturiol. Does gen i fawr o amser i ddisgrifiadau o’r bywyd Cristnogol fel llwybr cul, serth; fel byrdwn; fel brwydr yn erbyn y byd; fel rhywbeth sy’n wrthun i’n natur ni. Sylwch yn y darlleniad heno pa mor naturiol oedd y bedydd cynnar hwnnw. Prin oedd rhaid i Philip, yr un duwiol yn y stori, wneud dim byd. Mae o yno ar y ffordd, a’r cerbyd yn teithio ’run ffordd ag o. Mi oedd yr Ysgrythur eisioes yn nwylo’r teithiwr, ac yntau’n barod hefo’i gwestiwn a’i chwilfrydedd. Ac yna, dyna’r dŵr, heb fod angen chwilio amdano; a’r cwestiwn hyderus, rhwydd hwnnw, “beth sy’n rhwystro imi gael fy medyddio?” Dim byd. Mae hi’n hawdd gwneud Cristnogaeth yn rhywbeth astrus. Dyma ichi fedydd cynhenid, greddfol, naturiol.
Ond mae bedydd, a’r bywyd bedyddiedig, hefyd yn andros o oruwch-naturiol. Nid golygu ydw i o hynny fod angen gwyrth; ond mae angen gweld y gras. Ar y ffordd allan o Gaersalem tua Gasa, mae na ddau’n cwrdd, ac yn y cwrdd hwnnw, mae na allu gweld gyffyrddiad Duw â dyn — yn y cwrdd hwnnw moddion gras yn galluogi i ddyn weld llun a delw Duw ynddo’i hyn, a goblygiadau tragwyddol hynny. Ar y ffordd allan o Gaersalem tua Gasa, mae yna foment a hanes i’w asio; mae yna’r unigol a’r cyfun i’w huno; mae yna’r hen a’r newydd i’w dwyn ynghyd; mae yna’r addweid a’r gwireddu i’w diwrnad; mae yna’r dŵr a’r Ysbryd i’w rhoi ar waith; y naturiol a’r grasusol yn rhan o’r rhagluniaeth.
Nid oes angen gwyrth; ond mae angen gweld y gras. Mae Corff Crist yn fedyddiedig — yn naturiol, ac yn llawn gras goruwch-naturiol.
Pan ddaeth hi’n amser casglu emynau Cymraeg at ei gilydd i’w cyhoeddi nhw fel Emynau’r Llan ar ddiwedd y nawdegau, fe sylweddolodd gadeirydd Pwyllgor Cerdd Esgobaeth Bangor, oedd yn gyfrifol am y gwaith, nad oedd na ddigon o emynau Cymraeg safonol am fedydd, am ystyr y sacrament, am y bywyd bedyddiedig. Yn ffodus iawn, y Canon Glyndŵr Williams oedd y cadeirydd hwnnw — ac yntau’n brif emynydd Esgobaeth Bangor yn yr ugeinfed ganrif hyd ei farwloaeth o yn 2007. Yn wir, siawns ei fod o’n ffurfio pedwarawd hefo Nicander, yr Esgob Timothy Rees a Gwynn ap Gwilym fel prif emynwyr y traddodiad Anglicanaidd Cymraeg ers Edmwnd Prys a’i Salmau Cân.
Mae ei emyn o, fel yr emynau gorau, yn dwyllodrus o syml — pob pennill byr yn cychwyn yr un modd, fel rhestr, bron — rhyw fath o gatecism. Mewn gwirionedd mae hi’n emyn hynod gynhwysfawr — gan nodi fesul un bob un o elfennau’r gwasanaeth bedydd ac ymagor eu hystyr; ond hefyd, wrth wneud hynny, yn cyfuno’r naturiol, y beunyddiol, y creadurol, hefo’r grasol, y cyfrin, y mawreddog. Dyma emyn yn dangos inni’r greadigaeth o’n blaenau ni, elfennau syml y bedydd; ac hefyd yn ein gwahodd ni i weld yr hyn na welwn ni ond â llygaid ffydd — y gras sydd inni’n wir fywyd, y Bod sy’n cynnal ei bodolaeth ni. Y naturiol a’r grasusol yn un, ym mywyd bedyddiedig Corff Crist. Wele’r naturiol a’r grasusol yn gymysg oll i gyd yn nelweddau’r pennill olaf:
Ar ddydd ein bedydd plannwyd ni
yn nyffryn teg y dyfroedd byw:
boed inni dyfu yno’n ir
a ffrwytho’n bêr er clod i Dduw.