“Adeiladwch yr hen adfeilion; peidiwch â diffodd yr ysbryd; unionwch y ffordd”

Pregeth ar Drydydd Sul yr Adfent

Siôn B. E. Rhys Evans
6 min readFeb 22, 2018

Cadeirlan Bangor, 17 Rhagfyr 2017

Eseia 61:1–4, 8–11; Magnificat; 1 Thesaloniaid 5:16–24; Sant Ioan 1:6–8, 19–28

+ In nomine…

Adeiladwch yr hen adfeilion

Peidiwch â diffodd yr ysbryd

Unionwch y ffordd

Mewn cwta wyth niwrnod mi fydd hi’n Ddolig; ac mewn cwta bythefnos mi fydd hi’n flwyddyn newydd. Ac felly dyma ni, yn rhy fuan o bosibl, ar ddiwedd cyfnod o baratoi — paratoi i gwrdd â’r Crist a ddaw’n faban ym mhreseb Bethlehem, ac a ddaw hefyd drachefn i farnu’r byw a’r meirw; paratoi hefyd ar gyfer blwyddyn newydd i’w byw yng ngoleuni y Crist ym-gnawdol-iedig — blwyddyn newydd sydd, fel pob blwyddyn newydd, yn llawn gobaith, yn llawn addewid, yn llawn pryderon, yn llawn o’n annisgwyl. Dyma ni ar ddiwedd cyfnod o baratoi; dyma ni ar ddiwedd blwyddyn a fu fel pob blwyddyn yn llawn gobaith ac addewid a phryderon, a’r annisgwyl. A dyma ni ar drothwy cyfod newydd.

A dyma ni felly yn edrych o’n blaenau — yn edrych ymlaen at y dathliad o’r Dolig sydd i ddod, ac at y flwyddyn sy’n ymestyn o’n blaenau ni. A dyma ni’n gofyn y cwestiynau hynny a ofynnwn ni wrth edrych ymlaen, wrth sefyll ar y trothwy, wrth ddirnad y dyfodol:

Sut fydd hi?

Be wnawn ni?

Pwy fyddwn ni?

Sut fydd hi yn y flwyddyn a ddaw? Beth wnawn ni hefo’n hamser ni, hefo’n doniau ni, hefo’n hegni ni, hefo’n cariad ni? Pwy fyddwn ni — pwy fydda i — sut fath o berson fydda i — sut fath o Gristion fydda i — yn y flwyddyn a ddaw.

O’n darlleniadau ni bore ma, fe gawn ni dri gair o gyngor i’n rhoi ni ar ben ffordd — tri gair o gyngor am y dyfodol gan dri o leisiau mawr y Beibl:

Meddai Eseia: Adeiladwch yr hen adfeilion

Meddai Paul: Peidiwch â diffodd yr ysbryd

A meddai Ioan Fedyddiwr: Unionwch y ffordd

Meddai Eseia: Adeiladwch yr hen adfeilion

Proffwyd enaid ei gymuned o ydi Eseia. Yn wahanol i rai o broffwydi eraill yr Hen Destament sy’n cynghori brenhinoedd ac sy’n rhan o wleidyddiaeth y genedl, yr hyn sydd ar fryd Eseia ydi enaid y gymuned — ydi’r gymuned yma’n iach, ydi ei blaenoriaethau hi’n y lle iawn, ydi ei pherthynas hi hefo Duw yn fyw ac yn onest, ydi gweledigaeth Duw yn fyw yn ei phlith hi.

Yn ein darlleniad ni heddiw, mae o’n cyfarch cymuned Israel ar gyfnod o newid. Dyma gymuned sydd newydd ddychwelyd i Jerwsalem ar ôl cyfnod yn byw fel ffoaduriaid, fel caethwaesion ym Mabilon. Dyma gymuned oedd wedi ei hysgwyd, wedi ei dinistrio, wedi ei charcharu, a rwan wedi dychwelyd i’w rhyddhád, i’w mamwlad. Dyma genedl sy’n dechrau dirnad y dyfodol, a phryder Eseia ydi na fydd ei blaenoriaeth hi’n y lle iawn — na fydd ei henaid hi’n y lle iawn. Ar ôl cyfnod o ddioddefaint, dyma gyfnod rwan o ail-gyfoethogi, o ail-adeiladu; a phryder Eseia yw y bydd y lleiaf, y gwanaf, yr olaf yn mynd yn anghof yng nghanol y adeiladu newydd.

A dyma felly ei orchymyn o: “Adeiladwch yr hen adfeilion” — nid ail-adiladu ymarferol mae o’n ei olygu. Ond yng nghanol ail-adeiladu’ch trefi, yng nghanol ail-adeiladu’ch busnesau, yng nghanol ail-adeiladu’ch cymunedau — peidiwch anghofio am y lleiaf, y gwanaf, yr olaf. Ail-adeiladwch yr hen adfeilion oedd yn lannerch iddyn nhw. Ail-adeiladwch yr hen adfeilion oedd yn noddfa iddyn nhw. Wrth i chi adeiladu’ch cymuned o’r newydd, gwnech yn siwr eich bod chi’n adeiladu lle i bawb — llannerch i bawb, noddfa i bawb. Wrth ddirnad y dyfodol — gwnewch siwr fod na lannerch, fod na noddfa sy’n fynegiant o gariad at gyd-ddyn.

Wrth i ni ddirnad ein dyfodol ni, wrth i ni ystyried

Sut fydd hi?

Be wnawn ni?

Pwy fyddwn ni?

beth am ofyn i’n hunain: sut fyddwn ni’n adeiladu’r hen adfeilion yn y flwyddyn sydd i ddod. Sut y gallwn ni lunio’n bywydau ni fel ein bod ni’n fwy parod i gyfarch, i roi cymorth i’r lleiaf, y gwanaf, yr olaf yn ein plith. Hefo Eseia yn broffwyd ein heneidiau ninnau — lle allwn ni, fel unigolion, fel teuluoedd, fel cymuned yr eglwys yn y fan yma, fod yn fwy effro i anghenion eraill, yn fwy hael hefo’n hadnoddau, yn fwy afradlon hefo’n cariad?

Meddai Eseia: Adeiladwch yr hen adfeilion

Meddai Paul: Peidiwch â diffodd yr ysbryd

Llythyr Paul at y Thesaloniaid, at yr eglwys yn Thesalonica, ydi’r ddogfen Gristnogol gynharaf i oreosi i’n dydd ni. Does na ddim byd yn y Testmanet Newydd sy’n hyn na’r llythyr yma. Dyma i ni gipolwg, felly, ar un o’r eglwysi cynharaf un, trwy lygaid un a fu’n ei chanol hi, a roddodd enedigaeth iddi. A doedd bywyd ddim yn hawdd i’r eglwys fore hon yn Thesalonica. Dyma griw bach o Gristnogion yng nghanol byd nad oedd yn cydymdeimlo hefo nhw. A beth ma Paul am i’r eglwys fore hon ganolbwyntio arni? Sut mae nhw i gynnal eu bywyd ar y cyd yng nghanol cymdeithas estron? Be di ei flaenoriaeth o ar gyfer y Cristnogion cyntaf yma?

“Peidiwch â diffodd yr Ysbryd.” Peidiwch ag anghofio mai mewn gweddi ac addoliad y’ch ganed chi; mai mewn gweddi ac addoliad y mae’ch henaid chi’n fyw; mai mewn gweddi ac addoliad y mae’ch gwir gartref chi. “Peidiwch â diffodd yr Ysbryd.” Ac nid unrhyw fath o weddi ac addoliad, ond gweddi ac addoliad angerddol, gweddi ac addoliad llawn ysbryd. Dyna oedd yn ddeniadol ac yn egnïol yn y dechrau, meddai Paul. Pediwch ag anghofio hynny, peidiwch â diffodd hynny.

Meddai’r offeiriad Michael McLean, “mae i Eglwys Iesu Grist ddwy brif nodwedd: mae rhaid iddi fod o ddifri, ac mae’n rhaid iddi fod yn hwyl.” A dyna chydig o beth ma Paul yn ei ddweud fan hyn, wrth son am yr ysbryd: cofiwch — mi oedd eich gweddi a’ch haddoliad chi o ddifri ac yn hwyl (yn llawn ysbryd). Peidiwch anghofio hynny.

Wrth i ni ddirnad ein dyfodol ni, wrth i ni ystyried

Sut fydd hi?

Be wnawn ni?

Pwy fyddwn ni?

beth am ofyn: sut beth ydi’n haddoli a’n gweddïo ni. Oes na fflam yna? Ydi o o ddifri? Ydi o’n hwyl? Fyddai hi’n dywyllach hebddo fo? Sut mae cynnal y fflam — ail-gynnau’r fflam — mwynhau llewyrch fflam yr ysbryd yn y flwyddyn sydd i ddod?

Meddai Paul: Peidiwch â diffodd yr ysbryd

Meddai Ioan Fedyddiwr: Unionwch y ffordd

Mae Ioan Fedyddiwr yn un or bobl prin na — mae ganddo fo rôl mewn bywyd, mae ganddo fo alwedigaeth, ac nid bod yn geffyl blaen mohoni; a, thu hwnt i hynny, a dyma’r peth prin, dyma sy’n unigrwy — mae o’n deall ac yn cofleidio’r alwedigaeth honno. Galwedigaeth Ioan Fedyddiwr, pwrpas Ioan Fedyddiwr, ydi cydnabod, cyfarch a pharatoi’r ffordd at Iesu. “Dyma fo,” meddai Ioan wrth weld Iesu. “Dyma fo,” meddai Ioan, yn y groth, wrth y llyn, yn yr Iorddonen, yn y carchar — “nid fi, ond fo… a dyma’r ffordd.” Mae gostyngeiddrwydd y cymeriad yma’n llewyrchu o’i amgylch o, a’i gysondeb o’n hynod: “Dyma fo. Nid fi, ond fo… a dyma’r ffordd.”

Wrth i ni ddirnad ein dyfodol ni, wrth i ni ystyried

Sut fydd hi?

Be wnawn ni?

Pwy fyddwn ni?

sut y gallwn ni gyfeirio eraill at Iesu yn y flwyddyn sydd i ddod. Beth yn ein bywydau ni sy’n llewyrchu cariad Crist mewn ffordd sy’n ddeniadol ac yn atyniadol. Lle yn ein bywydau ni ma na gyfle i arddangos arwyddion croes ac atgyfodiad mewn modd sy’n datgelu’n ffydd ni yng Nghrist? Pryd, yn y Dolig a ddaw, yn flwyddyn a ddaw, fydd na gyfle i son am obaith Crist, ac i annog eriaill i’n dilyn ni wrth i ni ei ddilyn o?

Meddai Ioan Fedyddiwr: Unionwch y ffordd

Wrth i ni baratoi i gyfarch Crist a ddaw i’n plith ni yn faban ac yn farnwr dros y dyddiau nesaf; wrth i ni baratoi i gwrdd â Christ a ddaw i’n plith yn y bara a’r gwin ar fwrdd yr allor y bore ma; wrth i ni baratoi i fyw yng ngoleuni presenoldeb ym-gnawdol-iedig Crist y Nadolig hwn ac yn y flwyddyn a ddaw:

Sut fydd hi?

Be wnawn ni?

Pwy fyddwn ni?

Meddai Eseia: Adeiladwch yr hen adfeilion

Meddai Paul: Peidiwch â diffodd yr ysbryd

Meddai Ioan Fedyddiwr: Unionwch y ffordd

Amen.

Sign up to discover human stories that deepen your understanding of the world.

Free

Distraction-free reading. No ads.

Organize your knowledge with lists and highlights.

Tell your story. Find your audience.

Membership

Read member-only stories

Support writers you read most

Earn money for your writing

Listen to audio narrations

Read offline with the Medium app

--

--

Siôn B. E. Rhys Evans
Siôn B. E. Rhys Evans

Written by Siôn B. E. Rhys Evans

Priest, Diocesan Secretary | Offeiriad, Ysgrifennydd Esgobaethol | Duc in altum

No responses yet

Write a response