Rŵan hyn

Pregeth ar y Pymthegfed Sul wedi’r Drindod

Siôn B. E. Rhys Evans
6 min readSep 9, 2018

Diarhebion 22:1–2, 8–9, 22–23; Salm 125; Iago 2:1–10, 11–13, 14–17; Marc 7:24–37

Pryd welsoch chi Iesu ddwytha? Pryd gawsoch chi ddwytha gip o’r nef?

+ In nomine…

Yfory mae hi’n bedwar cant a phedwar ar deg o flynyddoedd ers marw William Morgan, prif gyfeithydd Beibl Cymraeg 1588. Felly dyma ddechrau bore ma drwy’ch annog chi i ddarllen y Beibl.

Un o’r rhesymau pennaf pan dwi’n mynd i’r eglwys heddiw ydi i mi benderfynu, rhyw ddeunaw mlynedd yn ôl, ar daith trên rhwng Glasgow ac Oban yn yr Alban, y byddwn i’n darllen holl lyfr Efengyl Marc o glawr i glawr. Dwi’n dal i gofio Loch Lomond ymysg y niwl a’r coed pîn a’r bryniau y tu allan i’r ffenestr, ac, yn fy nwylo i, y stori fer, elfennol hon am ddicter a dioddefaint, am drais ac aberth, am iachád a chyfiawnder a chariad. Ac, fel sydd di digwydd dro ar ôl tro, ganrif ar ôl canrif, mi newidiodd y stori honno ’mywyd i.

Does dim angen i chi fod yn styc ar drên, wrth gwrs. Wrth i’r mwyar ymddangos ar y perthi, wrth i’r dail ddisgyn, wrth i’r nosweithiau hirhau, mae’n fy nharo i mai dyma’r amser delfrydol o’r flwyddyn i eistedd i lawr mewn cadair cadair gyfforddus rhyw gyda’r nos, gwydr gwag a photel o win o fewn hyd braich, Beibl yn eich côl, ac i ddarllen un o’r Efengylau drwyddi draw. Yn wir, rhwng rwan a diwedd y flwyddyn, mi allai rhywun ddarllen un Efengyl pob mis — pedair noson, pedair potel o win — ac fe alla’i o newid eich bywyd chi.

Wrth gwrs, un o’r pethau diddorol am ein ffydd ni ydi, pan fyddwn ni eisiau darllen am Iesu, sylfeynydd ein fydd, fe fyddwn ni’n troi, ni at un, ond at bedair stori am ei weinidogaeth wedi eu hysgrifennu mewn pedair Efengyl. Ac mae na gryn amrywiaeth yn yr Iesu y down ni ar ei draws yn y bedair Efengyl.

Os fuoch chi’n dod i’r eglwys yn ystod mis Awst, fe wyddoch chi i ddarlleniadau’r Efengyl ar ddydd Sul ffocysu ar y traethu maith o chweched bennod Efengyl Ioan, pan fo Iesu yn dysgu ei ddisgyblion a’i ddilynwyr am fara a gwin a chorff a gwaed. Mae’r traethu’n faith am fod yr Iesu da ni’n ei gwrdd yn Efengyl Ioan yn Iesu sydd am roi ei fraich o’ch cwmpas chi, am fynd a chi o’r neilltu am baned, am sgwrs, am esbonio pethau i chi, am wneud siwr eich bod chi’n deall y peth gwych yma sy’n digwydd, y peth anhygoel yma y mae Duw yn ei wneud.

Mae’r Iesu da ni’n ei gwrdd yn Efengyl Marc heddiw yn ymddangos yn dra gwahanol. Gydol Efengyl Marc, mae Iesu ar fynd o hyd. Y bore yma mae o newydd gyrraedd Tyrus, ac mae’n cwrdd â dynes a’i merch hi’n sâl, ond tydi hi ddim yn Iddew, ddim yn un o bobl ddewisedig Duw, fel y byddai Iddewon fel Iesu wedi gweld pethau.

Ac felly mae’n dweud wrthi, pan ofynna hi am ei help, Gad i’r plant gael digon yn gyntaf; nid yw’n deg cymryd bara’r plant a’i daflu i’r cŵn.” “Ti a’th frech sâl — aros dy dwrn. Da chi ddim yn rhan o bobl ddewisedig Duw. Efallai y cwech chi’ch tro, ond nid rwan. Dos o ’ma.” Tydi Iesu ddim yn neis yma. Mae’n o’n annymunol, yn sarhaus; prin ei fod o hyd yn oed yn gyfiawn i’n clustiau ni. Ond mae’r fam yn dal ei thir — “mae hyd yn oed y cŵn o dan y bwrdd yn bwyta o friwsion y plant,” meddai hi. Ac fe allwch chi bron glywed trugaredd a chyfiawnder Duw yn adleisio yn y tawelwch a fyddai wedi dilyn hynny. “Am iti ddweud hynny, dos adref,” meddai Iesu; “mae dy ferch di’n well.”

Ac yna mae Iesu yn syth yn ôl ar daith ac yn cyrraedd Decapolis. Ac mae nhw’n dod â dyn byddar, mud ato fo. Ac yn syth, heb dorri gair, mae Iesu mynd â fo o’r neilltu, ac yn poeri ar ei fys, ac yn cyffwrdd tafod y dyn a’i glustiau. Ac mae’r dyn yn clywed ac yn siarad. Ac, unwaith eto, o fewn cwta bedair adnod, mae sŵn trugaredd a chyfiawnder Duw yn adleisio, ac yn gwneud gwahaniaeth.

Dyna i chi flas o natur Iesu yn Efengyl Marc. Mae o’n diamynedd, yn anoddefgar, yn angerddol, wedi’i gipio gan bwrpas, gan genhadaeth bron nad ydi o hyd yn oed ei hun yn ei deall yn iawn.

Ein tasg yw dod i adnabod y gwahanol agweddau hyn ar Iesu. Mae’n hawdd cymryd Iesu’n yn ganiataol — byw hefo rhyw syniad eithaf cyfforddus o beth a phwy ydi Iesu. Ond rhaid sydd i ni barhau i’w weld o o bob cyfeiriad, o bob ogwydd — y dyn a’r Duw cymhleth, cyflawn. Oblegid os nad ydym ni’n ei adnabod yn llawn, sut fyddwn ni’n gwybod pwy ydi o pan welwn ni fo?

Pryd welsoch chi Iesu ddwytha? Pryd gawsoch chi ddwytha gip o’r nef?

Mae celfyddyd y Canol Oesoedd yn aml yn portreadu’r nefoedd fel lle glân, euraidd, trefnus, mewn gwrthgyferbyniad â budreddi a llanast uffern islaw. Yn Llyfr y Datguddiad, ar ddiwedd y Beibl, fe welwn ni ddarlun o’r nefoedd fel dinas berffaith, Dinas Duw, lle mae’n bywyd yn rhyw fath o oedfa ddiddiwedd — dyna i chi obeithio na fydd hi felly, diolch i’r nefoedd.

Ond un o’r delweddau mwyaf cyffredin a gawn ni o’r nefoedd — o deyrnas Dduw — yn yr Efengylau ydi gwledd, gŵyl, pryd bwyd ar y cyd, a Duw yno i’n croesawu ni a Duw yno i’n diwallu ni.

Ac felly pan fo storïau’r Efengyl am fwyd — pwy sy’n bwyta, pwy sy’n cael gwahoddiad — mae’n bwysig i ni dalu sylw.

Mae’r darlun hwnnw o’r nefoedd fel wledd wrth wraidd y stori o’r Efengylau am fwydo am borthi’r 5,000, pan fo llond llaw o fara ac ambell bysgodyn yn nwylo Iesu yn ddigon i ddiwallu’r dorf gyfan. Yn rhyfedd ddigon, caiff y stori honno ei hadrodd ddwywaith yn Efengyl Marc — am y tro cyntaf cyn y darlleniad a glywsom ni bore ma, ac am yr eildro yn union ar ei ôl. Y tro cyntaf, Iddewon yn unig sydd nay n y dorf, pobl ddewisedig Duw, pobl fel Iesu. Yr ail dro, mae Iesu yn bwydo tyrfa sy’n cynnwys llu o wahanol bobl — pobl fel y fam a’i merch a glywsom amdanynt yn y darlleniad heddiw. “Ti a’th frech sâl — aros dy dwrn.” Dyna oedd Iesu wedi ei ddweud wrthi. Ac yna mae trugaredd a chyfiawnder Duw yn fyddarol lenwi’r lle, ac mae’r addewid o fwyd, o wledd, o nefoedd, yn sydyn yn wirionedd i filoedd, i bawb.

Pryd welsoch chi Iesu ddwytha? Pryd gawsoch chi ddwytha gip o’r nef?

Temtasiwn mawr i ni fel Cristnogion ydi gweld Iesu fel rhywun fu’n byw ers talwm, ac i weld y nefoedd fel rhywbeth yn y pellter sydd i ddod. Ac rydyn ni yn styc yn y canol, rhyw le diddrwg-didda, dibwys, rhwng Glasgow ac Oban, dim gwyrthiau, dim angylion, dim gwledd.

Ond rhyfeddod ein ffydd ni, wrth gwrs, ydi ein bod ni’n bobl yr Atgyfodiad rŵan hyn. Rŵan hyn, yma, yn awr ac ynom ni, mae Iesu a’r nefoedd yn cyfarfod. Fel y byddwn ni’n ei ddweud yn y munud, er ein bod yn llawer, un Corff ydym ni, Corff Crist; ac fe gymerwn Gorff Crist mewn bara a gwin mewn gwledd hefo Duw yno i’n croesawu ni a Duw yno i’n diwallu ni.

Pan fo trugaredd a chyfiawnder Duw yn atseinio yn y byd hwn — pan fyddwn ni’n helpu trugaredd a chyfiawnder Duw i atseinio yn y byd hwn — dyna lle mae Iesu i’w weld, a dyna lle welwn ni gip o’r nefoedd hefyd.

Gwyrth ein bywyd Cristnogol ni ydi mai rŵan hyn, a phob dydd, ni ydi Corff Crist, rŵan hyn, a phob dydd da ni i weld y nefoedd.

Pryd welsoch chi Iesu ddwytha? Pryd gewch chi nesa gip o’r nef?

--

--

Siôn B. E. Rhys Evans
Siôn B. E. Rhys Evans

Written by Siôn B. E. Rhys Evans

Priest, Diocesan Secretary | Offeiriad, Ysgrifennydd Esgobaethol | Duc in altum

No responses yet